Sunday, October 30, 2016

Yng nghefn ciw Brexit

O edrych yn ol ar y cyfnod o gwmpas 2008 pan aeth yr hwch trwy'r siop ar nifer o fanciau'r DU, ac ymateb y llywodraeth i hynny, mae'n amlwg bod y digwyddiadau hynny yn dynodi diwedd cyfnod yn y DU.  Am bron i ddeugain mlynedd cyn hynny - ers etholiad cyffredinol 1979 a bod yn fanwl - roedd y wladwriaeth wedi symud oddi wrth y cysyniad y dylai ymyryd llawer yn hynt a helynt y sector breifat, a dechreuodd ymbellau oddi wrth y sector honno - peidio ymyryd, gadael i bethau gymryd eu cwrs, ac yn wir ehangu'r sector breifat trwy ddad wladoli nifer o asedau cyhoeddus.

Daeth hynny i ben yn dilyn cyflafan fancio 2008 pan benderfynodd y llywodraeth bod rhaid i'r trethdalwr achub y banciau, a thros y blynyddol dilynol mae'n debyg i dros i £1 triliwn gael ei roi o'r neilltu i'r pwrpas hwnnw.  Arweiniodd y penderfyniad  at drosglwyddiad anferth o adnoddau oddi wrth y trethdalwr i'r sector breifat.  Roedd y wladwriaeth yn ymyryd unwaith eto efo'r sector breifat - ac yn gwneud hynny i raddau arwyddocaol iawn.

Mae'n ymddangos bellach y bydd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropiaidd am gwblhau'r broses yna, ac arwain at berthynas fwy clos o lawer rhwng y sector breifat a'r wladwriaeth.  Y rheswm am hynny ydi bod y llywodraeth wedi dod i benderfyniad bod lleihau / atal mewnfudo yn flaenoriaeth iddi - a chanlyniad anhepgor hynny ydi y bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl.  Canlyniad hynny fydd tollau ar allforion a mewnforion, a chanlyniad hynny yn ei dro fydd lleihad mewn masnach rhyngwladol, a lleihad yng ngallu busnes yn y DU i gystadlu'n rhyngwladol.  

Yn y cyd destun yna y dylid edrych ar benderfyniad Nissan wythnos diwethaf i barhau i gynhyrchu ceir yn y DU.  Mae'n amlwg na fyddai Nissan wedi cytuno i fuddsoddi biliynau heb gael sicrwydd y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffordd i'w digolledu am yr effaith y bydd tollau rhyngwladol yn ei gael ar eu busnes, ac mae'n ymddangos i'r un sicrwydd gael ei roi i'r diwydiant ceir yn ei gyfanrwydd.  O safbwynt y llywodraeth mae hyn yn benderfyniad cwbl resymegol.  Mae'r diwydiant ceir yn y DU yn cynhyrchu 1.5 miliwn car y flwyddyn, mae'n cyflogi 900,000 o bobl ac mae iddo drosiant blynyddol o tua £70bn.  Ond mae i'r sefyllfa oblygiadau negyddol i Gymru.

Mae'n amlwg y bydd ymadawiad y DU a'r UE yn fler - ac mae'n amlwg y bydd y llywodraeth yn blaenori yr hyn maent eisiau ei amddiffyn ac yn anwybyddu'r hyn nad ydynt am ei amddiffyn.  Gallwn fentro y bydd sicrwydd yn cael ei roi i ddiwydiannau allweddol eraill y bydd y llywodraeth yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau na fydd eu gallu i gystadlu yn erydu yn sgil y newidiadau.  Bydd y sector gwasanaethau ariannol ar flaen y ciw yma.  Bydd yna gost ariannol i amddiffyn diwydiannau dethol - a bydd y gost yn un uchel.  Bydd y wladwriaeth yn dewis yn ofalus pa sectorau sydd werth eu hamddiffyn, a pha rai nad ydynt werth eu hamddffyn.  

Ac mi fydd yna eithriadau sydd ddim yn rhai ariannol hefyd - mae llawer o ffermydd mawr yn Ne Lloegr yn ddibynnol iawn ar lafur tramor tymhorol.  Mae'n debyg bod sicrwydd ynglyn a hynny eisoes wedi ei ddarparu.  Bydd cartrefi gofal, y Gwasanaeth Iechyd ac ati yn chwilio am sicrwydd tebyg.

A bydd eithriadau o fath arall hefyd.  Mae'n debyg y bydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i weddill y DU, mae'r syniad o ffin caled rhyngwladol nad ydi hi'n bosibl ei selio yn Iwerddon yn codi pob math o broblemau anodd iawn i fynd i'r afael a nhw.  Bydd Gibraltar yn eithriad arall - byddai'n anodd iawn i economi'r ynys bellenig honno o Brydeindod oroesi os byddai'n cael ei gwahanu gan ffin galed oddi wrth y gweithlu sy'n ei chynnal.  Ac mae'n ddigon posibl y bydd yr Alban yn cael ei thrin yn wahanol hefyd - yn arbennig os y bydd yn edrych fel petai'r wlad am dorri ei chwys ei hun a gadael y DU.

