Wednesday, September 30, 2015

A'r diweddaraf gan Lafur Arfon

Mae'r blog yma wedi beirniadu Plaid Lafur Arfon yn y gorffennol am ymgyrchu ar faterion amherthnasol a gwirion.  Beirniadaeth neu beidio 'does yna ddim byd yn newid - fel mae'r trydariadiadau yma a gyhoeddwyd ddoe gan arweinydd Llafur ar Gyngor Gwynedd, Sion Jones. Ymddengys bod Plaid Cymru yn shambls o blaid oherwydd bod Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd yn ennill mwy na £100,000.  Yn rhyfedd ddigon cafodd y trydariad ei gyhoeddi ar yr un diwrnod ag oedd Carwyn Jones yn gorfod ateb cwestiynau am bod Cyngor (Llafur) Caerdydd wedi caniatau i'w Prif Weithredwr nhw gael £170,000 y flwyddyn.


Fel sy'n weddol gyffredin efo Llafur mae'r trydariad uchod yn ffeithiol anghywir.  Mae cyflog Prif Weithredwr Gwynedd yn yr amrediad £100,536 - £108,264.  Dyma'r amrediad sydd wedi bodoli ers 2008.  Mae'r cynnydd o 10% yn gynnydd cwbl ddychmygol.  


Rwan mae'n wir bod Prif Weithredwr y cyngor yn derbyn mymryn mwy na £100,000 o gyflog - ond mae'r cyflog hwnnw ymysg yr isaf yng Nghymru (ac o bosibl yng ngweddill y DU hefyd).  Mae Ann Hopcyn yn ateb ei sylw efo linc i'r tabl isod.  Mi fyddwn yn nodi bod y tabl ychydig yn garedig efo Llafur yn yr ystyr nad yw'n llawn gynrychioli brwdfrydedd y blaid honno i roi cyflogau sylweddol iawn i uchel swyddogion.  Roedd Llafur yn rhan o'r weinyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin a ddaeth i'r casgliad bod eu prif swyddog nhw werth £185,000 y flwyddyn.


Ond mae pethau hyd yn oed yn waeth na hynny mewn gwirionedd.  Mae yna lawer o swyddogion eraill ar gynghorau sy'n ennill mwy na £100,000 - gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gweithio i gynghorau sydd o dan reolaeth llwyr, neu reolaeth rannol Llafur.  Hyd y gwn i nid yw'r ffigyrau yma wedi eu coledu ers 2013 - ond dyma ganfyddiadau Wales Online yn ystod y flwyddyn honno.  Mae'r ffigyrau yn cyfeirio at 2011/12.

Mae llywodraeth Carwyn Jones yn honni eu bod yn gwrthwynebu cyflogau uchel iawn i uchel swyddogion cynghorau, tra'n gwrthod gwneud dim i fynd i'r afael efo'r sefyllfa.

BLAENAU GWENT

Chief executive – David Waggett

Salary = £103,050

(with other payments and employer pension contributions = £126,379)

BRIDGEND

Chief Executive Officer and Head of Paid Service – Jo Farar 
Salary = £131,091 
(with other payments and employer pension contributions = £169,572)

Corporate Director – Children – Hilary Anthony 
Salary = £104,068 
(with other payments and employer pension contributions = £131,492)

Corporate Director – Communities – Louise Fradd 
Salary = £104,068 
(with other payments and employer pension contributions = £134,811)

Assistant Chief Executive – Performance and S151 Officer – David MacGregor 
Salary = £101,857 
(with other payments and employer pension contributions = £131,795)

CAERPHILLY

Chief Executive – Anthony O’Sullivan 
Salary = £123,665 
(with other payments and employer pension contributions = £149,294)

Deputy Chief Executive – Nigel Barnett 
Salary = £118,480 
(with other payments and employer pension contributions = £142,740)

Director of Social Services – Albert Heaney 
Salary = £105,367 
(with other payments and employer pension contributions = £127,045)

Director of Education – Sandra Aspinall 
Salary = £100,682 
(with other payments and employer pension contributions = £121,721)

CARDIFF

Chief Executive – Jonathan House 
Salary = £179,663 
(with other payments and employer pension contributions = £219,159)

Corporate Director Social Services – Neelam Bhardwaja until November 2011 
Salary £112,168 
(with other payments and employer pension contributions = £161,234)

Chief Corporate Services and Section 151 Officer – Christine Salter 
Salary = £107,088 
(with other payments and employer pension contributions = £130,689)

CARMARTHENSHIRE

Chief Executive – Mark James 
Salary = £185,365 (salary includes fees and allowances) 
(with other payments and employer pension contributions = £209,498)

Director of Regeneration and Leisure – Dave Gilbert 
Salary = £130,251 
(with other payments and employer pension contributions = £147,193)

Director of Technical Services – Richard Workman 
Salary = £118,410 
(with other payments and employer pension contributions = £135,689)

Director of Social Care, Health and Housing – Bruce McLernon 
Salary = £118,410 
(with other payments and employer pension contributions = £133,965)

Director of Resources – Roger Jones 
Salary = £118,410 
(with other payments and employer pension contributions = £133,940)

Director of Education and Children – Rob Sully 
Salary = £110,055 
(with other payments and employer pension contributions = £124,622)

CEREDIGION

Chief Executive – Bronwen Morgan 
Salary = £108,226 
(with other payments and employer pension contributions = £125,664)

DENBIGHSHIRE

Chief Executive – Mohammed Mehmet 
Salary = £124,859 
(with other payments and employer pension contributions = £166,719)

FLINTSHIRE

Chief Executive – Colin Everett 
Salary = £156,302 
(with other payments and employer pension contributions = £191,550)

GWYNEDD

Chief Executive – Harry Thomas 
Salary = £108,264 
(with other payments and employer pension contributions = £131,606)

ISLE OF ANGLESEY

Chief Executive – Richard Parry Jones 
Salary = £101,737 
(with other payments and employer pension contributions = £122,075)

MERTHYR TYDFIL

Chief Executive – Gareth Chapman 
Salary = £120,123 
(with other payments and employer pension contributions = £138,100)

MONMOUTHSHIRE

Chief Executive – Paul Matthews 
Salary = £117,000 
(with other payments and employer pension contributions = £140,210)

NEATH PORT TALBOT

Chief Executive – Steven Philips 
Salary = £129,725 
(with other payments and employer pension contributions = £148,593)

Director of Environment – John Flower 
Salary = £101,819 
(with other payments and employer pension contributions = £117,000)

Director of Social Services, Health and Housing – Tony Clements 
Salary = £101,216 
(with other payments and employer pension contributions = £115,892)

Director of Education and Lifelong Learning – Karl Napieralla 
Salary = £115,038 
(with other payments and employer pension contributions = £131,869)

Director of Finance and Corporate Services – Derek Davies 
Salary = £106,338 
(with other payments and employer pension contributions = £121,907)

NEWPORT

Managing Director – Tracey Lee 
Salary = £122,770 
(with other payments and employer pension contributions = £147,142)

Corporate Director, Regeneration and the Environment – Sheila Davies 
Salary = £101,313 
(with other payments and employer pension contributions = £121,565)

PEMBROKESHIRE

Chief Executive – Bryn Parry-Jones 
Salary = £159,462 
(with other payments and employer pension contributions = £194,820)

Director of Development – Dr Steven Jones 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £131,042)

Director of Finance and Leisure – Mark Lewis 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £128,034)

Director of Social Care and Housing – Jon Skone 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £132,373)

Director of Transportation and Environment – Ian Westley 
Salary = £105,575 
(with other payments and employer pension contributions = £129,322)

POWYS

Chief Executive – Jeremy Patterson 
Salary = £130,000 
(with other payments and employer pension contributions = £160,000)

Strategic Director – Finance and Infrastructure – Geoff Petty 
Salary = £101,000 
(with other payments and employer pension contributions = £124,000)

Strategic Director – Law and Governance – Clarence Meredith 
Salary = £101,000 
(with other payments and employer pension contributions = £124,000)

RHONDDA CYNON TAFF

Chief Executive - Keith Griffiths 
Salary = £142,000 
(with other payments and employer pension contributions = £159,000)

Group Director Corporate Services (Deputy Chief Executive) - Steve Merritt 
Salary = £122,000 
(Pension contributions not available)

Group Director Environmental Services - George Jones 
Salary = £113,000 
(Pension contributions not available)

Group Director Community and Children’s Services - Ellis Williams 
Salary = £113,000 
(Pension contributions not available)

Director of Education and Lifelong Learning - Chris Bradshaw 
Salary = £107,000 
(Pension contributions not available)

SWANSEA

Chief exec – Jack Straw 
Salary £140,000 
(with other payments and employer pension contributions = £168,700)

Corporate director environment – Reena Owen 
Salary £110,161 
(with other payments and employer pension contributions = £132,870)

Corporate director regeneration and housing – Phil Roberts 
Salary £110,000 
(with other payments and employer pension contributions = £132,550)

Corporate director education – Richard Parry 
Salary £105,000 
(with other payments and employer pension contributions = £126,684)

TORFAEN

Chief Executive – Alison Ward 
Salary = £121,940 
(with other payments and employer pension contributions = £140,257)

VALE OF GLAMORGAN

Chief Executive – John Maitland Evans 
Salary = £156,920 
(with other payments and employer pension contributions = £191,848)

Director of Legal, Public Protection and Housing – Peter Evans 
Salary = £108,067 
(with other payments and employer pension contributions = £132,438)

Director of Environmental and Economic Regeneration – Rob Quick 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £132,298)

Director of Finance, ICT and Property – Sian Davies 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £132,180)

Director of Social Services – Phil Evans 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £131,343)

Director of Learning and Development – Bryan Jeffreys 
Salary = £107,855 
(with other payments and employer pension contributions = £131,044)

WREXHAM

According to the figures, there were no officers employed by Wrexham ouncil in 2011/12 who were paid a salary of £100,000 or more.



Sunday, September 27, 2015

Diwrnod gwael i Corbyn

Ymddengys nad yw Corbyn am gael trafod Trident yn ei gynhadledd.  Canlyniad hynny ydi na fydd polisi Llafur tuag at wario hyd at £100bn ar WMDs ddim yn newid, a chanlyniad hynny yn ei dro ydi y bydd llawer o aelodau seneddol Llafur yn pleidleisio gyda'r Toriaid ar y mater.



Yn y cyfamser roedd yr arweinydd newydd ar raglen Andrew Marr y bore 'ma yn rhaffu celwydd am wleidyddiaeth yr Alban.  Yn naturiol ddigon ni chafodd ei herio gan Marr.  Er gwaetha'r holl heip mae'n dechrau ymddangos nad oes llawer iawn wedi newid mewn gwirionedd.

Buddugoliaeth i'r cenedlaetholwyr yng Nghatalonia

Rydym wedi cyffwrdd a'r stori am annibyniaeth Catalonia yn y gorffennol.  Ymddengys bod y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth wedi ennill yn etholiadau Catalonia - ac maent yn cymryd hynny fel mandad am annibyniaeth.  Bydd llywodraeth geidwadol Sbaen yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i atal hynny. 

Bydd y misoedd nesaf yn hynod ddiddorol - a helbulus yn ol pob tebyg.

Stori yma.

Gellir dilyn pethau yma.









A thudalen flaen arall

Tudalen papur newydd y diwrnod

Ein cyfeillion unoliaethol yn dangos eu dyngarwch naturiol unwaith eto

Amrywiaeth a'r Blaid Lafur

Mae'n dda nodi bod y Blaid Lafur yn hyrwyddo amrywiaeth o ran oed, lliw, rhyw ac ati.  Fel y gwelwch mae yna ddynas wedi gwneud ei ffordd i'r llwyfan yn ystod sesiwn drafod yng Nghynhadledd y Blaid Lafur.  Anna Hutchinson ydi ei henw - ac mae'n cael cadw cofnodion o'r perlau o ddoethineb sy'n dod o gegau'r hogiau.

