Sunday, May 31, 2015

Cymru ac Iwerddon - hanes dau economi

Dydi o ddim yn syndod bod trigolion y rhanbarth cyfoethocaf o Gymru efo llai o bres yn eu poced na'r rhanbarth tlotaf o Lundain.


Mae yna pob math o ffyrdd eraill o ddangos bod Cymru'n dlotach na'r unman arall yn y DU.  Er enghraifft mae'r ffigyrau GVA mwyaf diweddar sydd ar gael yn dangos bod Cymru ar waelod y pentwr o dan y mesur hwnnw o gyfoeth - ar £18,839 y pen.  Y ffigwr cyfatebol am ddinas Llundain ydi £40,215.  

Mae'r rhesymau am hyn oll yn weddol amlwg mae'n debyg gen i - diflaniad y diwydiannau mwyngloddio oedd yn asgwrn cefn i economi Cymru yn y gorffennol, a methiant i wneud iawn am hynny trwy ddatblygu sector cynhyrchu llewyrchus a sectorau gwasanaethau o ansawdd.  Mae llawer iawn o bobl Cymru yn byw mewn cymunedau ol ddiwydiannol lle nad oes dim wedi dod i gymryd lle'r diwydiannau a gollwyd.



Roeddwn yn Nulyn ddoe a dwi yng Nghaernarfon heddiw.  Roeddwn yn croesi'r mor yn hwyr neithiwr.  Yn gynharach yn y dydd roeddwn wedi parcio'r car yn agos at North Wall, a cherdded i ganol y ddinas.    Roedd fy llwybr i'r canol canol yn mynd a fi trwy ardal ariannol Dulyn - yr IFSC.  Mae'r lle yn llawn o swyddfeydd sefydliadau ariannol cenedlaethol -  sefydliadau fel CitibankCommerzbank, SIG a Sumitomo.  Yn gynharach yn y diwrnod roeddwn wedi dreifio i ganol Dundalk i chwilio am betrol.  Mae yna barc busnes ar gyrion Dundalk sy'n gartref i ganolfannau technoleg adnabyddus - Xerox, Ebay a Paypal er enghraifft. Mae Dundalk yn dref ar y ffin efo Gogledd Iwerddon oedd yn cael ei gysylltu yn fwy na dim efo'r rhyfel hir yn y Gogledd hyd yn ddiweddar.  

Wrth ddreifio'n ol o Gaergybi am adref roedd hi'n goblyn o nosod fudur ac roedd y car ymysg y diwethaf i gael gadael y llong.  Erbyn gadael yr A55 ar gyrion Bangor roeddwn wedi pasio dwsinau o loriau cario nwyddau - pob un ohonynt wedi eu llenwi efo nwyddau oedd wedi eu cynhyrchu yn yr Iwerddon.  Roeddynt yn gwneud eu ffordd tuag at farchnadoedd Ewrop trwy ddiffeithwch cynhyrchu yng Ngogledd Cymru.  

Dydi hi ddim yn neilltuol o anodd i weld pam nad ydi Cymru yn cael ei ystyried yn leoliad delfrydol i ddatblygu diwydiant cynhyrchu - mae ymhell iawn oddi wrth marchnadoedd mawr Ewrop.  Mae lleoli diwydiant ymhell oddi wrth marchnadoedd yn ychwanegu costau sylweddol i ddiwydiant.  Ond mae'r Iwerddon ymhellach oddi wrth marchnadoedd Ewrop na Chymru, ac mae yna for ychwanegol i 'w groesi.  Y gwahaniaeth ydi bod Iwerddon yn annibynnol - ac oherwydd y statws hwnnw mae ganddi'r gallu i ddigolledu diwydiannwyr am yr anfanteision strwythurol mae lleoliad daearyddol y wlad yn eu creu.  Mae'r gyfundrefn drethiannol yn rhan bwysig o'r digolledu hwnnw wrth gwrs, er bod llawer o bethau eraill y gellir eu gwneud i wneud lleoliad yn fwy atyniadol i fusnes.  

A deilliant hynny yn y diwedd ydi hyn - er gwaethaf gor ddibyniaeth ar y banciau a'r argyfwng ariannol a gododd yn sgil hynny, er gwaetha'r ffaith bod Iwerddon wedi dioddef llymder ar gyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf yr anfanteision daearyddol, er gwaethaf y diffyg adnoddau naturiol mae'r Iwerddon yn llawer, llawer cyfoethocach na Cymru - rhan dlotaf y DU.  Mae'n llawer cyfoethocach na'r DU yn ei chyfanrwydd hefyd - fel mae'r tabl GDP isod yn ei ddangos.


Dydi'r ffeithiau - a ffeithiau ydyn nhw - ddim am wneud dim i effeithio ar y feddylfryd Gymreig na'r naratif unoliaethol - 'mae Cymru'n rhy dlawd i gymryd gormod o gyfrifoldeb am ei bywyd cenedlaethol ei hun'.  Y ffaith syml ydi mai'r anallu i gymryd cyfrifoldeb tros ein tynged economaidd ydi'r prif reswm tros dlodi yng Nghymru, a'r tlodi hwnnw sy'n cael ei gynnig fel y prif reswm pam na ddylai Cymru gael gormod o reolaeth tros ei phethau ei hun.  Tlawd fyddwn ni hyd i'r cylch afresymegol yma gael ei dorri.


No comments: