A bod yn onest, tra fy mod yn deall pam nad ydi nifer o Aelodau'r Cynulliad eisiau cymryd y codiadau cyflog sydd am gael ei roi iddynt ar ol etholiadau'r flwyddyn nesaf, dwi'n meddwl bod cymryd y cam yma yn gamgymeriad. Mae gwaith Aelod Cynulliad yn fwy heriol nag un Aelod Seneddol mewn gwirionedd. Mae yna chwe chant a hanner o'r rheiny i wneud y busnes o lywodraethu a chraffu ar y llywodraethu hwnnw - heb son am y cannoedd lawer o arglwyddi sy'n gwneud yr un math o beth. Chwe deg Aelod Cynulliad sydd yna. Dylai'r cyflogau adlewyrchu hynny. Dydi trefn lle mae Aelodau Cynulliad efo llawer mwy i 'w wneud nag Aelodau Seneddol, ond yn cael eu talu llawer llai ddim yn sefyllfa sy'n adeiladu hygrededd y Cynulliad.
Ta waeth - rhydd i bawb ei farn - ond os ydi rhai o Bleidwyr y Cynulliad ddim eisiau'r arian ychwanegol, mi fyddwn i yn argymell eu bod yn ei gyfrannu i'r Blaid yn hytrach na'i roi i elusen neu geisio ei wrthod yn llwyr. Byddwch yn ymwybodol fy mod yn yr Iwerddon ar hyn o bryd, ac mae'n arfer gan nifer o grwpiau a phleidiau Adain Chwith i wneud hyn. Yr esiampl mwyaf nodedig - ond nid yr unig un - ydi Sinn Fein.
Yng Ngogledd Iwerddom mae 29 Aelod Cynulliad y blaid yn cymryd cyflogau o £26,000 tra bod y taliadau iddynt yn amrywio o £48,000 i £120,000. Mae'r gwahaniaeth yn mynd i'r blaid. Mae treuliau'r Aelodau Cynulliad hefyd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau y blaid gyda £700,000 yn gwneud ei ffordd i gwmni o'r enw Research Services Ireland tros gyfnod o ddeg mlynedd. Sinn Fein ydi perchenog y cwmni.
Dydi Aelodau Seneddol y blaid ddim yn cael cyflogau oherwydd nad ydynt yn fodlon eistedd yn San Steffan - ond mae'r £647,047 maent yn ei gael mewn treuliau eto yn cael ei fuddsoddi yn is seiledd y blaid.
Mae'r un peth yn digwydd yn y Weriniaeth gyda'r Aelodau Etholedig yn y Dail yn cyfrannu £145,000 i goffrau'r blaid trwy beidio cymryd mwy na'r cyflog cyfartalog yn y fan honno. Mae'r aelodau hynny hefyd wedi hawlio £5m tros y bedair blynedd diwethaf mewn treuliau - eto mae'r pres hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn bennaf i gyflogi staff. Bydd cyfraniad y tri Aelod Seneddol Ewropeaidd a etholwyd y llynedd yn cael ei ychwanegu at hynny maes o law.
Mae'r cyfraniadau uchod, dulliau confensiynol o godi pres ynghyd a chyfraniadau gan gefnogwyr yn yr Unol Daleithiau yn creu incwm blynyddol o rhwng £3m a £4m. Mae'r swmiau yma yn sylweddol, ac maent yn un o'r rhesymau pam bod y blaid wedi tyfu yn sylweddol yn ddiweddar.
Dydan ni ddim yn son am ffigyrau tebyg yn Nghymru wrth reswm, ond mae'r un hanfodion yn wir - gall pres o'i wario'n effeithiol brynu llwyddiant etholiadol - hyd yn oed swmiau cymharol fach o bres.
No comments:
Post a Comment