Saturday, October 08, 2016

Pwt arall am Alun Cairns

Mi fydd y rhai ohonoch sydd a chof hir yn cofio nad yn erbyn Cymry Cymraeg yn unig mae Alun Cairns wedi arddangos rhagfarnau yn y gorffennol - mae ganddo rhywbeth neu'i gilydd yn erbyn Eidalwyr hefyd.


'Dydi o ddim yn glir os ydi ei ragfarnau wedi eu cyfyngu i'r ddau grwp yma, 'ta os ydi ei feddwl yn uwd o ragfarnau yn erbyn pob math o bobl.  Mae'n siwr y dylem fod yn garedig a chymryd mai 'r ddau grwp yma yn unig sydd yn wrthrychau i'w ragfarnau.  

Er bod Cairns yn cyhuddo Cymry Cymraeg a Phleidwyr o fod yn rhagfarnllyd, mae'n ddiddorol bod ymchwil yn dangos mai o pob plaid ar dir mawr Prydain bod na cefnogwyr y Blaid oedd y mwyaf tebygol o bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropiaidd.


Rwan mae'n bwysig nad ydym yn paentio'r holl bleidleiswyr Gadael efo'r un brwsh.  Mae pobl wedi pleidleisio i adael am pob math o resymau - rhai ohonynt yn ddilys, ac eraill yn llai dilys.  Mae cydadran gweddol fawr wedi gwneud hynny oherwydd nad ydynt yn hoffi mewnfudiad o Ewrop i'r DU, ac mae nifer go lew o'r rheiny - er nad y cyfan o bell ffordd - efo tueddiadau hiliol neu senoffobaidd.  

Neu i roi pethau mewn ffordd arall, 'dydi pawb bleidleisiodd i Adael ddim yn senoffob na hilgi - o bell ffordd, ond gallwn fod yn eithaf siwr bod bron i pob senoffob a hilgi wedi pleidleisio i Adael.  Beth bynnag  mae Alun Cairns yn ei ddweud mae yna lawer llai o gefnogwyr Gadael ymhlith cefnogwyr y Blaid na sydd ymhlith dilynwyr ei blaid o, ac mae'n dilyn o hynny bod yna fwy o lawer o bobl sy'n coleddu rhagfarnau ymhlith y Blaid Geidwadol - yn union fel Cairns ei hun.






  

5 comments:

Anonymous said...

Unrhyw syniad pam fod y cyfran o gefnogwyr yr SNP a oedd yn dymuno gadael Ewrop cyn uched ?

Cai Larsen said...

Mae'n debyg mai proffil cefnogaeth yr SNP sy'n gyfrifol. Mae yna lawer o bobl difreintiedig iawn yn pleidleisio i'r SNP y dyddiau hyn - yr union bobl bleidleisiodd i adael yng Nghymru a Lloegr.

Anonymous said...

Allan o ddiddordeb, beth ydy ffynhonell yr ystadegau yma? Yr unig ffynhonell dw i wedi gweld ydy pôl Ashcroft. Mae'r ystadegau yna yn wahanol iawn (o ran PC, digon tebyg o ran y lleill), ond dim ond 72 etholwr PC sydd yn y sampl, felly ddim yn gwerthfawr iawn.
Diolch,
Rhys

Cai Larsen said...

Mi chwilia i pan ga i funud - dwi ddim yn cofio jyst rwan. Mae'n debyg bod sampl hwn yn isel hefyd.

Anonymous said...

Diolch. Yn sicr, dydi sampl Ashcroft ddim yn cydfynd gyda'r cydberthynas rhanbarthol rhwng pleidilais y Blaid a'r bleidlais dros aros - bysa'n braf cael tystiolaeth bod sampl Ashcroft yn anghynrychiolaidd.
O.N. wnaeth dy erthygl fy atgoffa o baragraff cyntaf y blog yma, sydd werth ei rannu: http://blogs.lse.ac.uk/brexit/2016/08/02/wales-already-impoverished-is-set-to-get-even-poorer/
Rhys