Lwcus iawn.

Saturday, September 26, 2015

Chware teg i Lafur Llanelli

Ymddengys bod y Plaid Lafur Llanelli wedi llwyddo i gynyddu eu haelodaeth 0% ers yr Etholiad Cyffredinol - yn ol nhw eu hunain.  Cryn gamp i osgoi unrhyw gynnydd o gwbl yn wyneb Corbynmania. Llongyfarchiadau bois.


Ac ar drothwy Cynhadledd y Blaid Lafur _ _ _


Wednesday, September 23, 2015

Llongyfarchiadau i'r Arglwydd Sewel

Dwi'n gobeithio nad oes yna unrhyw un yn ddigon sinigaidd i gredu nad aeth yr heddlu ati i ddod a chyhuddiadau yn ymwneud a chyffuriau yn erbyn yr 'Arglwydd' Sewel oherwydd ei gyfoeth a'i statws sefydliadol.

Wedi'r cwbl roedd y dystiolaeth yn wan iawn gyda dim byd ond lluniau, ffilm fideo, recordiad ohono'n son am gyffuriau a dwy dyst ar gael.  Fyddai'r heddlu byth yn dod a chyhuddiadau yn erbyn unrhyw un gyda thystiolaeth mor ddi ddim.

Llafur Cymru ar flaen y gad am unwaith

Anaml iawn y bydd y Blaid Lafur 'Gymreig' ar y blaen ynglyn ag unrhyw beth o gwbl - ond mae'n ddiddorol nodi eu bod ar y blaen am unwaith ym maes pwysig ffraeo mewnol.  

Yn sgil anufudd-dod yr aelodaeth mae Kim Howells, cyn Aelod Seneddol Pontypridd, wedi bod yn mynd trwy ei bethau gan ddweud wrth y wasg y byddai'n gwrthwynebu arweinyddiaeth newydd Llafur yn chwyrn petai'n dal yn Aelod Seneddol.  Dywedodd hefyd bod rhyfel cartref oddi mewn i'r Blaid Lafur bellach yn anhepgor.  Does yna ddim ffordd well o greu ffraeo a rhyfela mewnol mewn plaid wleidyddol na thrwy ddarogan rhyfela a ffraeo mewnol - 'proffwydoliaeth hunan gynhaliol' ydi'r term 'dwi'n meddwl.

Da iawn hogiau, daliwch ati.


Monday, September 21, 2015

Tudalen flaen y diwrnod

Mwy o newyddion drwg i Rhif 10


Ynglyn a Cameron ei fochyn a'i ddrygs

Mae am fod yn anodd 'sgwennu hwn i gyd a chadw wyneb syth, ond mi geisiwn ni ein gorau - mae yna oblygiadau difrifol i 'r holl stori.



Mi wnawn ni ddechrau efo'n cyfeillion yn y Bib.  Roedd y stori wedi ei chladdu yn dwfn yn un o gorneli bach tywyll Newyddion 9 heno.  Cymrodd oriau maith i'r Bib lwyddo i gael eu hunain i gyfeirio at y stori o gwbl. 'Amheus' oedd yr ansoddair a ddefnyddwyd gan Newyddion 9 i ddisgrifio seremoni dderbyn honedig Cameron.  Amheus?   

Mewn amserau arferol mae'r Bib yn ceisio bod yn ddi duedd - ac efallai bod hynny'n fwy gwir am y Bib yng Nghymru na'r Bib yn yr unman arall.  Ond pan mae'n dod iddi - refferendwm yr Alban, digwyddiadau brenhinol, cefnogi rhyfeloedd tramor dw lali, embaras i'r sawl sy'n rhedeg y wladwriaeth, mae'n cyflawni ei phwrpas - amddiffyn buddiannau'r elitiau sy'n rheoli'r wladwriaeth Brydeinig.

Yn ail dyma i ni'r busnes anffodus yma o seremoni dderbyn honedig Cameron i Gymdeithas Piers Gaveston.  Rwan dydi grwpiau fel hyn ddim yn arbennig o anarferol ymysg dynion ifanc (yn bennaf) mewn  sefydliadau addysgol eltaidd.  Yn wir mae yna bwrpas iddynt - mae rhannu profiadau fyddai'n gryn embaras mewn cylchoedd arferol yn ffordd o gryfhau'r cysylltiadau oddi mewn i grwp - er bod rhaid cyfaddef ei bod yn ymddangos bod y grwp yma'n mynd ymhellach na'r rhan fwyaf yn y cyswllt hwn.  Mae pawb yn gwybod rhywbeth am bawb oddi mewn i'r grwp - felly does neb yn dweud dim.  Mae pawb yn cadw cyfrinach pawb.  Mae bod yn perthyn i grwp felly sydd efo buddiannau a gwybodaeth yn gyffredin i'w haelodau o gymorth wrth rwydweithio yn y dyfodol.  Mae llawer o'r sawl sydd yn llywodraethu efo Cameron gyda chefndiroedd hynod o debyg iddo - wedi mynd i'r un Brifysgol tua'r un pryd ar ol mynychu ysgolion bonedd tebyg.  Mae llawer o 'r bobl sy'n rhedeg pob dim arall yn y DU o gefndiroedd tebyg iawn hefyd. Dydi Cymru ddim fel hyn beth bynnag glywch chi am y Taffia - dydi hanner aelodau'r cabinet heb fod ym Mhrifysgol Aberystwyth na wedi bod yn aelodau o'r Geltaidd - nid fy mod yn gwneud cymhariaeth rhwng y Geltaidd a'r Piers Gaveston wrth gwrs.

Ac yn drydydd dyna i ni statws trethiannol Ashcroft pan oedd yn ariannu Plaid Geidwadol Cameron.  Wna i ddim aros gormod efo hon - mae'r pleidiau gwleidyddol ar yr achos yna.  Ond byddai goblygiadau bod wedi dweud celwydd am hynny yn fwy difrifol, os yn llai gogleisiol na busnes rhyfedd y mochyn.


Sunday, September 20, 2015

Problem fach Carwyn Jones

Felly - yn dilyn cyfweliad yr 'Arglwydd' Falconer y bore 'ma ymddengys bod cabinet cysgodol newydd Llafur yn rhanedig ar o leiaf 11 mater:

  • Ewrop
  • Nato
  • Trident
  • Annibyniaeth Banc Lloegr
  • Academiau addysgol
  • Cap ar fudd daliadau
  • Gwladoli'r Grid Cenedlaethol
  • Gwladoli'r banciau
  • Irac
  • Syria
  • Gogledd Iwerddon

Mae hon yn gryn restr - ac mae'r un gyflawn yn debygol o fod yn llawer, llawer hirach.  Dim ond y materion a gododd y bore 'ma sydd wedi eu rhestru uchod.  Mae'n amheus gen i bod unrhyw gabinet neu gabinet cysgodol wedi bod mor rhanedig ers hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.  Yn sicr does yna'r un arweinyddiaeth wedi bod mor barod i siarad am ei rhaniadau o'r blaen.




Mae hyn oll yn gadael y Blaid Lafur 'Gymreig' mewn cyfyng gyngor.  Mae'n anhepgor y bydd y rhaniadau'n troi'n ffraeo cyhoeddus - a bydd hynny'n cael effaith negyddol ar ymgyrch y Cynulliad.  Bydd felly'n demtasiwn i Carwyn Jones geisio ymbellau oddi wrth llywodraeth Corbyn - ond bydd hynny 'n achosi problemau ynddo'i hun.  Mae yna fwy - llawer mwy - o aelodau'r Blaid Lafur 'Gymreig' wedi pleidleisio i Corbyn na wnaeth i Carwyn Jones.  Mae gan Corbyn felly fwy o hygrededd ymysg aelodau Llafur Cymru na sydd gan Carwyn Jones.  Ond yn bwysicach na hynny 
hyd yn oed bydd rhaid i lywodraeth Bae Caedydd ymladd etholiad ar ei record ei hun os ydi hi'n symud oddi wrth Corbyn - ac mae'r record honno yn un enbyd o ddiffyg uchelgais, methiant treuenus i ddarparu gwasanaethau sylfaenol, a diffyg effeithiolrwydd cyffredinol.

Bydd yn ddiddorol gweld os y bydd yn well gan Carwyn Jones gysylltu ei hun efo cecru di ddiwedd yn Llundain 'ta efo ei record alaethus ei hun o fethiant di dor.  Mae'n dda gen i mai ei broblem o ydi hi.

Cadfridog yn y fyddin yn bygwth dod a'r llywodraeth i lawr

Yn ol y Sunday Times o leiaf:


Os ydi'r hyn mae'r papur yn ei ddweud yn wir, mae'n ymddangos bod y lluoedd 'diogelwch' yn fygythiad i'r broses ddemocrataidd - yn osystal ag i statws y DU yn y Gymuned Ewropeaidd a NATO o ran hynny. 

Rydan ni eisoes wedi son am Deyrnas Fanana.  I rest my case.  

Friday, September 18, 2015

Plaid Cymru am well Gwasanaeth Iechyd




Pam bod UKIP yn gwneud yn dda yn rhai o Gymoedd y De?

Mae'r rheswm yn syml yn ol y blog etholiadol election data.  Mae yna bump grwp o bobl sy'n tueddu i droi oddi wrth Llafur tuag at UKIP, ac mae'r pump wedi eu gor gynrychioli yn rhai o Gymoedd y De:

1). Teuluoedd sy'n ei chael yn anodd yn economaidd.
2). Grwpiau 'coler glas'
3). Pobl mewn oed sy'n byw ar stadau cyngor.
4). Pobl mewn oed sydd ar fudd daliadau sy'n byw mewn fflatiau cyngor neu stadau tai cymunedol.
5). Pobl ifanc iawn sydd ar incwm isel.


Am fanylion llawn - a llond trol o fapiau - gweler yma.

Tuesday, September 15, 2015

Mae wasg Seisnig yn boncyrs

Ymddengys bod yr holl wasg Seisnig ddyddiol wedi cael eu hunain mewn stad sy'n ymylu ar hysteria oherwydd bod anffyddiwr gwereniaethol o heddychwr  yn ymatal rhag canu can sy'n gofyn i Dduw sicrhau buddugoliaethau milwrol i frenhines.  Yn eu byd rhyfedd nhw mae methiant i ragrithio'n gyhoeddus yn fater o warth a chywilydd.

Ymddengys o'i gyfraniadau rhyfedd ar Newsnight bod Owen Smith yn rhyw gytuno efo nhw.

Hollol bisar.

Monday, September 14, 2015

Llais cryf i Gymru



Yn ddi amau bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol i Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru Nia Griffith bleidleisio ychydig fisoedd yn ol tros £30bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.  Y toriadau hyn - ynghyd a rhai blaenorol - sydd yn gyfrifol am y toriadau milain mewn gwariant sy 'n brathu ar hyd y sector gyhoeddus ar hyn o bryd - toriadau y byddwn yn gweld tystiolaeth o 'u heffaith pob tro y byddwn yn rhoi'r newyddion ymlaen.

Ond tybed faint sydd yn gwybod am yr holl faterion pwysig nad ydi Nia'n teimlo 'n ddigon cryf trostynt i fentro bwrw ei phleidlais?

Penderfynodd Nia atal ei phleidlais yn San Steffan ar y materion canlynol:

Ariannu Cymru yn deg - hy ar sail angen.
Atal toriadau i bensiynau sector gyhoeddus.
Torri cyfradd uchaf treth incwm.
Lleihau treth ar ynni mewn ardaloedd gwledig.
Caniatau i lywodraeth Cymru bennu ei blaenoriaethau ei hun mewn gwariant ar is adeiledd.
Datganoli grym tros brosiectau ynni sylweddol i Gymru.
Caniatau Cymru i reoli ei hadnoddau naturion eu hunain.
Atal ffracio hyd bod sicrwydd am ddiogelwch y broses wedi ei sefydlu.
Capio budd daliadau y bobl dlotaf mewn cymdeithas.

