Thursday, October 20, 2016

Ynglyn ag ail gynnal etholiadau

Dwi'n cytuno efo'r rhan fwyaf o'r hyn sydd gan Dylan Iorwerth i 'w ddweud ynglyn a'r helynt Dafydd Ellis Thomas yn rhifyn heddiw o Golwg.

Mae'n gywir i nodi bod angen trefn lle gall etholiad gael ei hail gynnal pan mae ymgeisydd yn newid ei blaid yn fuan ar ol argyhoeddi'r etholwyr ei fod yn sefyll tros blaid arall.  Mae hefyd yn wir bod nifer o gynghorwyr wedi troi at Blaid Cymru yn y gorffennol cymharol agos, ac nad oes is etholiadau wedi bod yn sgil hynny.  Byddwn yn ychwanegu fodd bynnag bod achos Dafydd Ellis-Thomas yn anarferol oherwydd bod eglurhad Dafydd yn awgrymu'n gryf ei fod yn bwriadu gadael y Blaid cyn yr etholiad ac yn wir pan ddaeth i gytundeb efo'r Blaid yn lleol yn ei etholaeth.  Mae hefyd yn ymddangos o'r datganiadau hynny bod rheswm hynod hunanol ac anymunol tros yr ymadawiad hefyd - nad oedd y Blaid yn fodlon 'edrych ar ei ol'.  



Efallai mai'r ffordd orau o fynd ati i atal gwleidyddion rhag defnyddio adnoddau pleidiau i gael eu hethol ac yna gadael y pleidiau cyn gynted a phosibl, ydi trwy sefydlu mecanwaith ail alw os ydi - dyweder- 10% o'r etholwyr yn gofyn am is etholiad.

Ond mae yna gymhlethdod bach.  Yn achos Dafydd Ellis-Thomas ni fyddai problem gyda chynnal is etholiad, ond beth fyddai'n digwydd yn achos aelod rhestr fel Nathan Gill?  Pedwerydd oedd UKIP yn y bleidlais rhestr yn y Gogledd, ac yn ol pob tebyg pedwerydd fyddai eu safle petai'r etholiad yn cael ei hail gynnal.  Mae'n anodd gweld sut y gellid gweithredu'r egwyddorion D'Hont a rhoi'r sedd i'r blaid sy'n dod yn bedwerydd yn yr is etholiad.  Ac ar ben hynny mae yna'r gost enfawr o gynnal etholiad ar draws naw etholaeth i lenwi un sedd.  

Rheswm pellach i fabwysiadu system STV o bosibl.  

2 comments:

Gwynfor Owen said...

Cytunaf bod angen gwneud rhywbeth I alluogi is-etholiad, ond mae rhoi ffigwr o 10% yn rhy syml. Mae angen mecanwaith I alw am ymddiswyddiad, ond fe all fod amryw o resymau dros wneud hynny. Mae hynny wedyn yn codi cwestiynau eraill. Os yw plaid wleidyddol yn mynd trwy amser caled am unrhyw reswm, ni fuasai yn gwneud synnwyr I ganran gweddol fach o etholwyr allu galw am is-etholiad. Efallai mai yr unig ateb yw apelio I unigolion wneud y peth iawn. Un peth sydd yn taro rhywun yh rhyfedd braidd yn yr achos yma yw fod gan etholwyr Dwyfor Meirionydd a roddodd ei ffydd yn Plaid Cymru yn yr etholiad aelod cynulliad arall Plaid Cymru y gallasent droi ato sef Simon Thomas. Mae gennym hefyd A.S. gwych hefyd yn Lis Saville Roberts

Anonymous said...

Mae arna i ofn nad yw trwch yr achlysuron lle mae etholwyr yn troi at AC, neu AS yn rhai gwleidyddol. h.y. nid oes ots ganddynt os yr ydynt yn cytuno a'i wleidyddiaeth. Mae'n dra amlwg fod llawer o bobl Dwyfor/Meirionnydd yn eithaf bodlon gyda DET yn hynny o beth.
Bu Wyn Roberts yn aelod seneddol i mi am flynyddoedd - a nid oedd fy nhad na minnau'n pleidleisio iddo, ond ni fuasem byth yn breuddwydio peidio trafod rhywbeth ac o. Mae'n gryfder i Marc Williams, a chymaint oedd enw da Dafydd Wigley fel bod pobl o tu allan i'r etholaeth yn ystyried mynd ato. Yr anfantais i DET yw ei fod yn colli'r cefnogaeth gweinyddol o ran materion fel hyn, a'r mynediad at rwydwaith o gynghorwyr sir cefnogol (Fel sydd gan Marc Williams).