Thursday, October 06, 2016

Gwirio 'ffeithiau' Llafur Arfon

Roedd cywiro honiadau ffug Llafur Arfon yn un o swyddogaethau'r blog yma yn ystod y misoedd cyn Etholiad Cynulliad 2016.  Mae yna ambell i honiad cwbl ffug wedi ei gwneud ers hynny - ond mae'n anodd meddwl am un mwy digywilydd neu anwybodus na hon.

Honiad sydd gennym y tro hwn bod diweithdra yn Arfon yn uwch nag y bu erioed.



Mae'r ffeithiau yn adrodd stori wahanol.  Mae'r ffigyrau diweithdra cyfredol yn y DU yn gymharol isel wrth safonau hanesyddol diweddar.  Yn sicr maent cryn dipyn yn is na'r 12% a gyrhaeddwyd yng nghanol yr wythdegau.  Mae'n hynod, hynod anhebygol bod unrhyw ran o'r DU efo cyfraddau diweithdra uwch na'r hyn a gafwyd yn yr wyth degau a'r naw degau.


Ond i edrych yn benodol ar Arfon.  Dydi hi ddim yn hawdd dweud yn union beth ydi'r ffigyrau yn Arfon ar hyn o bryd oherwydd nad ydi ffigyrau ar gyfer etholaethau unigol yn cael eu cyhoeddi yn aml iawn, ond mae'r siart isod yn dangos bod ffigyrau Gwynedd yn gymharol isel o gymharu a Chymru.  Mae'n debyg bod ffigyrau Arfon yn well na rhai Meirion Dwyfor oherwydd bod mwy o weithgarwch economaidd yma.  Mae'r wybodaeth isod wedi dyddio rhywfaint, ond mae cyfraddau diweithdra yng Nghymru a'r DU wedi gostwng ychydig ers eu cyhoeddi.




Ac mae'r gyfradd yn is nag oedd y llynedd.  Cyhoeddwyd y ffigyrau hyn ym mis Mehefin eleni.



Felly roedd Llafur Arfon yn honni bod diweithdra yn uwch na mae wedi bod erioed yn Arfon, ond mae'n debyg y byddai'n fwy cywir i ddweud ei fod yn is nag yw wedi bod ers saith degau'r ganrif ddiwethaf.

Byddai'n braf gallu cynnal disgwrs gwleidyddol wedi ei seilio ar ffeithiau yn hytrach na ffrwyth dychymyg - ond dydan ni ddim yn y fan yna eto mae gen i ofn.


1 comment:

Unknown said...

Heb sôn am enllibio Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad sydd ill dau'n gweithio'n gyson ac yn galed dros eu hetholaeth a Chymru. Celwydd digywilydd gan y Blaid Lafur, nid am y tro cyntaf.