Sunday, September 13, 2015

Goblygiadau buddugoliaeth Corbyn - nodiadau brysiog

Dwi'n siwr y cawn ni gyfle yn y dyfodol agos i drafod natur gwleidyddiaeth Corbyn - ond dwi ddim yn credu'r naratif sefydliadol / cyfryngol bod yr wleidyddiaeth honno yn rhwym o fod yn amhoblogaidd - mae datblygiadau etholiadol ar draws Ewrop yn dangos hynny yn weddol glir.  Yn wir byddwn yn troi'r naratif bod Corbyn yn ddrychiolaeth o'r gorffennol a'i ben i lawr.  Blair ac Adain Dde Llafur sy'n byw yn y gorffennol mewn gwirionedd - maent yn dal i ail adrodd dadleon yr wyth degau fel petai strwythur yr economi heb newid, fel petai'r rhaniadau oddi mewn i gymdeithas heb newid, fel petai lleoliad gwleidyddol y pleidiau eraill heb newid, fel petai'r bygythiadau milwrol heb newid, fel pe bai'r  Blaid Lafur heb gael ei dadberfeddu'n fyw yn wyneb ymtsodiad ffyrnig o'r Chwith iddi.  Ond materon i ddiwrnod arall yd'r rhain mewn gwirionedd - pwrpas y blogiad yma ydi edrych ar y goblygiadau i Gymru.



Ar un olwg mae ethol Corbyn yn anghyfleus a dweud y lleiaf i'r Blaid (a'r SNP).  Mae yna lai o ddwr rhyngom ni a Llafur na fu ers blynyddoedd lawer.  Mae am fod yn anodd disgrifio plaid sy'n cael ei harwain gan Corbyn fel Toriaid Coch na rhyfelgwn anghyfrifol.  Ond mi fydd yna gyfleoedd yn codi ac mae'n bwysig cymryd mantais ohonynt.  Nid ei bolisiau fydd prif  broblem Corbyn, ond ei 'ffrindiau'.  Bydd Adain Dde ei blaid yn gwneud yr hyn allant i'w danseilio o'r diwrnod cyntaf.  Maent eisoes wedi gwneud hynny'n glir.  Byddai 'n well gan adain Blairaidd y Blaid Lafur weld llywodraeth Doriaidd nag un Lafur o dan arweinyddiaeth Corbyn.  Mae record Adain Dde Llafur o golli gydag urddas yn wael - a dweud y lleiaf.  Poerwyd y dwmi allan o'r goets go iawn yn wyth degau'r ganrif ddiwethaf, ac aethwyd ati i ffurfio plaid newydd - yr SDP.

Ac mi fedrwn fentro y bydd y Toriaid yn gyffredinol, a'r canghellor yn benodol - y canghellor mwyaf 'gwleidyddol' ers Lawson - yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gymryd mantais o'r rhaniadau hynny a'u chwyddo.  Ar ben hynny mae'r cyfryngau bron yn unffurf wrthwynebus i Corbyn i ryw raddau neu'i gilydd - mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o'r wasg draddodiadol Lafur a'r Bib.  Gallwn fod yn siwr y byddwn yn clywed y datganiadau di ddiwedd gan rai o aelodau cabinet cysgodol Llafur - a wnaed yn ystod yr ymgyrch - nad ydi Corbyn yn addas i fod yn Brif Weinidog trosodd a throsodd a throsodd.

Yn ychwanegol at hynny dydi hi ddim yn glir o gwbl hyd yn hyn sut berthynas fydd yna rhwng y Blaid Lafur 'Gymreig' a'r un Brydeinig.  Ychydig iawn o annibyniaeth barn mae 'r Blaid Lafur 'Gymreig' wedi ei ddangos hyd yn hyn - dydi hi ddim yn glir beth fydd yn digwydd os ydi Carwyn Jones yn ceisio torri ei gwys ei hun - er bod mwyafrif llethol aelodau ei blaid yng Nghymru wedi pleidleisio i Corbyn yn ol pob tebyg.

Gallwn fod yn siwr y bydd rhaniadau yn codi yn y math yma o dirwedd - y gamp i'r Blaid fydd cymryd mantais ohonynt.


O diar

Mae Chris Bryant - Aelod Seneddol y Rhondda - wedi cael gwared o'r disgrifiad ohono'i hun fel Gweinidog Diwylliant a Hamdden Cysgodol oddi ar ei dudalen trydar.  Gobeithio nad ydi Chris wedi cael newyddion drwg.


Ond tydi hi'n hwyl bod yn aelod o'r Blaid?

Noson wych i lawnsio ymgyrch yn Aberconwy echnos yng nghwmni Trystan Lewis, Meinir Gwilym a Hogiau'r Berfeddwlad a Jacob Elwy neithiwr yng Nghlwb Rygbi Llandudno a'r Clwb Pel Droed yn orlawn neithiwr yng Nghaernarfon yng nghwmni Sian Gwenllian, Celt a Tamarisco i lawnsio'i hymgyrch hithau.  

Nid canfasio a thaflennu ydi gwleidydda i gyd  - ond mae'r gwleidydda yn mynd rhagddo o hyd cofiwch - cafodd Leanne dderbyniad gwych yn Llandudno brynhawn echdoe a dosbarthwyd miloedd lawer o daflenni yn Arfon fore ddoe (er i mi golli hynny - roedd gen i gyfarfod yn Nolgellau yn anffodus).

Mae Pleidwyr y Gogledd Orllewin ar y lon unwaith eto.  








Ynglyn a chamarwain yr etholwyr

Mae'r stori fach a ddatblygodd ar trydar ddoe yn un bach digon diddorol.  Mae'n deillio o drydariad gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, y Cyng Sion Jones ei fod yn gynhyrfus iawn ynglyn a buddugoliaeth Jeremy Corbyn yn etholiad arweinyddol y Blaid Lafur, a'i fod wedi cefnogi'r sosialwr o Islington o'r dechrau'n deg.

