Thursday, October 27, 2016

Ydi Gwilym Owen yn deall beth ydi Trydar?

Dwi ond yn gofyn y cwestiwn yn sgil ei erthygl fwy bisar nag arfer yn Golwg heddiw.  Wna i ddim eich blino efo'r rhan fwyaf o'r erthygl ag eithrio i nodi ei bod yn ymdrech eithaf hysteraidd i amddiffyn ymddygiad diweddar Dafydd Elis-Thomas, ymosod ar y sawl oedd yn ei feirniadu a dethol yn ofalus yr ychydig sylwadau canmoliaethus y daeth o hyd iddynt.  

Ond yr hyn sy'n rhyfedd ydi ei sylwadau am ddefnyddwyr Trydar - neu'r twitterati chwadl yntau:

Ac yn dilyn y cyhoeddiad fe gafwyd ymateb gwarthus o'r cyfeiriadau hunangyfiawn arferol.  Wrth gwrs roedd y twitterati dienw yn rhaffu brawddegau personol ac enllibus amdano.  Mae rhywun yn disgwyl hynny bellach gan y criw hunan dybus sy'n barod i fwrw sen ar unrhyw un nad yw'n canu o'r un llyfr emynau a nhw.  Ac felly does dim angen rhoi gormod o sylw i'r cawodydd beirniadol a ddaw fel arfer yn ystod oriau'r nos.

Mae'n anodd gwybod yn iawn lle i ddechrau.  Mae'n wir bod cyfathrebu ar trydar yn tueddu i fod braidd yn fwy anghwrtais na chyfathrebu mewn bywyd pob dydd - ond mae'n rhaid i mi ddweud nad oes yna ddim byd arbennig o amhriodol byth yn ymddangos ar fy llinell amser i.  Serch hynny mae'r canfyddiad ymddangosiadol yn y darn bod pawb sy'n defnyddio Trydar o'r un farn yn union yn amlwg yn gwbl gyfeiliornus.  Mi gewch chi pob barn y gallwch feddwl amdani ar Trydar - mae natur y farn rydych yn dod ar ei thraws yn dibynnu ar pwy rydych wedi dewis ei ddilyn.  Os ydych y  cael pobl sy'n rhannu'r un farn yn union pob amser, y rheswm am hynny ydi eich bod wedi bod yn hynod ddethol wrth ddewis pwy i ddilyn. Os ydi pawb ar eich llinell amser yn poeri sen a sarhad byth a hefyd, y rheswm am hynny ydi eich bod chi yn dewis dilyn pobl felly.   Dydi hyn ddim y tro cyntaf o bell ffordd i Gwilym gyfeirio at Trydar fel petai'n mynegi meddylfryd cwch gwenyn.

O ran fy llinell amser i ymddangosodd amrywiaeth o sylwadau ynglyn ag ymadawiad Dafydd Elis-Thomas, rhai yn feirniadol a rhai yn lled gefnogol - yn arbennig felly gan wleidyddion o bleidiau unoliaethol.  Roedd rhywfaint o'r sylwadau beirniadol yn bersonol ond doedd yna ddim byd enllibus nag arbennig o faleisus.  Lleiafrif cymharol fach o'r sawl dwi'n eu dilyn sy'n ddi enw - er bod yna ambell un.  Mae unrhyw un sydd wedi dilyn ei linell amser Trydar mewn gwlad sydd mewn parth amser gwahanol i Gymru yn gwybod ei bod yn ddistaw iawn, iawn pan mae ynghanol nos yng Nghymru.

Hyd y gwn i 'does gan Gwilym ddim cyfri trydar ei hun (oni bai bod ganddo gyfri di enw),  ond byddai'n ddiddorol gwybod llinell amser pwy yn union mae'n ei dilyn.  Un pwy bynnag ydi hi mae'n gwbl wahanol i fy un i - a byddwn yn tybio ei bod yn gwbl wahanol i un pawb arall yng Nghymru hefyd.






No comments: