Wednesday, October 19, 2016

Cofiwch am y Gynhadledd - a chais bach

Bydd Cynhadledd Flynyddol y Blaid yn cael ei chynnal ddydd Gwener a ddydd Sadwrn, Hydref 21 a 22.  Galwch heibio os cewch y cyfle - mae'n digwydd ar drothwy cyfnod tyngedfenol yn hanes Cymru.


Os ydych yn dod draw, ac os ydych yn aelod byddwn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn etholiad mewnol y Blaid i ddewis Cyfarwyddwr Ymgyrchu ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid.  Dim ond fi sydd wedi ymgeisio am y rol, ond yn unol a threfn arferol y Blaid mae'n rhaid cynnal etholiad beth bynnag - felly byddwn yn gwerthfawrogi eich croes os gwelch yn dda.

Dwi eisoes yn cynrychioli Gogledd Cymru ar y Pwyllgor Gwaith, ond gan bod gen i fwy o amser ar fy nwylo y dyddiau hyn 'dwi'n credu y gallaf fod o fwy o werth i'r Blaid yn cyflawni rol ychydig yn fwy gweithredol.  Mae'r ffaith fy mod hefyd wedi eistedd ar bwyllgorau ymgyrch llwyddiannus Arfon tros y ddegawd diwethaf hefyd yn rhoi cryn wybodaeth a phrofiad o drefnu ymgyrchoedd i mi.

Diolch.



4 comments:

Gwynfor Owen said...

Byddaf yn Falch o dy gefnogi. Dwi yn sefyll I fod yn Gadeirydd Pwyllgor Llywio a buaswn yn Falch o gefnogaeth darllenwyr dy flog. Gyda profiad helaeth o'r Pwyllgor Llywio, 'rwyf wedi bod yn bryderus am atebolrwydd y Pwyllgor yma I aelodau y Blaid, a dyma fydd fy mhrif neges.

Cai Larsen said...

Diolch Gwynfor a phob lwc.

Pedryn Drycin said...

Ti ydy'r dyn perffaith am y swydd Cai. Pob lwc yn rôl.

Dwi'n mynd i'r gynhadledd ddydd Sadwrn, ac dwi'n dod â 9 o ffrindiau o Fangor... neb ohonyn nhw yn aelod eto. Gobeithio perswadio nhw ymaelodi yna...

Phil

Cai Larsen said...

Diolch Phil - caredig iawn. Pob lwc efo'r recriwtio!