Cafwyd ymatebion gan y Cyng Dyfrig Jones yn tynnu sylw i Sion ddatgan cefnogaeth i Andy Burnham ym mis Mai.




Ymddengys iddo hefyd wneud yr honiad iddo gefnogi Corbyn o'r cychwyn yn un o'r nifer nid ansylweddol o gyfweliadau mae'n eu cael gan y Bib.



A bod yn deg efo Sion aeth ati i gywirio ei hun yn syth gan ddweud ei fod wedi newid ei feddwl a chefnogi Corbyn yn 'hwyr ym mis Mai'.


Ond mae yna broblem yn aros mae gen i ofn.  Cafwyd datganiad gan Sion bod Burnham wedi colli ei gefnogaeth yn sgil sylwadau a wnaeth ynglyn a'r ffordd roedd Llafur wedi ymateb i bleidlais ar dorri budd daliadau.  Gwnaeth Burnham y sylwadau hynny ar Orffennaf 21 2015.  I'r rhai yn eich plith sydd ddim yn rhy siwr o sut mae'r calendr yn gweithio - mae hynny gryn ddau fis ar ol diwedd Mai.  Roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod mai Corbyn fyddai'n ennill erbyn y dyddiad hwnnw.


Rwan, dydan ni ddim yn son am rhyw gelwydd mawr Carmichaelaidd yma.  Does yna ddim amheuaeth bod Sion yn cefnogi Corbyn erbyn y diwedd.  Does yna ddim amheuaeth chwaith nad oedd yn cefnogi Corbyn o'r cychwyn fel yr honodd.  Ar un olwg mae'n ymgais hanner dealladwy - os naif - i wneud ei gysylltiad efo llwyddiant Corbyn yn gryfach nag oedd mewn gwirionedd.

Ond mae dau beth yn codi o'r stori ryfedd.  I ddechrau mae'n bwydo i mewn i ymdeimlad o anonestrwydd ymysg gwleidyddion.  Mae'n rhesymol i amau y byddai gwleidydd sy'n fodlon dweud celwydd 'golau' bychan, hefyd yn fodlon dweud celwydd mwy sylweddol petai amgylchiadau yn galw am hynny.

Mae yna rhywbeth arall hefyd - rhywbeth sydd yr un mor wir i flogiwr ag yw i wleidydd.  Mae hi bron yn unarddeg mlynedd ers i Flogmenai gychwyn - ac mi fedraf ddweud efo fy llaw ar fy nghalon nad oes yna erioed ymgais wedi ei gwneud i gyflwyno rhywbeth sy'n ffeithiol anghywir.  Peidiwch a cham ddeall - dydw i ddim yn honni am funud i fod ar rhyw ucheldir moesol - penderfyniad ymarferol ydi osgoi camarwain.  Mae'n bwysig i flogiwr bod yr hyn sydd yn ei flog yn gredadwy.  Mae cynnwys stwff sydd ddim yn ffeithiol gywir yn tanseilio hynny yn llwyr.  Mae'r egwyddor yna yr un mor wir i wleidydd - mae i wleidydd tanseilio ei gredinedd ei hun efo man gelwydd yn hurt.

Friday, September 11, 2015

Tudalen flaen y diwrnod


Dryswch Llafur ynglyn a'r iaith

Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol ei bod yn anffodus - a dweud y lleiaf - bod y gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Carwyn Jones, yn cyfaddef ei fod yn cael trafferth dwyn perswad ar ei blant ei hun i ddefnyddio'r Gymraeg efo'i gilydd.  Os nad ydym yn gallu perswadio ein plant i wneud rhywbeth, mae'n anodd gweld pam ein bod yn disgwyl gallu dwyn perswad ar unrhyw un arall i wneud yr un peth.  Ymddengys i Carwyn fynd un cam yn well ym Mhatagonia ac annerch cyfarfod gweddol fawr trwy'r Saesneg, a'r Saesneg yn unig.  Go brin y gallai ddod o hyd i dyrfa o oedolion yn unrhyw le yn y Byd lle mae mwy yn deall y Gymraeg na'r Saesneg, ac mae'n cymryd y penderfyniad i'w hannerch yn y Saesneg.  Dydi idiotrwydd ddim yn air digon cryf rhywsut. 



Ond wedyn mae'r Gymraeg yn bwnc sydd wedi bod yn anodd i'r Blaid Lafur erioed. Mae rhai o wleidyddion Llafur yn y gorffennol - 'Arglwydd' Tonypandy a Iorweth Thomas er enghraifft wedi bod ymysg y pobl mwyaf gwrth Gymraeg i droedio'r Ddaear. Yn yr oes sydd ohoni maent i fod yn gefnogol i'r iaith - ond mae hyn yn eu drysu yn lan.  Ychydig iawn o 'u gwleidyddion cenedlaethol neu leol sy'n defnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith.  Dydi pobl fel Gwenda Thomas neu Kevin Madge sy'n ei siarad yn rhugl prin byth yn traddodi ynddi ar lawr y Cynulliad neu Gyngor Caerfyrddin.

A hyd yn oed yma yng Ngwynedd - lle mae nifer o wleidyddion, aelodau a chefnogwyr Llafur yn gwneud defnydd helaeth o'r iaith -  mae'n achosi problemau seicolegol i'r blaid.   Roeddem yn edrych ar ymddygiad rhyfedd un o'u hymgeiswyr Cynulliad yn ddiweddar - lle mae'n ystyried darpariaeth ddwyieithog fel rhywbeth sy'n ymylu ar hiliaeth, ond yn cwestiynu pam bod cyfrif trydar preifat gan berson di Gymraeg sy'n cefnogi'r Blaid ddim trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r dryswch rhyfeddol yma yn ymestyn i gefnogwyr cyffredin ar lawr gwlad.  Ystyrier y trydariad yma gan gefnogwr adnabyddus o'r Blaid Lafur yn Arfon er enghraifft.



