Monday, May 25, 2015

Peter Robinson ac argyfwng Gogledd Iwerddon

TMae'n siwr gen i nad oes yna amser da i gael trawiad ar y galon, ond petai Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon wedi gallu dewis diwrnod anghyfleus i gael un, heddiw fyddai hwnnw.  Mae'n dra thebygol y bydd Sinn Fein yn atal Bil Budd Daliadau plaid Peter Robinson - y DUP - fory.  Os bydd hynny'n digwydd, bydd rhaid i Weinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, Arlene Foster gyflwyno cyllideb brys - un fydd yn torri cannoedd o filiynau o bunnoedd oddi ar wariant cyhoeddus.  Ni fydd y gyllideb honno'n mynd trwy Stormont, a gallai hynny'n hawdd arwain at gwymp y sefydliad - neu gyfyngu sylweddol ar ei bwerau.  Dydi'r ffaith bod Peter Robinson yn yr ysbyty ddim arm ei gwneud mymryn yn haws i osgoi argyfwng.


Ond mae'r sefyllfa yn dweud mwy am y cenedlaethwyr nag yw am yr unoliaethwyr mewn gwirionedd.  Hyd yn ddiweddar roedd partneriaid y DUP mewn llywodraeth, Sinn Fein wedi awgrymu y byddent yn derbyn y toriadau mewn budd daliadau (sydd yn cael eu gyrru gan San Steffan yn y pen draw) - ond maent wedi troi fel cwpan mewn dwr.  Roeddynt yn gwybod bod gwahanol ffyrdd y gallant fod wedi eu defnyddio i amddiffyn eu hetholwyr rhag effeithiadau gwaethaf y toriadau - ond mae'n ymddangos bellach bod yn well ganddynt adael i San Steffan, neu weision sifil Gogledd Iwerddon weithredu'r toriadau.  Mae hyn yn dweud llawer am ble mae'r Mudiad Gweriniaethol heddiw.

Am y rhan fwyaf o hanes y Mudiad Gweriniaethol mae wedi ei arwain o'r De.  Daeth hynny i ben yn y saith degau cynnar yn sgil methiant yr IRA i amddiffyn cymunedau cenedlaetholgar yn y Gogledd.  Tyfodd y Provos o'r hen IRA, ac roedd hwnnw yn fudiad Gogleddol iawn o ran naws a chefnogaeth.  Gogleddwyr oedd yn dominyddu 'r Mudiad erbyn diwedd y saith degau.  Arhosodd y sefyllfa yna trwy'r rhyfel hir - a thu hwnt.  Ond ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith mae Sinn Fein wedi tyfu'n sylweddol yn y Weriniaeth - ac yn sgil hynny mae awdurdod canolog y Mudiad wedi symud yn ol i'r De.  Etholiadau Dail y flwyddyn nesaf (neu eleni) ydi prif ffocws Sinn Fein bellach.  Y peth diwethaf mae'r blaid ei eisiau ydi mynd i mewn i etholiadau yn y Weriniaeth yn dadlau yn erbyn llymder cyllidol tra'n gweinyddu toriadau mewn budd daliadau a gwariant cyhoeddus yn gyffredinol yn y Gogledd.  Mae ganddyn nhw ddigon o wrthwynebwyr i'r chwith iddynt yn y Weriniaeth sy'n ysu eisiau iddynt dorri ar wasanaethau yn y Gogledd.

A dyna pam ei bod yn debygol y bydd y grwp bach o strategwyr etholiadol Sinn Fein yn Connolly House yn mynnu bod y blaid yn y Gogledd yn tynnu Stormont i'r llawr, neu o leiaf yn tynnu allan o lywodraeth cyn eu bod yn gwrinyddu mwy o doriadau mewn gwariant cyhoeddus - hyd yn oed os bydd hynny yn arwain at fwy o galedi i gefnogaeth greiddiol Sinn Fein yn y Gogledd.  

Etholiadau'r De ydi pob dim bellach.


4 comments:

Dylan said...

"Etholiadau'r Weriniaeth" ydi hwnna i fod yn y frawddeg olaf, ia?

Diolch am hyn. Dw i ddim yn gwybod hanner digon am y stwff yma.

Cai Larsen said...

Ia, sori wedi ei gywiro

Dylan said...

Beth ydi'r strategaeth felly? Ydi troi'r ynys gyfan yn un weriniaeth yn fwy tebygol trwy ganolbwyntio'n bennaf ar y DaĆ­l yn hytrach nag ar Stormont?

Cai Larsen said...

Mae yna fwy iddi na chael gwared o'r ffin - mae strwyrgurau pwer yn y Weriniaeth y tu ol i 'r croes linynnau hefyd. Ond mae pawb bron o fewn SF yn derbyn bod mynd i lywodraeth yn y De yn angenrheidiol cyn y gellir gwireddu unrhyw amcanion. Ond gem tymor hir ydi hi - mae'n bosibl y bydd yn well ganddynt orfodi'r ddwy brif blaid i fynd i glymblaid ego 'i gilydd yn gyntaf.