Y sawl sydd yn gryf, y sawl sy'n fawr neu'r sawl fydd mewn lle i fargeinio fydd yn cael ffafriaeth - bydd y sawl sy'n wan, y sawl sy'n fach a'r sawl sydd ddim mewn lle i fargeinio  yn cael eu gadael i wywo ar y gangen.  

Lle fydd hynny yn gadael Cymru?  Faint o'n diwydiannau ni sy'n cael eu hystyried yn allweddol i economi'r DU?  Go brin bod angen crafu pen gormod cyn cael ateb i honna.  Yn wleidyddol rydym yn hynod ddof ac ufudd o gymharu a Gogledd Iwerddon a'r Alban - o safbwynt llywodraeth y DU bydd yn hawdd ein cymryd yn ganiataol, bydd yn hawdd ein hanwybyddu.  Byddwn o safbwynt economaidd a gwleidyddol yn flaenoriaeth isel iawn - byddwn ar gefn y ciw -  fel arfer.


8 comments:

Anonymous said...

Llawer o wir fan hyn. Tristwch y sefyllfa ydi fod PC ac hefyd awdur y blogiad hwn wedi bod yn gymharol ddi-hid trwy gydol y refferendwm gyda'r cyferbyniad rhwng ymdrechion etholiad y cynulliad a'r bleidlais Ewropeaidd yn syfrdanol. Ai disgwyl cyfle o weld Cymru'n dewis aros a Lloegr (a thrwy hynny Brydain) yn dewis gadael oedd wrth wraidd diffyg ymdrech gan gefnogawyr ac arweinwyr PC (eithriad anrhydeddys oedd Wigley).

Yn dilyn y bleidlais cafwyd cannoedd ar y maes yng Nghaernarfon yn ffug wylofain. Lle buo nhw cyn y bleidlais tybed?

I gloi, cofier i awdur y blog hwn ddiystyrru'r effaith economaidd gan weld y rhybuddion am fynediad i'r farchnad sengl fel rhan o rhyw 'project fear'. Bod yn ddoeth gyda mantais yr hyn sy'n amlwg yw'r blogiad hwn. Bu'r ymdrechion i ddarogan effaith dewis gadael cyn y bleidlais yn enbyd o ddiffygiol gan yr awdur. Codi pais wedi piso sydd yma bellach.

Cai Larsen said...

Ynglyn a'r pwynt olaf gweler - https://oclmenai.blogspot.co.uk/2016/10/effeithiau-brexit-ar-economi-du.html

Dwi'n meddwl bod yna wirionedd na fu ymdrech anferth gan beiriant y Blaid - na'r un plaid arall yng Nghymru. - roedd etholiad newydd ddigwydd, ac roedd actifyddion wedi bod allan am wythnosau. Roedd yna hefyd y cymhlethdod bod pawb yn gwybod na fyddai'n gwneud botwm o wahaniaeth petai pawb yng Nghymru'n fotio'r un ffordd.

Er mae'n rhaid nodi i'r Blaid yn Arfon, er enghraifft ohebu efo'i chefnogwyr i gyd yn gofyn iddynt fotio i aros. Mi fyddwn i hefyd yn nodi bod cefnogwyr y Blaid wedi fotio i aros i raddau mwy na'r un blaid arall.

Serch hynny mae braidd yn stiwpid i feio'r Blaid am y canlyniad - digwyddodd yr hyn ddigwyddodd oherwydd i drwch y bleidlais Geidwadol tros y DU benderfynu gadael. Piso dryw yn y mor oedd pleidlais y Blaid, ac yn wir Cymru yn hyn oll.

Ta waeth, dwi 'n cymryd o'ch sylwadau eich bod wedi gwneud cryn ymdrech eich hun yn yr ymgyrch, a da iawn chi am hynny.

Joniesta said...

Dwi'n cytuno gyda'r sylw diwethaf ma gynnai ofn. Roedd y blaid yn llawer rhy dawel a toedd yna ddim ymdrech go iawn i gyd weithio gyda Llafur yn ystod y refferendwm. Roedd Llafur yr un mor amaturaidd a llipa yn ystod y refferendwm. Roedd na hysteria gwallgof yn dilyn y bleidlais yn meddwl y byddai y canlyniad yn ysgogi pobol i edrych ar annibyniaeth fel ateb. Dwi'n gefnogol i annibyniaeth ond sgynai ddi syniad o hyd o sut y byddai Cymru yn llwyddo fel gwlad annibynol yn ddelwedd Plaid Cymru. LLe mae'r syniadau yma am greu cyfoeth cyflogaeth etc sydd eu hangen ar gyfer creu y Gymru newydd fodern annibynol ir dyfodol??

marconatrix said...

Pleidlais pobl Cymru oedd ´r un beth â Lloegr, sef am adael y UE. O safbwynt eich cyd-Geltion yn yr Alban ac Iwerddon, dim ond cynffonwyr i Lundain ydych chi, yn hytrach na chynghreirwyr. Druan o beth yn llwyr, ond dyna ni. Felly ¨codi pais wedi piso¨ ydi´ch cwyn chi i´r dim, ysywaeth :-(

Anonymous said...

