Sunday, October 02, 2016

Breuddwyd gwrach Andrew RT

Yn naturiol ddigon fydda i byth yn darllen y Sunday Times, ond dwi'n deall bod Andrew RT Davies - yn fuan ar ol perfformiad hynod siomedig ei blaid yn etholiadau'r Cynulliad - yn gweld dyfodol disglair iawn i'r Toriaid 'Cymreig'.  Mae'n debyg ei fod yn 'rhesymu' y bydd mewn sefyllfa i fod yn Brif Weinidog Cymru yn 2021 oherwydd bod Plaid Cymru o blaid annibyniaeth i Gymru a bod Corbyn yn uffernol o adain Chwith a gadael y 'tir canol' iddo fo a'i griw llawen.  Beth am edrych ar yr hyn sy'n sefyll rhwng Andrew a'i uchelgais?  (Hynny yw ag eithrio rhesymu arwynebol arweinydd y blaid).

1). Andrew RT Davies.  Mae'r polau yn dangos bod Andrew yn gyson lawer llai poblogaidd nag arweinwyr y pleidiau eraill.  Dydan ni ddim yn gwybod sut bydd yn cymharu a Neil Hamilton eto - rwan bod UKIP wedi defnyddio eu dull unigryw o ddewis a newid eu harweinyddion Cymreig - ond bydd y gystadleuaeth rhyng Andrew a Neil i fod yn arweinydd pleidiol lleiaf poblogaidd Cymru yn un ddiddorol.

2). Grwp Andrew RT Davies.  Oherwydd eu harfer o adael i'r un hen griw fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen yn gwneud yr un hen beth 'does yna ddim troelli o ran Aelodau Cynulliad Toriaidd - ag eithrio pan mae'r rhai sydd a mymryn o gic yn perthyn iddynt yn llwyddo i wireddu uchelgais pob gwleidydd o Dori a chael ei ethol / hethol i San Steffan.  Un o sgil effeithiau hyn ydi nad oes yna neb i gymryd lle Andrew RT - felly 'fedar y Toriaid ddim cael gwared ohono fo.

3). Nenfwd naturiol y Toriaid yng Nghymru.  Tua thraean ydi'r bleidlais uchaf i'r Toriaid ei gael yn y cyfnod ar ol y Rhyfel yng Nghymru - ac roedd hynny mwy na deg mlynedd ar hugain yn ol, mewn amgylchiadau arbennig iawn ac mewn Etholiad Cyffredinol.  Mae'r Toriaid pob amser yn tan berfformio mewn Etholiadau Cynulliad o gymharu a rhai Cyffredinol.  Ond hyd yn oed petaent yn cyflawni gwyrth ac yn cynyddu eu pleidlais tua 15% (rhywbeth sydd byth yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru na Lloegr) byddai'n dal yn anigonol.  Gall Llafur ennill mwyafrif efo traean o'r bleidlais, ond mae dosbarthiad cryfder etholiadol y Toriaid yn ei gwneud yn anhebygol y gallant hwy wneud yr un peth efo'r un bleidlais.

4). UKIP.  Mae gwleidyddiaeth wedi mynd braidd yn gymhleth - ac o ganlyniad dydi hi ddim yn gwbl glir bellach beth ydi'r 'tir canol' nag yn wir os oes tir felly yn bodoli.  Ond mae bodolaeth UKIP yn cyfyngu ar sgop y Toriaid i addasu eu lleoliad gwleidyddol yn y DU ac yng Nghymru. Mae adain senoffobaidd y Blaid Doriaidd yn weddol agos at UKIP.

5). Brexit.  Bydd y Toriaid wedi gorfod negydu ymadawiad y DU a'r Undeb Ewropeaidd a byddant yn gwneud hynny o dan gryn anfantais - bydd y broses yn un anghyfartal iawn - mae'r DU yn gydadran cymharol fach o farchnad yr UE, tra bod yr UE yn rhan anferth o farchnad y DU.  Mae'n eithaf sicr y bydd gwaed ar y carped - mynediad y Ddinas yn Llundain i'r system ariannol yn yr UE wedi ei gyfyngu, tollau ar allforion, cyfyngiadau ar deithio i'r UE er enghraifft.  

Bydd problem arall hefyd - mae'n debyg y bydd llai o ddinasyddion y DU eisiau byw a gweithio yn y DU (hyd yn oed os byddant yn cael gwneud hynny) a bydd rhaid chwilio yn rhywle arall am bobl i gyflenwi gofynion y farchnad waith - neu weld yr economi yn crebachu.  Os mai o'r llefydd amlwg y bydd y bobl hynny 'n dod, bydd adain senoffobaidd y Blaid Doriaidd yn cael eu hunain mewn stad o sterics parhaol. 

 'Dydi'r teulu Toriaidd ddim yn debyg o fod yn un arbennig o ddedwydd yn 2021 mae gen i ofn.  


No comments: