Tuesday, June 16, 2009

Lib Dem Watch 4

Diolch i gyfaill o Geredigion (lle maen nhw'n deall y math yma o beth yn iawn) am dynnu fy sylw at athrylith y Lib Dems yn y maes hynod o arbenigol o wneud cam ddefnydd llwyr o ystadegau, ffigyrau a graffiau.

Yma, er enghraifft maent yn honni mai dim ond y nhw neu Lafur allai ennill is etholiad Glenrothes trwy ddangos graff o ganlyniad etholiadol etholaeth arall yn Dunfirmlin ddwy flynedd ynghynt.!

Neu yma maent yn dangos faint o gynnydd oedd y Lib Dems wedi ei wneud (yn ol un pol piniwn) yn Crewe & Nantwitch. Roedd y pol hefyd yn dangos nad oedd ganddynt obaith o ennill y sedd.

Maent yn cymryd mantais o anwybodaeth pobl o drefn pleidleidio d'Hont yma, er mwyn gallu cam arwain pobl sydd ddim yn hoffi'r Toriaid i bleidleisio iddynt. Mae hon yn debyg i ymdrechion Jenny Randerson yng Nghanol Caerdydd.

Ceir triciau eraill hyd yn oed yn fwy tebyg i'r rhai Canol Caerdydd yma, lle mae etholiadau San Steffan sy'n cael eu cynnal o dan drefn FPTP yn cael eu drysu'n fwriadol efo rhai Ewrop sy'n cael eu cynnal mewn etholaeth llawer iawn mwy ac o dan yfundrefn bleidleisio cwbl wahanol.

Ceir tric tebyg yma - ond y Gwyrddion syn ei chael hi y tro hwn.

Enghraifft wych o gam lunio graffiau yma er mwyn gwneud i faint o Lib Dems sy'n twyllo ar eu treuliau edrych yn llai nag ydyw mewn gwirionedd.

Enghraifft arall wych o graff wedi ei gam lunio yng Ngheredigion - un oedd mor hynod nes iddo ddod o hyd i'w ffordd i bapur arholiad.

Ac wrth gwrs pan mae rhywun arall yn gwneud yr un math o beth 'does yna neb yn cwyno'n fwy croch na'r Lib Dems.

A dweud y gwir mae rhai o'r rhain mor gyfan gwbl ddi gywilydd maent yn ddigri. Ond mae dwy neges arall i'w cymryd o'r holl duedd hefyd:

(1) Mai'r gwacter sydd wrth galon ideolegol y blaid sydd yn gyfrifol yn y pen draw am y dull cwbl gamarweiniol yma o wleidydda.
(2) Mae ceisio camarwain pobl yn fwriadol yn arwydd di feth o ddirmyg y sawl sy'n ceisio camarwain at y sawl mae'n ceisio eu camarwain. 'Dydan ni ddim yn dweud celwydd wrth bobl yr ydym yn eu parchu.

2 comments:

Anonymous said...

Y gorau erioed oedd "It's a tight race between Labour and the Lib Dems in Cardiff West says election expert Chris Rennard". Chris Rennard oedd ysgrifennydd cyffredinol y blaid ar y pryd.

Anonymous said...

Ie, a beth oedd canlyniad y Lib Dems yn etholiad y Cynulliad 2007?

Pedwerydd - tu ol i Lafur, y Ceidwadwyr a Plaid!