Sunday, October 23, 2016

Pam na ddylai'r Blaid glymbleidio efo Llafur

Mae cryn sylw cyfryngol wedi ei roi i'r syniad o glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur tros y dyddiau diwethaf - er y dylai araith Leanne fod wedi rhoi taw ar hynny am y tro.

Yn arwynebol mae yna resymeg yn cynnal y syniad.  Gyda chanlyniad y refferendwm, y senoffobia sydd wedi codi yn sgil hynny a symudiad disymwth y Toriaid tua'r Dde anoddefgar, senoffobaidd, mae yna ddadl tros ddod a'r elfennau blaenagar, goddefgar gwrth senoffobaidd yng Nghymru at ei gilydd.  

Beth bynnag fy ngwahaniaethau efo Llafur Cymru byddwn yn rhoi fy hun ar yr un ochr na nhw yn y cyd destun yma - er gwaetha'r ffrwd anoddefgar, gwrth Gymreig a gwrth Gymraeg sydd wedi ei nodweddu'r blaid  hyd yn gymharol ddiweddar. 

Fodd bynnag, byddai hynny'n gamgymeriad - a dyma pam:


1). Oherwydd mai'r patrwm arferol yn y DU (ag eithrio Gogledd Iwerddon lle mae'r patrymau etholiadol yn cael eu gyrru gan rymoedd hollol wahanol) ydi bod clymbleidiau yn ddi os yn arwain at gosb etholiadol i'r blaid leiafrifol yn y glymblaid yn yr etholiad yn dilyn y llywodraeth glymblaid.  Mae hefyd fel rheol - er nad pob tro - yn arwain at gryfhau sefyllfa'r blaid fwyafrifol.  Gellir dadlau ynglyn a pham bod hyn yn digwydd (pwnc i flogiad arall o bosibl), ond 'does yna fawr ddim amheuaeth ei fod yn digwydd.  Dydi'r patrwm hwn ddim wedi ei gyfyngu i'r DU - o bell ffordd.  'Dydi'r Blaid ddim eisiau cryfhau sefyllfa Llafur na gwanio ei sefyllfa ei hun.

2). Oherwydd bod y Blaid Lafur mewn cyflwr ansefydlog - os nad ffrwydrol - ar hyn o bryd.  'Does yna ddim dal beth sydd am ddigwydd nesaf efo'r Blaid Lafur.  'Dydi hi ddim yn syniad gwych i unrhyw blaid, nag yn wir berson,  gysylltu ei hun yn agos efo rhywbeth a allai'n hawdd ffrwydro.  'Dydi bod yn collateral damage - chwedl ein cyfeillion Americanaidd - ddim yn rhywbeth y dylai 'r Blaid roi ei hun mewn sefyllfa i ymgyraedd tuag ato.  Mae'r Blaid Lafur ar hyn o bryd yn rhy berygl i'w fodio rhyw lawer.  

3). Dydi safle bargeinio'r Blaid ddim yn gryf.  Yn sgil ymadawiad yr Arglwydd Ellis-Thomas o gorlan y Blaid a hanner ymadawiad Nathan Gill o UKIP, mae gan Lafur nifer o opsiynau.  'Dydyn nhw ddim yn ddibynol ar y Blaid, ac felly nhw fyddai'n dominyddu unrhyw drafodaethau, a nhw hefyd fyddai 'n tra arglwyddiaethu tros unrhyw ddeillianau polisi.

4). Yn fwy arwyddocaol na'r un o'r uchod ydi cyfeiriad tymor canolig i hir y Blaid.   Dylai prif  amcan strategol y Blaid fod wedi ei gyfeirio'n bennaf at ddifa tra arglwyddiaeth etholiadol y Blaid Lafur yng Nghymru.  Mae Llafur wedi dominyddu Cymru yn etholiadol ers bron i ganrif.  'Dydi canlyniadau hynny heb fod yn dda i Gymru - mae'n dlotach na bron i unrhyw ardal arall yng Ngorllewin Ewrop.  

Y llywodraeth orau i Gymru ei chael erioed oedd llywodraeth Cymru'n Un.  Roedd yr hyn oedd yn ddiddorol ac arloesol amdani yn ddeilliant i fewnbwn Plaid Cymru - a roedd Cymru ar ei hennill yn y byr dymor.  Ond yn y tymor canolig roedd ar ei cholled oherwydd i'r glymblaid gryfhau Llafur yn etholiadol a gwanio'r Blaid.  Canlyniad tymor canolig hyn oedd llywodraeth mwyafrifol Llafur o 2011 i 2016 - un a lithrodd yn ol i ddarparu'r arlwy di hid, di ddychymyg arferol.  Y peth gorau allai ddigwydd i Gymru ydi i Lafur gael ei hun yn yr un lle a Llafur yr Alban - hynny ydi yn drydydd plaid gyda dylanwad ymylol ar fywyd y wlad. 

 Hyd yn oed os ydi hi'n bosibl gwella Cymru yn y byr dymor trwy glymbleidio efo Llafur, ni ddylid gwneud hynny - Llafur gryfach ydi'r peth diwethaf mae Cymru ei hangen.  Os ydi hanes y ganrif ddiwethaf yn dangos unrhyw beth i ni, mae'n dangos hynny.

1 comment:

Cymru Rydd said...

Cytuno hefo dy ddadansoddiad.

Yn wir, gellid ychwanegu dau reswm arall dros beidio clymbleidio.

Byddai clymbleidio i bob pwrpas yn golygu mai'r Ceidwadwyr/UKIP fyddai'r wrthblaid swyddogol- datblygiad peryglus o glywed rhai o'r synau sydd wedi eu gwneud am gael gwared ar y Senedd a dychwelyd at reolaeth ganolog o Lundain.

Hefyd, byddai clymbleidio'n golygu mai dim ond 19 aelod a fyddai ar gael i scriwtineiddio pob deddf gaiff ei chyflwyno yn y Senedd- nifer chwerthinllyd o fychan o gofio pwysigrwydd y gwaith hwn.