Diolch am gyhoeddi fy sylw. Serch hynny dy union eiriau ar y blog hwn wythnos cyn y bleidlais oedd y canlynol;

"Yn bersonol dwi ddim yn credu'r darogan gwae economaidd gan yr ochr aros".

Yn fras dy ddadl oedd mae yn y tymor byr yn unig y byddai 'na drafferthion economaidd a hynny i raddau yn fater i'r marchnadoedd arian. Yn anffodus y gwrthwyneb oedd yn amlwg wir. Gyda'r bleidlais yn gynyddol yn datblygu i fod yn fater o ddatgan barn am fewnfudo (agwedd greiddiol i'r farchnad sengl) yna anodd oedd methu gweld fod yna berygl go iawn i economi Cymru sy'n parhau i allforio'n drwm. Dim mewnfudo = dim marchnad sengl. Doedd dim angen athrylith i weld hynny.

Ti hefyd yn dewis cam ddeall fy mhwynt am ymgyrch PC. Wrth gwrs na fyddai cefnogaeth 100% o gefnogwyr PC wedi ein harbed rhag pleidlais i adael drwy'r DU ond fyddai ymdrech go iawn wedi efallai newid y canlyniad yng Nghymru? Ydi trefniadaeth UKIP yn y cymoedd yn well na threfniadaeth PC? Wn i ddim ond fe fyddwn yn gobeithio ddim. Falle, jyst falle o ymgyrchu yn hytrach na gwadu'r her i economi Cymru fe allai ti a'th gyd weithwyr fod wedi rhoi buddugoliaeth i aros yng Nghymru.

Anodd iawn ydi gwadu na fyddai canlyniad o'r fath wedi rhoi safle gref i lywodraeth Cymru yn y trafodaethau. Ond dyna fo, gydag ambell eithriad di-ddim oedd ymgyrch Llafur a di-ddim oedd ymdrech PC.

Fel y bu i mi ddweud "codi pais....." yw dy neges sy'n fisoedd yn rhy hwyr.

Cai Larsen said...

Dwi pob amser yn cyhoeddi sylwadau oni bai eu bod yn anweddus neu'n enllibio rhywun neu 'i gilydd.

Fel dwi wedi dweud o'r blaen roeddwn yn anghywir am y niwed economaidd. Y rheswm am hynny ydi fy mod wedi cymryd y byddai'r llywodraeth wedi defnyddio synnwyr cyffredin a sicrhau ein bod yn aros yny Farchnad Sengl. Ymddengys eu bod yn ystyried bod plesio'r Dde senoffobaidd yn bwysicach nag amddiffyn masnach - felly bydd niwed economaidd yn dilyn o hynny. Os ti eisiau fy meirniadu am fod yn anghywir - croeso, mae pawb yn anghywir weithiau - ac o bosibl mae'r blog yma'n anghywir yn llai aml na'r rhan fwyaf o gyfryngau prif lif.

Mae'n anffodus dy fod yn fy uniaethu fi efo PC - roedd y Blaid yn rhybuddio rhag niwed economaidd - ac roedd yn fwy cywir na fi yn hynny o beth.

Fel y dywedais o 'r blaen mae canolbwyntio ar y Blaid yn y cyd destun yma yn wirion. - ymylol fyddai dylanwad y Blaid petai wedi dewis taflu ei pheiriant ar y refferendwm yn hytrach nag ar yr etholiad. Doedd hi ddim mewn gwirionedd yn bosibl ei daflu ar y ddau.

Gan nad oes yna fawr ddim ymdriniaeth gall o'r niwed economaidd tebygol yn y cyfryngau prif lif yng Nghymru, mae 'n anodd gweld pam ti'n trio cau fy ngheg trwy ddweud fy mod yn codi pais ar ol piso.

Joniesta said...

Nodyn byr arall ar Brexit ar sefyllfa bresenol. Tydwi ddim yn meddwl fod Brexit meddal yn opsiwn o gwbwl. Fydd yr Almaen na Ffrainc yn fodlon ar hynny ac er mawr syndod ir lemons yn y wlad yma bydd eu egwyddorion yn bwysicach iddynt na sicrhau fod gwneuthurwyr ceir Almaenig yn cael gwethu eu cynyrch yma heb dariff. Fydd yna ddim mynediad i farchnad rydd dim hyd yn oed model Norwy. Rhid i ni dderbyn mai Brexit caled fydd hi.Beth yw cynllun Cymru dan y termau yma?? Rhaid ir Blaid ddechrau trafod yr opsiynau sydd wirioneddol ar gael yn lle gwastraffu amser yn meddwl y cawn fynediad ir farchnad rydd.

Cai Larsen said...

A bod yn deg yr unig Blaid Gymreig sydd wedi llunio ymateb sydd yn ddealladwy ydi'r Blaid - does yna'r un arall wedi - hyd yn oed y blaid lywodraethol.