Friday, October 21, 2016

Y Blaid yn ennill is etholiad arall _ _

_ _ ym Mlaengwrach, Castell Nedd, Port Talbot y tro hwn.  'Dwi 'n deall bod y Blaid wedi ennill dwy etholiad cyngor plwyf yn yr un ardal hefyd.  Da iawn bawb.  


4 comments:

Anonymous said...

Canlyniad calonogol. Ond, yr hyn dylse pryderi'r Blaid ydy hyn. Mae'n edrych o'r canlyniad fod pleidlais y Blaid yn gadarn ond dydy ddim yn edrych fel bod pobl sy'n amhapus gyda Llafur yn dod i'r Blaid.

Mae hynny'n iawn mewn ardaloedd fel Castell Nedd le mae'r Blaid yn weddol gryf eisoes, ond dydy ddim am fod yn gweithio cystal ym Mhort Talbot (3 milltir i ffwrdd) lle mae'r Blaid yn wan iawn. Bydd hyn yn wir ar draws llefydd fel Torfaen, Abertawe, Penybont, Merthyr etc.

Felly, canlyniad dda - yn wir, canlyniad dda iawn. Dydy ddim yn rhy bell yn ôl pan oedd y Blaid yn colli fôts, ond mae angen ei roi mewn cyd-destun. I bob pwrpas, enillodd y Blaid dim fôts gan Lafurwyr anhapus.

M.

Anonymous said...

'Sdim cynghorau plwyf yng Nghymru gan i ni ddadgysylltu'r eglwys a'r wladwriaeth yn 1922 pan sefydlwyd yr Eglwys yng Nghymru!

'Mond cynghorau cymuned sydd yma!

... jyst dweud. ;-)



Cyn-gynghorydd Cymuned

Alun Llewelyn said...

Dy'w dehongliad M ddim cweit yn gywir yn yr achos hwn, oherwydd ad-ennill y sedd wnaeth y Blaid ym Mlaengwrach yn hytrach na'i hamddiffyn, a'r un peth yn wir am y ddwy sedd Cymuned a Thref yn yr un ardal.

Roedd Carolyn Edwards yn aelod talentog iawn o'r cyngor sir dros Flaengwrach ond collodd y sedd mewn amgylchiadau lleol ffyrning yn 2008. Carolyn sydd wedi ad-ennill ei sedd yn yr is etholiad felly mae amgylchiadau lleol eto wedi bod yn bwysig (digon naturiol mewn etholiad cyngor) ond bu gogwydd o lafur i'r blaid.

dyw'r ogwydd ddim yn uffurf am fod 3 ymgeisydd ychwangeol yn yr isethoiad, ond mae gwrthsefyll her UKIP ac annibynwyr fel a wnaethpwyd ym Mlaengwrach yn mynd I fod yn ffactor bwysig i'r Blaid yn etholiadau lleol 2017 ac etholiadau eraill yn y dyfodol.

Trydarodd yr Arglwydd Hain ei fod yn beio Corbyn!

Er gwybodaeth y ffigurau yn 2012 oedd Llafur 363, Plaid 290 ac yn 2008 llafur 482 PC 380 a 2004 PC 436 Llafur 237.

Rhaid peidio darllen gormod mewn I hyn wrth gwrs, ac roedd y turnout tipyn is yn yr isetholiad, ond mae'n galonogol 'run pryd.

Anonymous said...

Diolch Alun. Pwysig cael y cyd-destun, dwi'n pryderi braidd wrth weld Pleidwyr yn credu mai gwennol yw hon, roedd yn amlwg ystyriaethau lleol iawn.

Serch hynny, mae'n newyddion da, a, gobeithio creu naratif fod y Blaid yn ennill. Ond mae seddi eraill, fel Pontyclun yr wythnos ddiwehtaf lle ddaeth y Blaid yn drydydd isel tu ol Llafur a'r Toriaid - sedd lle oedd y Blaid wedi dal ac wedi bod yn agos yn 2012.

M.