Tuesday, May 12, 2015

Y diweddaraf am Blaid y Llwynogod

Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai wedi darllen am antics rhyfedd Llafur Arfon yn ystod yr ymgyrch etholiad ddiweddar.  'Dydi colli'r etholiad heb eu gwneud nhw yn fwy rhesymegol mae gen i ofn.  Y stynt diweddaraf ydi trefnu bws i fynd i Lundain i brotestio yn erbyn llymder a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus.  Pleidleisiodd y Blaid Lafur seneddol o blaid toriadau a llymder yn gynharach eleni.  Maent felly yn mynd i brotestio yn erbyn polisi eu plaid eu hunain. 

Ymddengys bod hyn yn duedd Llafuraidd y tu hwnt i Arfon.  Mi gofiwch  Leighton Andrews yn gwrthdystio fel Aelod Cynulliad yn erbyn cau ysgolion - deilliant uniongyrchol ei bolisiau fo'i hun fel Gweinidog Addysg.








3 comments:

Anonymous said...

Annwyl Cai Larsen,

Gofynnaf yn garedig i chi dynnu'r llun hwn oddi ar eich blog os gwelwch yn dda. Fi yw'r person yng nghanol y llun. Sylwaf mai hwn yw'r eil dro i chi ei ddefnyddio ar eich blog. Nid oes caniatad wedi ei warantu ar fy rhan ar gyfer ei ddefnyddio yn y modd yma. Ni roddais ganiatad i berchennog/crëwr y llun ei rannu gydag eraill ar gyfer unrhyw bwrpas. Ni roddwyd caniatad ychwaith i llun ohonaf gael ei ddefnyddio/roi yn gyhoeddus ar y we.
Buaswn ym gwerthfawrogi os y gallwch 'blyrio' fy wyneb neu ei dynnu. Diolch am eich sylw.

Cai Larsen said...

Dydi tynnu'r ddelwedd ddim yn broblem, ac os ydych am i mi wneud hynny mi wnaf - er nad oes gennym hawl fel y cyfryw i ddelweddau ohonom ein hunain wrth gwrs - fel y byddai'r diweddar Lady Di wedi cadarnhau petai'n dal efo ni.

Anonymous said...

Diolch Cai