Wednesday, May 20, 2015

Beth petai refferendwm Ewrop ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad?

Mae hyn yn bosibl - wedi'r cwbl mae'r mater o Ewrop yn boen oesol i'r Blaid Doriaidd, ac mi fydd yn demtasiwn iddynt geisio lladd y mater cyn gynted a phosibl ym mywyd y senedd newydd.  Petai hynny'n digwydd byddai'n debygol o gael effaith sylweddol ar ganlyniad yr etholiad.

Gan bod y rhan fwyaf o Gymry yn cael eu newyddion i gyd o Loegr, byddai penderfyniad o'r fath yn gwneud yr etholiad yn un llawer mwy Prydeinig nag yn y gorffennol.  Byddai naratif y refferendwm yn boddi naratifau etholiad y Cynulliad.  I'r graddau hynny byddai penderfyniad o'r fath yn niweidiol i Blaid Cymru.  Ond nid Plaid Cymru yn unig fyddai'n dioddef.

Mae rhagolygon etholiad Cynulliad y flwyddyn nesaf yn ddrwg iawn i'r Lib Dems ac yn ddrwg i Lafur.  Tan berfformiodd Llafur yng Nghymru ar Fai 7, ac mae Llafur yn ei chael yn anodd i berfformio i'w potensial mewn etholiadau Cynulliad.  Bydd pethau'n anos fyth y flwyddyn nesaf - bydd y blaid wedi treulio cyfnod yn syllu ar ei bogel, bydd yn ol pob tebyg yn dechrau ar daith i'r Dde.  Ar ben hynny bydd moral yn isel - a dydi Llafur ddim yn chael yn hawdd i gael ei gweithwyr ar y strydoedd mewn etholiad Cynulliad ar yr amser gorau.  Roedd y gyfradd pleidleisio mewn ardaloedd Llafur yn is na gweddill Cymru yn yr etholiad cyffredinol - mae'n dra phosibl y bydd y patrwm yna'n gryfach y flwyddyn nesaf.  Ond byddaii'r gyfradd pleidleisio ymysg Llafurwyr yn uwch petai yna refferendwm ar yr un diwrnod - gyda chyfran nid ansylweddol ohonynt yn dod allan i bleidleisio yn erbyn aros yn yr Undeb Ewropiaidd.  Byddai hyn yn niweidio'r Toriaid yn ogystal na Phlaid Cymru - mae cefnogwyr y ddwy blaid yn well am ddod allan i bleidleisio na rhai Llafur mewn etholiadau ag eithrio etholiad San Steffan.

Ond byddai yna fwy o niwed na hynny i'r  Toriaid hefyd.  Y Blaid Doriaidd ydi'r unig un sydd wedi hollti mewn gwirionedd ynglyn ag Ewrop, a bydd yn edrych yn blaid ranedig tros gyfnod y refferendwm, tra bod pob plaid arall yn edrych yn gymharol unedig.  Dydi wynebu etholiad tra'n ymddangos yn rhanedig byth yn syniad da - mae pris etholiadol i'w dalu am hynny.  Dyna fyddai'n digwydd i'r Toriaid petai'r refferendwm a'r etholiad ar yr un diwrnod, a dyna pam y byddai'r blaid honno'n dioddef cymaint a'r un yng Nghymru petai'n dewis cynnal y ddau ar yr un diwrnod.




3 comments:

Unknown said...

Mae hyn wedi croesi fy meddwl innau Cai - refferendwm ac etholiad Ewrop yr un dydd.

Yn fy marn i bydd hyn yn niweidiol i'r Blaid gan fydd mwy fyth o bobl ukip am droi allan i bleidleisio NA ond hefyd o blaid ukip ei hun.

Rhaid i ni siarad ag un llais ynglyn ag Ewrop. Mewn sawl hystings siaradais i o blaid Ewrop gan danlinelli manteision sylweddol i Gymru o fod yn aelod. Cofiwch ymosodais i ar y biwrocratiaeth a'r wastraff arian sydd yn digwydd yn yr UE.

Mae'r Blaid Doriaid wedi ei rhannu - yn bendant. Ond, mae aelodau Plaid Cymru/Llafur ayyb sydd yn erbyn Ewrop hefyd. Rhai yn gryf yn erbyn!

Yr unig beth y gall Plaid wneud yn yr amgylchiadau hyn ydy siarad am bwysigrwydd Ewrop i Gymru.

Ioan said...

Mi roedd y'r etholiad Cynulliad dwetha yr un diwrnod a'r referendum AV. Dechra meddwl bod pob ethoiad ar amser gwael i PC..!

Anonymous said...

" bydd yn ol pob tebyg yn dechrau ar daith i'r Dde."

Mae'n amlwg eich bod chi fel nifer eraill ym Mhlaid Cymru yn meddwl fod hyn yn beth niweidiol i blaid i'w wneud. Pryd wneith y geiniog gwympo dywedwch?