Tuesday, October 11, 2016

Effeithiau Brexit ar economi 'r DU

Pan roeddwn yn ysgrifennu am Brexit yn y misoedd cyn y refferendwm roeddwn yn mynegi'r farn mai fy mhrif broblem efo'r syniad oedd y byddai natur y wladwriaeth yn newid yn hytrach na'r niwed economaidd.  Roeddwn yn dadlau y byddai'r economi yn addasu i'r realiti newydd.

Erbyn hyn dwi'n credu fy mod yn gywir ynglyn a'r newidiadau i natur y wladwriaeth, ond yn anghywir ynglyn a dyfodol yr economi.  Roedd yna awyrgylch senoffobaidd yng Nghynhadledd y Toriaid - ac mae hynny'n awgrymu bod natur y blaid honno wedi newid er gwaeth.  Nhw fydd yn rhedeg y sioe (Brydeinig) am gyfnod hir yn ol pob tebyg.

Serch hynny, pan roeddwn yn darogan y byddai'r economi yn iawn yn yr hir dymor roeddwn yn cymryd y byddai'r llywodraeth yn dod o hyd i rhyw ffordd o aros yn y Farchnad Sengl.  Mae'n edrych erbyn hyn   bod na pan mae'n dod i ddewis rhwng symud rhydd i weithwyr ac aros yn y Farchnad Sengl bod y Toriaid am ddewis y cyntaf.  Yn yr ystyr yma adain senoffobaidd y blaid sydd bellach yn rhedeg y sioe.  Os ydi'r DU yn gadael y Farchnad Sengl ac yn talu tollau i allforio i'w prif farchnadoedd bydd yn dlotach, os mai tollau'r World Trade Organisation fydd yn cael eu talu byddwn yn dlotach eto.

Rydan ni'n son am rymoedd economaidd gwaelodol yn y fan hyn.  Mae cyfoeth yn cael ei greu gan fasnach.  Lle'r ydan ni'n cynyddu masnach mae mwy o gyfoeth yn cael ei greu.  Lle'r ydan ni'n lleihau lefelau masnach mae cyfoeth yn cael ei leihau.  Mae tollau ar allforion a mewnforion yn siwr o leihau masnach a felly cyfoeth.  Mae pethau mor syml a hynny yn y bon.

Mae'r sawl sydd am adael ar hyn o bryd yn dadlau bod yr holl dramorwyr yna maent mor hoff ohonynt am fod yn ofnadwy o ffeind efo'r DU.  Dydi cytundebau masnach rhwng gwledydd neu flociau masnach ddim yn gweithio felly.  Hyd yn oed yn absenoldeb y drwg deimlad mae Brexit wedi ei achosi yn Ewrop, a hyd yn oed yn absenoldeb yr angen i gosbi'r DU am adael Ewrop mae pob ochr yn ceisio creu yr amodau gorau i 'w masnachwyr ei hun, ac maent am geisio osgoi rhoi mantais i fasnachwyr bloc neu wlad arall.  

Gan bod Ewrop fel bloc yn fawr a'r DU fel gwlad yn ganolig o ran maint, bydd y bloc mawr yn dominyddu'r trafodaethau.  Os na ellir cael cytundeb rydan ni 'n mynd i gael telerau WTO.  Gan bod cyfran mawr o allforion y DU yn mynd i Ewrop ond cyfran bychan o allforion yr UE yn mynd i'r DU byddai hyn yn broblem anferth i 'r DU ond yn un fach i'r UE.  Bydd y cardiau i gyd gan negydwyr yr UE.

Y sylweddoliad yma yn y marchnadoedd arian sy'n gyrru'r cwymp yng ngwerth y bunt - a'r cwymp yng ngwerth y bunt sy'n gyrru'r cynnydd ymddangosiadol yng ngwerth y marchnadoedd stoc.  

Gadewch i ni edrych lle'r ydan ni.

Os edrychwch ar gyfraddau'r llynedd roedd y bunt werth tua $1.50, mae'n dechrau cwympo fel mae'r tren Brexit yn  gadael yr orsaf ddechrau'r flwyddyn, mae yna gwymp sylweddol pan mae'r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropiaidd, ac mae'r cwymp yn parhau fel mae'r sylweddoliad bod y DU ar y ffordd allan o'r Farchnad Sengl yn gwawrio ar y marchnadoedd pres.



Mae gwahaniaeth sylweddol yn y DU rhwng faint mae'r wlad yn allforio a faint mae'n mewnforio.  Os nad yw'n cau'r bwlch yna bydd y bunt yn parhau i golli tir.  Os bydd tollau ar fewnforion bydd gwneud hyn yn llawer mwy anodd nag ydyw ar hyn o bryd.  Yr unig ffordd o leihau'r bwlch fydd trwy fewnforio - llai.  Mae hynny am arwain at lai o weithgaredd economaidd a llai o wariant oddi mewn i'r economi.  Bydd hynny'n arwain at yr economi'n crebachu.  Fyddan ni ddim yn union lle'r oedd Iwerddon yn y 50au, ond fyddan ni ddim yn rhy bell.