Er mwyn osgoi embaras i'r trydarwr, ac i guddio pwy ydyw mi gyfeiriwn ato fel John.  Ymddengys bod John yn meddwl ei bod yn briodol cyfeirio cyfrifon trydar preifat Saesneg i bencampwr iaith Gwynedd.  Ond ar yr un diwrnod roedd wrthi'n cwyno i Gyngor Gwynedd yn gyhoeddus trwy gyfrwng ei gyfri trydar bod rhywun wedi dympio llwyth o sbwriel yn agos at ei gartref.  Yn naturiol ddigon roedd yn cwyno trwy gyfrwng yr iaith fain. 





Mae'n anodd credu'r dryswch rhyfeddol yma rhywsut.

Wednesday, September 09, 2015

Gwobrau crafu'r diwrnod

Dyma'r llyfu a llempian dwi wedi dod ar ei draws hyd yn hyn.  Os oes rhywun efo enghreifftiau teilwng eraill o grafu pathetig gadewch gyfeiriad yn y dudalen sylwadau - byddaf yn siwr o 'u hychwanegu.









Tuesday, September 08, 2015

Ymgeiswyr lloches yn achosi mwy o broblemau

Dwi'n siwr y bydd darllenwyr Blogmenai yn cydymdeimlo efo'r aelod seneddol Toriaidd Adam Holloway ar y problemau mae'n eu cael efo ymgeiswyr lloches.  Does yna ddim pen draw i'r problemau mae hyn oll yn ei achosi.  Eglurodd ei broblemau dybryd mewn dadl yn Nhy'r Cyffredin heddiw.


"They have been though dozens of safe countries by the time they get to Calais. It’s quite possible to be a refugee and an economic migrant.

“And I think that’s one of the appalling truths of the Syrian bodies that have been washed up on the beaches. They previously got to safe countries and now they’re choosing to come to Europe…

“Likewise, we have people in this country who have come here, have claimed asylum, and then they go back on holiday in the places where they claimed asylum from. 

“I couldn’t have my hair cut the other day for that reason.”


Sunday, September 06, 2015

Y Blaid Lafur'Gymreig' a'r Gymraeg



Mae'n debyg ei bod ychydig yn anisgwyl bod ymgeisydd Llafur yn Arfon yn etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfri trydar o 'r enw @PlaidSurge yn uniaith Saesneg - wedi'r cwbl ychydig fisoedd yn ol roedd Sion yn ceisio ffurfio cysylltiad rhwng darpariaeth ddwyieithog a hiliaeth.  Ond, a bod yn deg, ni all neb gyhuddo Sion ei hun o gadw cyfri trydar sydd ddim yn parchu'r Gymraeg - mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n amlach na'r Saesneg ganddo.

Fel mae'n digwydd mae yna reswm gweddol syml pam bod @PlaidSurge yn uniaith Saesneg - cyfrif preifat ydi o - mae'n cael ei gadw gan rhywun sy'n cefnogi 'r Blaid, a gallai fod yn aelod, ond dydi o ddim yn gyfrif Plaid Cymru.  Mae'n fwy na thebyg bod deiliaid y cyfrif yn ddi Gymraeg.  

Mae gan y Blaid bolisi dwyieithog cadarn - yn wahanol iawn i'r Blaid Lafur.  O ganlyniad mae cyfathrebu cyhoeddus y Blaid yn ganolog i gyd yn ddwyieithog - o'r cyfrifon trydar, i 'r cyfrif Gweplyfr, i'r wefan, i gyfrif trydar yr arweinydd.  Mae cyfathrebu mewnol y Blaid i gyd yn ddwyieithog hefyd.  Mae pwyllgorau mewnol y Blaid - y Cyngor Cenedlaethol, y Pwyllgor Gwaith a'r Gynhadledd yn gwneud defnydd o gyfieithwyr, ac maent yn cael eu cynnal yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Cymharer hyn efo'r Blaid Lafur 'Gymreig' sydd i pob pwrpas yn endid uniaith Saesneg.  Mae'n wir bod yr elfennau parhaol i'r wefan yn ddwyieithog - er bod y deunydd sy'n cael ei diweddaru o ddydd i ddydd bron yn ddi eithriad yn Saesneg.  Mae'r cyfrifon trydar - @WelshLabour, @WelshLabourStudents, @WelshLabPress, @WelshLabourGrassroots yn uniaith Saesneg.  Mae'r cyfrif Gweplyfr yn uniaith Saesneg.  Mae cynhadledd 'Gymreig' y blaid bron i gyd yn Saesneg, mae'r pwyllgorau mewnol a'r cyfathrebu mewnol gyd yn Saesneg, mae'r datganiadau i 'r wasg yn Saesneg ac mae bron i'r cwbl o'u haelodau Cynulliad yn defnyddio'r Saesneg a'r Saesneg yn unig yn eu gwaith pob dydd.  Hyd yn oed yma yn Arfon - etholaeth Gymreiciaf Cymru o ran iaith, ychydig iawn o Gymraeg a ddefnyddwyd gan eu hymgeisydd ym mis Mai ar ei gyfrif trydar.

Gan bod cyfrif preifat uniaith Saesneg sy'n digwydd bod yn gefnogol i Blaid Cymru yn ymddangos i boeni Sion, byddai'n ddiddorol gwybod beth mae o - neu'r ychydig o bobl eraill yng Nghymdeithas Cledwyn sy'n honni i fod yn garedigion y Gymraeg o ran hynny - wedi ei wneud i dynnu sylw'r Blaid Lafur yn ganolog at y ffaith ei bod yn endid sy'n dangos ychydig iawn, iawn o barch tuag at y Gymraeg. 

Saturday, September 05, 2015

Llythyr yr wythnos


Pam ei bod yn bwysig nad Llafur sy'n arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd

Mi fydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai wedi sylwi ar ffrwydriad anodweddiadol o weithgarwch gan Weinidog Cyntaf Cymru, Carwyn Jones.  Ymddengys ei fod yn gwneud ei ffordd o gwmpas Cymru tra'n honni gwneud rhywbeth arall cwbl anodweddiadol - gwrando.  

