Tuesday, May 05, 2015

Beth petai'r Toriaid wedi ymgyrchu tros AV?

Dull o bleidleisio lle mae'r etholwyr yn mynegi dewis mewn trefn - 1, 2, 3 ac ati ydi AV.  Ar ol y rownd cyntaf mae'r ymgeisydd olaf yn cael  ei ddiystyru ac mae ei ail bleidleisiau yn cael eu dosbarthu rhwng yr ymgeiswyr sydd ar ol - cyn i'r broses fynd rhagddi eto - nes bod yr ymgeisydd sydd ar y brig yn cyrraedd 50%.  Cafwyd refferendwm ar y pwnc yn gynnar yn ystod bywyd y senedd diwethaf, ac fe'i gwrthodwyd.  Y Toriaid a'r Toriaid yn unig oedd yn daer yn erbyn.

 Petai AV wedi ei basio mi fyddai'r rhagolygon ar gyfer yr etholiad yma yn wahanol iawn i'r hyn ydynt ar hyn o bryd.  Mewn seddi lle mai'r Toriaid ac UKIP fyddai'n gyntaf ac ail, byddai pleidleisiau Llafur a'r Lib Dems yn mynd yn bennaf i'r Toriaid - a sicrhau eu bod yn cael eu hethol.  Lle byddai'r Toriaid a Llafur yn y ddau le cyntaf, byddai'r rhan fwyaf o bleidleisiau UKIP yn mynd i'r Toriaid - a byddai cyfran dda ohonynt yn cael eu hethol.  

Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt y Toriaid fyddai wedi elwa o AV.  Cofiwch hynny pan fydd yna udo a wylofain o gyfeiriad y wasg Doriaidd a'r Blaid Doriaidd pan fyddant yn cael eu hunain efo mwy o bleidleisiau na Llafur ond allan o Stryd Downing ar ol dydd Iau.

2 comments:

BoiCymraeg said...

Mi wyt ti wedi camddeall AV - o dan y system hwnnw mae pleidleiswyr yn rhoi unrhyw nifer o'r dewisiadau mewn trefn, ac wedyn mae'r pleidleisiau'n cael eu hail-dosbarthu fesul un plaid, o'r lleiaf poblogaidd ymlaen, tan bod un wedi dod yn 1af; felly mae modd rhoi nid yn unig 2il dewis ond 3ydd, 4ydd a.y.y.b., a bydd y rhain yn cael eu hystyried (o bosib).

Ond mae'r hyn wyt ti'n ei ddweud yn gyffredinol yn gywir, h.y. y byddai'r Toriaid mae'n debyg yn elwa o dan AV o dan y sefyllfa sydd ohoni (fodd bynnag, rhaid cofio na fyddai hyn wedi bod yn wir yn ol yn 2010, pan roedd y Dems rhydd yn llawer mwy poblogaidd a UKIP llawer llai).

Cai Larsen said...

Diolch. Dwi wedi cyworo'r disgrifiad o'r dull.