Sunday, October 16, 2016

Cip ar y 'rhesymau' tros ymadawiad Dafydd Ellis-Thomas

Mae'n rhaid i chi faddau i mi os nad ydw i 'fyny i sbid' a defnyddio idiom Seisnig hyll braidd, ond dwi wedi bod mewn digwyddiad teuluol yn Llaneirwg am y rhan fwyaf o'r dydd a heb weld - na chlywed - yr Arglwydd Ellis-Thomas yn ceisio egluro ei hun ar y cyfryngau y bore 'ma.  

Beth bynnag mi geisiaf edrych ar y 'rhesymau' hynny - fel dwi'n eu deall.


1). Oherwydd nad ydi Plaid Cymru eisiau cefnogi Llafur mewn llywodraeth.  Mae Dafydd wedi mynegi'r farn ecsentrig braidd mai priod rol yr wrthblaid ddylai fod i gefnogi'r llywodraeth er talwm.  'Does dim fel y cyfryw o'i le mewn coleddu'r gred yma, ond yn amlwg mae trefn lywodraethol lle mae gwrthbleidiau yn ceisio cefnogi 'r llywodraeth yn hytrach na chraffu ar ei waith a'i ddal i gyfri' yn hynod anarferol os nad unigryw.   Dydi safbwynt y Blaid ar y mater yma ddim wedi newid o gwbl ers y Cynulliad diwethaf - roedd pethau'n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw'r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

2). Oherwydd bod y Blaid yn ei atal rhag dweud ei ddweud.  'Dydi'r Blaid ddim yn ei atal rhag dweud ei ddweud - mae Pleidwyr yn cael paldaruo'n ddi ddiwedd yn fy mhrofiad i.  Ond mae'n gosod disgwyliadau sylfaenol arno - yn benodol peidio tanseilio negeseuon sylfaenol y Blaid ar adegau allweddol megis dechrau cynadleddau a dechrau ymgyrchoedd etholiadol a pheidio cefnogi ymgeiswyr nad ydynt yn Bleidwyr yn hytrach na Phleidwyr.  Mae'r lefel yma o hunan ddisgyblaeth sylfaenol yn ddisgwyledig gan wleidyddion proffesiynol ym mhob plaid - ond hyd yn oed petai'n  wir roedd pethau'n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw'r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

3). Oherwydd nad ydi'r Blaid wedi newid fel pleidiau eraill ers cyflwyno datganoli.  Fel mae'n digwydd dydi hyn ddim yn wir - mae'r Blaid wedi newid ei chyfansoddiad yn llwyr ers hynny, ond hyd yn oed petai'n wir unwaith eto roedd pethau'n union yr un peth pan benderfynodd sefyll am sedd Meirion Dwyfor yn enw'r Blaid a chan ddefnyddio adnoddau ariannol, dynol a threfniadol y Blaid.

4). Oherwydd i Leanne sefyll yn erbyn Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog Cymru.   Wel yn amlwg wnaeth hyn ddim digwydd cyn yr etholiad, ond 'doedd hi ddim yn hollol anragweladwy y gallai arweinydd yr ail blaid fwyaf roi ei henw gerbron mewn pleidlais i ddewis Prif Weinidog mewn sefyllfa lle mae'r blaid fwyaf yn un leiafrifol.

5). Bod ei ymgeisyddiaeth yn un 'annibynnol' beth bynnag.  Mae'n cyfiawnhau peidio ag ymddiswyddo a chaniatau i etholwyr Meirion Dwyfor benderfynnu os ydynt ei eisiau fel Aelod Cynulliad annibynnol yn hytrach nag un Plaid Cymru mewn amrywiol ffyrdd sydd braidd yn ddryslyd - bod rhaglen yn ei ohebiaeth etholiadol a bod yr etholwyr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn 'deall' bod ei ymgeisyddiaeth ar wahan ac yn wahanol i ymgyrch y Blaid.  Am wn i mai ffordd o awgrymu bod ei ymgeisyddiaeth mewn rhyw ffordd yn un lled annibynnol a bod yr etholwyr mewn rhyw ffordd yn deall hynny ydi'r eglurhad.

