Sunday, May 17, 2015

Poster y Diwrnod

Nid yn aml y bydd Blogmenai yn defnyddio poster UKIP fel poster y diwrnod, ond mi wnawn ni eithriad heddiw - a balchder lleol ydi'r rheswm am hynny.   Map ydyw sy'n dangos pa blaid wnaeth y mwyaf o gynnydd ym mhob etholaeth yn y DU.  Mae melyn yr SNP yn amlwg yn dominyddu i'r gogledd i Fur Hadrian, tra bod porffor UKIP yn dominyddu ym mhob man arall.  Mae yna eithriadau prin fodd bynnag - un ohonynt yn etholaeth fach yng Ngogledd Orllewin Cymru.


1 comment:

Anonymous said...

Yn groes i'r darogan cyn yr etholiad. Da iawn Hywel Williams a Phlaid Cymru Arfon