Dwi'n cael fy hun yn Ballycastle ar hyn o bryd - tref glan mor gyferbyn ag Ynys Rathlin. Mae Rathlin yn ynys hynod o heddychlon y dyddiau yma, ond llawer iawn o dywallt gwaed wedi bod yno yn y gorffennol. Lladdwyd llawer yno gan Syr Henry Sidney yn 1557 a lladdwyd cannoedd lawer o ddynion, gwragedd a phlant o ffoaduriaid o'r Clann McDonnell Albanaidd gan Francis Drake yn 1575.
Ac mae'r cysylltiad Albanaidd yn bwysig yn yr ardal. Mae tir mawr yr Alban i'w weld yn glir o'r arfordir, ac mae'r holl ardal yn llawer, llawer nes at yr Alban nag ydyw at Belfast - heb son am Ddulyn. Goroesodd yr iaith Wyddeleg yma yn hirach nag unrhyw le arall yng Ngogledd Iwerddon - yn 1985 y bu farw siaradwr brodorol olaf y math o Wyddeleg a siaradid ar Ynys Rathlin, ac roedd siaradwyr brodorol o'r iaith yn dal yn fyw ym 50au'r ganrif ddiwethaf yn Nyffrynoedd Gogledd Ddwyrain Antrim. Roedd dylanwad Gaeleg yr Alban yn gryf ar Wyddeleg y Gogledd Ddwyrain.
Ac mae dylanwad Albanaidd pellach yma - mae hurling yn mynd yn ol ganrifoedd yma, ond hyd yn ddiweddar roedd yn cael ei adnabod fel shinty -gem gyffelyb a chwaraeid yn yr Alban. Hyd adeiladu'r ffordd arfordirol yn yr 1830au roedd yn haws cyrraedd yr Alban ddeuddeg milltir dros y mor nag oedd hi mynd i lawer o weddill Iwerddon, ac roedd llawer o deithio rhwng y naill wlad a'r llall. Ar Ynys Rathlin roedd Robert the Bruce yn cuddio pan welodd y pryf copy yn dal ati er syrthio dro ar ol tro ac yn penderfynu y byddai yntau yn dal ati yn ei ryfel yn erbyn y Saeson.
Mae'n debyg bod mwyafrif llethol trigolion Gogledd Iwerddon efo gwaed Albanaidd, ac mae llawer iawn o Albanwyr efo gwaed Gwyddelig. Mae'r ddau ddiwylliant gwleidyddol yn wahanol iawn heddiw - ond roedd dylanwad y secteriaeth oedd ynglwn a gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yn gryf yng ngwleidyddiaeth Gorllewin yr Alban hyd yn ddiweddar iawn.
Ac efallai bod yna wers neu ddwy cyfoes i'w dysgu o lefydd fel cornel fach Gogledd Ddwyreiniol Iwerddon. Mae llawer o'r hyn sy'n ymddangos yn gadarn ac yn ddi gyfnewid i ni heddiw wedi dod o le mwy cyfnewidiol o lawer a dydi'r hunaniaethau gwleidyddol a chenedlaethol yr ydym yn eu harddel bellach ddim yn hunaniaethau y byddai ein cyn dadau wedi eu hadnabod na'u deall. Mae pob cenhedlaeth yn creu ei hunaniaeth a'i diwylliant gwleidyddol ei hun. Efallai bod y gwahaniaeth rhwng yr Alban a'r rhan yma o Ogledd Iwerddon yn gwbl amlwg heddiw - ond datblygiad cymharol ddiweddar ydi hynny.
Mewn un ffordd mae deall hynny'n beth negyddol - mae llawer o'r angen am barhad a chysondeb sy'n bwysig i'r ceidwadwr sydd yn rhywle ym mhob un ohonom yn angen am rhywbeth sy'n rhithiol. Ond mae'n beth cadarnhaol mewn gwirionedd - gallwn greu ein diwylliant gwleidyddol ein hunain o'r newydd. Mae sylwi hynny'n rhywbeth hynod o gadarnhaol - ond mae'n sylweddoliad sy'n dod a chyfrifoldebau yn ei sgil.
No comments:
Post a Comment