Rwan i hyn fod yn gredadwy byddai dyn yn disgwyl y byddai  rhyw fath o ymdrech wedi ei gwneud i egluro i'r etholwyr bod yr ymgeisyddiaeth yn un annibynnol neu led annibynnol.  Er enghraifft gellid ceisio ymbellhau oddi wrth naratif y Blaid yn genedlaethol, ac efallai ymdrechu i dynnu elfennau o'r tu allan i beirianwaith y Blaid i mewn i'r ymgyrch.  Byddai rhywun yn disgwyl i'w ohebiaeth hepgor logo ac ymddangosiad corfforaethol deunydd y Blaid - felly hefyd ei bosteri etholiadol.  Byddai rhywun hefyd yn disgwyl y byddai yna elfen o ariannu 'annibynnol' i'r ymgyrch  yn hytrach na defnydd o adnoddau ariannol y Blaid. Byddai rhywun yn disgwyl canfasio pobl nad ydynt yn ymddangos ar restrau canfasio'r Blaid.   Ydi hyn i gyd wedi digwydd?  Wrth gwrs nad ydi o.  

A thra rydym yn son am ariannu mewn etholiad Cynulliad, dydi etholaeth ddiogel fel Meirion Dwyfor ddim yn derbyn unrhyw gyfraniad gan y Blaid yn ganolog - mae'n rhaid i'r ymgyrch gael ei hariannu'n lleol.  Mewn geiriau eraill cafodd yr etholiad ei hariannu gan aelodau cyffredin yn mynd ati i godi pres yn y ffyrdd llawr gwlad arferol - raffl, boreuau coffi ac ati.  Pobl gyffredin sy'n codi'r pres yma - pobl sy'n caru eu gwlad, pobl sy'n gweld y Blaid fel y ffordd orau o symud y wlad yn ei blaen, pobl nad oes ganddynt fynediad i gyflog Cynulliad, pensiwn San Steffan na threuliau Ty'r Arglwydd. Pobl gyffredin, di rodres, onest. Pobl sydd yn gofyn iddyn nhw eu hunain "Beth allaf ei wneud i helpu'r Blaid" yn hytrach na "Tybed sut y gall y Blaid edrych ar fy ol i?"  

Beth bynnag oedd yn mynd trwy feddwl Dafydd pan dderbyniodd yr enwebiad i sefyll yn enw'r Blaid, a beth bynnag aeth drwy ei feddwl pan benderfynodd wedi iddo gael ei ethol mai Aelod Cynulliad annibynnol oedd am fod, bydd yr amheuaeth yn aros am byth ei fod wedi gwneud defnydd sinicaidd o'r Blaid, ei hapel cenedlaethol, ei adnoddau ariannol a dynol a'i strwythurau trefniadol i gael ei ethol oherwydd ei fod yn gwybod na fyddai ganddo fawr o obaith fel ymgeisydd annibynnol.  Gall y canfyddiad hwnnw fod yn gam neu 'n gymwys, ond bydd yr amheuaeth yno tra bydd Dafydd - ac ymhell ar ol hynny.



4 comments:

Arfon Gwilym said...

Rhesymol a rhesymegol. Mae angen I DET ateb y pwyntiau yma fesul un.

Anonymous said...

A oes sicrwydd y buasai etholwyr Meirionnydd ddim yn pleidleisio i DET mewn is-etholiad ? Maent wedi pleidlesio iddo'n selog ers blynyddoedd, er gwathaf ei ddatganiadau annoeth. Onid ydi'n well i Plaid Cymru gadw fo lle mae o am y tro ? Pwy fuasai'n sefyll yn ei erbyn ?

Simon said...

cenedlaetholwr ella?

Anonymous said...

Sut genedlaetholwr - mae DET wedi bod yno gyhyd, a phobl ifanc disglair yn dueddol o adael cefn gwlad - a oes rhywun yn sefyll allan ? . (Dim angen enwi, dim ond cadarnhau) . Dwi'n poeni fod ei bwyllgor gwaith lleol wedi maddau cymaint iddo yn y gorffennol, a'r etholwyr wedi arfer cymaint hefo'i ddatganiadau carlamus, na fydd ganddynt lawer o ots os mai yn enw PC mae'n sefyll ai peidio.
A yw pawb sy'n sefyll yn enw PC yn genedlaetholwyr ?