Mae'n anhebygol y bydd Dinas Llundain yn cael cynnig eu gwasanaethau ar y telerau presenol, ac mae'n bosibl y bydd y pasbort yn cael ei golli 'n llwyr - felly bydd hwnnw'n crebachu hefyd.  Y sector gwasanaethau ariannol ydi injan economi'r DU.  Bydd hwnnw hefyd yn arafu.  

Bydd hyn oll yn cael ei adlewyrchu ar y marchnadoedd pres.  Mae'r bunt yn sefyll rwan ar $1.23.  Petai'n $1.30 byddai maint yr economi (fel GDP) yn $2.47 triliwn, pan oedd y bunt werth $1.50 roedd werth tua $2.85 triliwn, os bydd y bunt yn syrthio i $1 bydd gwerth yr economi yn $1.9 triliwn - neu $1.78 triliwn os ydym yn tynnu economi'r Alban o'r sym - ac mae'n fwy na phosibl y bydd rhaid gwbeud hynny.  Byddai hyn yn arwain at economi gwerth tua hanner un yr Almaen, traean o un Japan a thua'r un faint ag un India, Brasil neu'r Eidal.  Mae hyn yn gryn gwymp.






4 comments:

Cymro said...

Os credwch bod "tollau ar allforion a mewnforion yn siwr o leihau masnach a felly cyfoeth", yna ydych chi'n cydnabod bod aelodaeth o'r UE yn waeth yn economaidd nag aelodaeth o'r AEE (fel Norwy), gan fod y cyntaf (ond nid yr ail) yn gorfodi rhoi tollau ar fewnforion o du allan i Ewrop?

Cai Larsen said...

Mae unrhyw dollau yn lleihau masnach.

Y broblem ydi bod unedau bach yn ei chael yn anodd negydu cyfundrefn dollau ffafriol iddyn nhw eu hunain pan maent yn trafod efo blociau mawr.

Anonymous said...

Fel Cenedlaetholwr Cymraeg, ron i o blaid Brexit yn bennaf am y byddai hynny yn dinoethi'r cawr fu'n teyrnasu'r ynysoedd hyn cyhyd h.y Greater England. Gan y byddai hynny:

i) yn dangos pa mor wag ydi ei delusions ymerodrol am fod yn rym o hyd yn y byd
ii) Yn grymuso'r achosion cenedlaethol yn Yr Alban a Chymru
iii) Yn ei gorfodi i wynebu'r rhanniadau eithafol sy'n bodoli yn LLoegr ei hun
iv) Yn gorfodi newid cyfeiriad sylfaenol o ran economi'r gwledydd hyn.

O ran dy bwynt am yr economi- mae yna un wall sylfaenol yn dy ddadl. Mae'r UE yn allforio llawer mwy i Wledydd Prydain na'r ffordd arall. Rhaid cofio hefyd bod y bunt wedi ei gor-brisio ers blynyddoedd a bod mawr angen lleihau ei gwerth- mae yna fanteision i hynny o ran allforio pethau, denu twristiaeth, a throi fwyfwy at gynhyrchion lleol.

Yn sylfaenol, dwi'n credu y bydd masnachu gweddol ddi-lyffethair yn parhau i ddigwydd bynnag yw natur y cytundeb terfynol. Dyna wedi'r cwbl fu un o nodweddion amlycaf y ddynol ryw ers cychwyn amser. Dwi'm yn gweld Theresa May yn ildio ar fater rheoli lefelau mudo, ond synnwn i ddim y bydd hi hefyd yn barod i dalu swm sylweddol i'r UE i gael mynediad i'r farchnad sengl. Bydd hynny'n fodd o blesio dwy ochr dadl y refferendwm.

Y drafferth i Mrs May ydi bod y newid mawr sydd yn digwydd yn amhosib i'w reoli, ac fe fydd raid i'r cawr gydnabod hynny.

Anonymous said...

Mae sylw rhif 3 ymysg y gwirionaf dwi erioed wedi ddarllen. Yn gyntaf nae'r bunt bellach yn is yn erbyn basged o arian rhyngwladol nagverioed yn hanes Prydain. Effaith y cwymp fydd cynnydd mewn chwyddiant gyda tanwydd a bwyd yn ganolog i hyn. Anodd gweld dim byd cenedlaetholgar mewb dynuno lleihad mewn safonau byw cyd wladwyr.

Symleiddio y sefyllfa mae'r goniad fod yr UE yn gwerthu llawer mwy i Brydain na fel arall. Gadewch o'r neilltu cenedlaetholwr honedig yn defnyddio dadl y Daily Mail ac ystyriwch ddau bwynt. Mae 46% o allforion Prydain yn mynd i'r UE gyda 7% yn unig o allforion yr UE yn did i Brydain. Ymhellach, ystyriwch fod nwyhafrif helaeth gwledydd Ewrio DDIM yn allfirio mwy i Brydain nac y mae nhw'n brynu. I'r gwledydd hyn tydi BMW's a gwin Birdeaux ddim yn fdactor ganolog. Fe allwn ddweud mwy ond hyn a hyn o drafod agweddau y Daily Mail mewn gwisg Gymreig sy'n bosib.