Tuesday, October 25, 2016

Mwy o ddiolch i Gymru gan San Steffan

Mae'r gwahaniaeth rhwng adroddiad BBC Scotland ag un BBC Cymru ar y datganiad y bydd Maes Awyr Heathrow yn cael trydydd glanfa yn ddadlennol.  

Yn naturiol ddigon mae  adroddiadau'r ddau wasanaeth cenedlaethol yn canolbwyntio ar oblygiadau'r datblygiad anferth yma i'r wlad maent yn eu gwasanaethu.  Bydd y datblygiad yn cosio £17.6bn, ac os ydi'r propoganda i'w gredu bydd £61bn o fudd i 'r economi ehangach tros gyfnod o drugain mlynedd.  





Mae'r adroddiad gan BBC Scotland yn cyfeirio at fanteision penodol i 'r Alban - buddsoddiad yn yr Alban o £200m ac 16,000 o swyddi.  Mae BBC Cymru yn son am obaith - neu bosibilrwydd - y bydd cysylltiad yn cael ei sefydlu rhwng Caerdydd a Heathrow rhyw ddiwrnod.

Mae'r gwahaniaeth yn adrodd cyfrolau - mae'r Alban wedi cael rhywbeth pendant, mae Cymru wedi cael ar ddeall nad ydi cyswllt newydd 'allan o'r cwestiwn'.  Mewn geiriau eraill, mae un gwlad wedi cael rhywbeth pendant tra nad ydi'r llall yn cael ddim byd.

Y wlad sydd efo'r trefniadau cyllido ffafriol a sydd a'i Senedd wedi derbyn pwerau arwyddocaol a phell gyrhaeddol sydd wedi dod allan o hon orau - eto fyth.  Ac mae yna reswm wrth gwrs, rheswm rydym yn dychwelyd ato fyth a hefyd ar y blog yma - mae llywodraeth y DU yn ofn yr Alban oherwydd patrymau pleidleisio'r Alban.  Y neges mae patrymau pleidleisio Cymru yn ei roi i lywodraeth San Steffan ydi nad oes angen poeni amdanom, a gellir ein anghofio yn ddi gost.  Mae'r ffordd rydym yn pleidleisio yng Nghymru yn wirioneddol hunan niweidiol.

1 comment:

Anonymous said...

Pam ar wyneb ddaear fuasai angen gwasanaeth awyr rhwng Heathrow a Chaerdydd ??????. Mae yna wasanaeth tren sydd tua dwy awr. 'Ieuan Air' yn ehangu gorwelion, efallai.