Y rheswm am hyn oll wrth gwrs ydi bod Carwyn eisiau pum mlynedd arall wrth y llyw yng Nghymru.  Mae'n bwysig er mwyn Cymru nad ydi o na'i blaid yn arwain llywodraeth Cymru ar ol y flwyddyn nesaf - mae Carwyn wedi methu yn bersonol a symud Cymru yn ei blaen ers cael ei ethol yn Brif Weinidog  ddiwedd 1999, ac mae ei blaid efo record o fethiant aleuthus ers 1999.  Llafur sydd wedi arwain pob llywodraeth ers 1999 - y nhw sy'n gyfrifol am pob methiant ers hynny.

Un o'r prif ddadleuon tros ddatganoli yn ol yn 1997 oedd y byddai ymreolaeth leol yn caniatau i lywodraeth Cymru fynd i'r afael a than berfformiad economaidd Cymru o gymharu a gweddill y DU.  Yn hytrach na chau y bwlch hwnnw, mae wedi agor ac wedi agor yn sylweddol.  Mewn termau cymharol mae Cymru yn dlotach heddiw nag oedd yn 1999.

Mae'n debyg i'r cyfryngau Seisnig wneud gormod o fethiannau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a rhy ychydig o'r methiannau yn y Gwasanaeth yn Lloegr - ond record o fethiant ydi record Llafur Cymru beth bynnag.  Bu tan gyllido ers 2011, ceir methiannau yn y ddarpariaeth mewn perthynas ac argaeledd cyffuriau, profion a doctoriaid teulu mewn ardaloedd gwledig.  Mae yna ddiffyg cysondeb darpariaeth ar hyd a lled y wlad, mae'r ad drefnu sydd wedi ei orfodi ar Fyrddau Iechyd yn ansensitif ar y gorau ac yn orffwyll o wirion ar y gwaethaf.  

Prif faes gorchwyl arall y Cynulliad ydi addysg.  Mae'r ffordd mae Llafur wedi mynd i'r afael a'r Gwasanaeth Addysg yn esiampl pellach o ddiffyg crebwyll.  Yn ystod blynyddoedd cynnar y Cynulliad roedd y system wedi ei nodweddu gan hunan fodlonrwydd ynglyn ag allbwn y system ac ymgeisiadau di ddiwedd i ddefnyddio'r gyfundrefn i wireddu gwahanol amcanion cymdeithasol.  Wedyn yn sgil profion Pisa 2009 cafwyd panig gwyllt llywodraethol sydd wedi arwain at lunio system sydd mewn cyflwr o newid parhaus (gyda'r newidiadau yn aml yn groes i'w gilydd), sydd wedi ei lethu gan fiwrocratiaeth, lle mae pawb yn cael ei herio gan bawb arall a lle bod pawb efo baich gwaith cwbl afresymol.

Petai pobl Cymru yn caniatau i Lafur arwain y llywodraeth nesaf, yna byddai record hir o fethiant yn cael ei gwobreuo - a rydan ni i gyd yn gwybod beth ydi canlyniad gwobreuo methiant - mwy o fethiant.

Thursday, September 03, 2015

Sensitifrwydd UKIP

Roedd Mr Buckiltsch yn ymgeisydd UKIP yn Wimbledon yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.  Safodd i'r Lib Dems hefyd yn 2010.

Wednesday, September 02, 2015

Mae David Davies yn dod a gwarth ar Gymru



: "Mae'n rhaid i ni ddweud, sori, ond os ydych chi'n ffoi rhag rhyfel mae gwersylloedd yn Nhwrci a Jordan sy'n gallu sicrhau eich diogelwch.
"Ond ni allwn ni dderbyn miloedd ar filoedd i Ewrop. Pe bai pawb yn cael eu derbyn fe fyddai'n ddiwedd ar y Gwasanaeth Iechyd, oherwydd ni allwn ni ymdopi gyda'r niferoedd." - David Davies, Aelod Seneddol Mynwy ar Newyddion 9 heno.
Bore ma roedd y dyn yn cyhuddo cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru am fod eisiau caniatau mynediad i rai o'r bobl anffodus sy'n dianc rhan rhyfeloedd y Dwyrain Canol.

Tuesday, September 01, 2015

Hanes Casnewydd yn ail adrodd ei hun

Mae'n ddigon posibl bod gan Paul Flynn bwynt bod ymgeiswyr lloches yn cael eu dosbarthu mewn modd anghyfartal, ac mae hefyd yn bosibl bod ymdrech fwriadol yn cael ei gwneud i sicrhau nad oes llawer o ymgeiswyr lloches yn cael eu hunain mewn etholaethau Toriaidd.



Ond mae yna rhywbeth chwithig am ddyn efo cyfenw fel Flynn sy'n cynrychioli etholaeth yng Nghasnewydd yn cwyno am ymgeiswyr lloches.  Casnewydd ydi ardal fwyaf Pabyddol Cymru.  Mae'r rhan fwyaf o'r Pabyddion sy'n byw yno efo'u gwreiddiau yng Ngorllewin Cork, ac maent yn byw yng Nghasnewydd oherwydd i filoedd o Wyddelod oedd yn llwgu lwyddo i ddianc ar fwrdd llongau oedd yn gadael Harbwr Cork yn ystod y Newyn Mawr - an Gorta Mor. Mae teulu fy ngwraig - Lyn- o 'r cefndir hwnnw - er mai i Gaerdydd yr aethant hwy.   Byddai'r llongau yn eu gadael ar hyd arfordir De Cymru gan wybod y byddai'n rhaid i awdurdodau'r plwyfi yma yn eu cadw'n fyw wedi iddynt gael eu darganfod.  

Mi fedrwn ni fod yn reit siwr bod roedd yna bobl fel Mr Flynn bryd hynny yn cwyno bod rhaid i ardal Casnewydd gymryd gormod o bobl oedd yn chwilio am loches.