Dwi am wrthsefyll y demtasiwn i ddiflasu pawb efo mwy am ymadawiad disymwth DET a'r Blaid, felly oni bai bod datblygiad arwyddocaol arall yn y stori mi adawaf i bethau fynd. Serch hynny dwi am godi un peth bach cyn hynny - y clip radio yma, sydd i'w gael ar Golwg360.
Dwi'n meddwl bod y clip yn ei gwneud yn hollol glir i Dafydd ystyried y syniad o adael y Blaid ac eistedd fel aelod annibynnol gyntaf yn ystod haf 2015 - yr union bryd daeth i gytundeb efo'r Blaid yn ganolog a'i etholaeth y byddai'n osgoi gwneud datganiadau cynhenus am y Blaid - ac o ganlyniad i hynny dderbyn eu cefnogaeth i sefyll yn etholiad 2016.
Dydi o ddim yn egluro wrth gwrs pam na ymladdodd etholiad 2016 fel ymgeisydd annibynnol, a disgwyl nes bod yr etholiad allan o'r ffordd cyn mynd ati i wireddu ei fwriad.
2 comments:
Pam na gyhoeddod tan wedi'r etholiad? Wel, mae'r ateb yn syml dybiwn, ymgyrch etholiadol yn ddrud ar y naw ac amhosib yw lledu neges o Ddinas Mawddwy i Uwchmynydd heb byddin o gefnogwyr yn dosbarthu a chnocio drysau mewn glaw neu hindda. RĂȘl ergyd i'r aelodau sydd wedi bod mor driw ato, yn ei gefnogi a'i helpu, er gwaethaf pob helynt.
Oes dim rhaid i'r Cynulliad ystyried deiseb gyhoeddus hefo 100 o enwau arno?
Siawns y gellid cael 100 ymhlith pleidwyr dadrithiedig meirion-dwyfor i drefnu rhywbeth fel hyn?
Beth am drefnu protestiadau y tu allan i'w gymorthfeydd yn yr etholaeth?
Beth am crowd-fundio achos cyfreithiol am "breach of contract?
Mae'r Arglwydd yn dibynnu ar y synnwyr o "fatalism" a difaterwch cyffredinol i oroesi yn y modd mwyaf cywilyddus posib.
Onid oes dangos iddo mai trech gwlad nag arglwydd?
Post a Comment