Mi gynhyrchais i flog yn ddiweddar oedd yn ymwneud ag ymgyrch Llafur yn Arfon yn syrthio yn ddarnau. Erbyn y dydd Sadwrn olaf roedd eu hactifyddion yn rhedeg o gwmpas yr etholaeth wedi eu gwisgo fel anifeiliaid gwyllt. Parhaodd hynny at ddiwrnod yr etholiad - roedd yna lwynog yn rhedeg o gwmpas Bangor Uchaf ar ddiwrnod yr etholiad ei hun yn ceisio argyhoeddi myfyrwyr y byddai pleidlais i Lafur yn amddiffyn ei fywyd.
Roedd ymgyrch Llafur yn lleol yn astudiaeth achos o sut i beidio a rhedeg ymgyrch etholiadol. Yn sylfaenol craidd yr ymgyrch oedd adnabod gwahanol grwpiau lleiafrifol oddi mewn i'r boblogaeth a cheisio apelio atynt i bleidleisio i Lafur i bwrpas pontio'r bwlch o tua 1.4k rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Felly roedd gwahanol achosion cynllunio yn rhan o ymgyrch Llafur, roedd yna lwynogod a moch daear yn rhedeg o gwmpas yr etholaeth, roedd myfyrwyr o Loegr yn cael addewidion o £3k tuag at eu ffioedd, roedd cau Ysgol Carmel ar dudalen flaen pamffledi Llafur - er i'w cynghorwyr gefnogi cau'r ysgol, roedd gweithwyr cytundebau sero awr yn cael addewidion y byddai'r cytundebau hynny yn anghyfreithlon y diwrnod ar ol yr etholiad petai Alun Pugh yn cael ei ethol yn Arfon, ac ati, ac ati.
Yn y cyfamser roedd y Blaid yn rhedeg ymgyrch hollol wahanol - doedd yna ddim apelio at grwpiau lleiafrifol. Roedd yr ymgyrch wedi ei chanoli o gwmpas nifer gyfyng o negeseuon oedd wedi eu hanelu at bawb - negeseuon creiddiol y Blaid yn genedlaethol o wrthwynebu toriadau, cefnogi cyfartaledd rhwng Cymru a'r Alban a sefyll i fyny tros Gymru ochr yn ochr a negeseuon lleol - llais cryf i Arfon yn San Steffan a record yr ymgeisydd. Taflwyd adnoddau ariannol a dynol tuag at ail adrodd ac atgyfnerthu'r negeseuon hynny trosodd a throsodd. Hefyd gwnaed defnydd o beirianwaith sylweddol y Blaid yn lleol i adnabod cefnogwyr potensial a'u cael allan i bleidleisio. Daethwyd o hyd i dros i 13k a llwyddwyd i gael 90% a mwy o'r rheiny allan ar y diwrnod.
A bod yn deg a Llafur mi gafodd eu hymgyrch ddarniog effaith - ond effaith darniog oedd hi. Cododd eu pleidlais yn gyffredinol ac yn arbennig ymysg y sawl roeddynt yn eu dargedu - yn yr ardaloedd tlotaf un, ymysg myfyrwyr, yn un o'r ddau bentref lle'r oedd ysgol wedi cau (cawsant gweir yn y llall), mewn ardaloedd lle'r oedd yna ffraeo wedi bod ynglyn a chynllunio. Ond mi gododd pleidlais y Blaid mwy o lawer, a chododd ym mwyafrif llethol y bocsus pleidleisio. Cododd i'r fath raddau nes i'r Blaid gael mwy o bleidleisiau na Llafur mewn nifer o wardiau ardal Bangor am y tro cyntaf erioed mewn etholiad cyffredinol.
Yn ychwanegol at hynny roedd natur negyddol ymgyrch Llafur - ynghyd a'u hymdrechion cwbl fwriadol i gamarwain ac yn wir dweud celwydd noeth ar y stepan drws yn ennill rhai pleidleisiau iddynt - ond roedd hefyd cynddeiriogi pobl - ac yn eu gwneud yn fwy tebygol o fynd allan i bleidleisio yn erbyn Llafur.
O'm rhan fy hun, roeddwn yn gwybod yn fy nghalon bod pleidlais y Blaid am gynyddu'n sylweddol am tua 8.30 ddydd Iau. Roeddwn yn gyfrifol am gael cefnogwyr y Blaid allan i bleidleisio yn rhan o ardal Twthill yng ngogledd Caernarfon. Mae cefnogaeth y Blaid yn yr ardal arbennig yma o Gaernarfon gyda'r uchaf yng Nghymru. Roeddwn wedi gofyn hanner awr ynghynt faint oedd wedi pleidleisio - roedd yn 65%. 58% oedd wedi pleidleisio trwy gydol y dydd yn 2010. Roedd y rhestr cefnogwyr yn yr ardal o fy mlaen, ac roedd enw pawb oedd wedi pleidleisio wedi eu croesi allan - mae hynny'n gannoedd o bobl. Doedd gen i ddim byd mwy i'w wneud - roeddwn wedi ffonio neu guro drws pawb nad oedd wedi pleidleisio - doedd hynny erioed wedi digwydd i mi o'r blaen. Roedd yr etholiad trosodd am 8.30. Roedd yn amlwg bod cefnogwyr naturiol y Blaid wedi mynd allan i bleidleisio mewn niferoedd sylweddol iawn.
4 comments:
Ysgol Chwilog?
Ysgol Carmel oeddwn i'n ei feddwl - dwi wedi sgwennu enw un ysgol tra'n golygu'r llall ddwywaith yn ddiweddar. Henaint ni ddaw ei hunain!
Ond cofiwch gyfaill, nifer pleidleisiau PC yn 2010 yn 184,260 ond erbyn eleni wedi GOSTWNG i 181,294.
Mae eich blog wedi rhoi sylw haeddiannol iawn i atal hela llwynogod , diolch am hynny , ac , yn fwy arbennig, i'r ffaith fod gan PC ddim polisi clir ar y gweithgaredd hela.
165,394 oedd y bleidlais yn 2010 a 181,694 oedd y bleidlais ddydd Iau. Mae 181,694 yn uwch na 165,394.
Post a Comment