Sunday, May 03, 2015

Pam bod y Blaid Lafur fel ag y mae hi?

Mae tynnu sylw at anonestrwydd sylfaenol yn naratifau gwleidyddol gwleidyddion Llafur yn rhywbeth sydd wedi datblygu i fod yn un o themau mwyaf cyffredin y blog yma.  Son ydw i am ymdrechion mynych gwleidyddion Llafur i gamarwain - neu a bod yn blaen - ddweud celwydd wrth yr etholwyr.  Mae'r blog yma wedi edrych ar ddwsinau o achlysuron yn y gorffennol ar gelwydd bwriadol gan wleidyddion Llafur - ac yn ddi amau byddwn yn edrych ar gelwydd tebyg yn y dyfodol hefyd.  

Rwan mae'n ddiddorol nad ydi gwleidyddion Llafur yn teimlo unrhyw chwithdod ynglyn a dweud celwydd cwbl fwriadol.  Dydyn nhw ddim yn teimlo unrhyw chwithdod chwaith ynglyn a gwrthod cyfaddef nad ydi'r wybodaeth maent yn ei gwyntyllu yn gywir, nag ynglyn a gwneud pob dim o fewn eu gallu i ateb cwestiynau'r etholwyr ynglyn a'u hamrywiol honiadau.  

Rwan dwi'n gwybod bod pob plaid yn troelli - ond yn fy mhrofiad i does yna'r un mor barod i ddweud celwydd noeth na'r Blaid Lafur.  Rhywbeth sy'n mynd law yn llaw a hyn ydi obsesiwn Llafur efo moesoli.  Mae'r cysyniad bod y Blaid Lafur yn blaid sylfaenol foesol tra bod y pleidiau eraill yn sylfaenol anfoesol yn rhywbeth sydd wedi gwreiddio ym meddylfryd y Blaid Lafur.  Dyna pam maent byth a hefyd yn gweld agendas cudd i achosi pob math o ddrygioni gan bleidiau eraill.  Dyna pam eu bod yn credu bod y Toriaid yn bobl anhygoel o ddrwg, a bod pob plaid arall yn Doriaid cudd.

Mae'r moesoli  yn gallu bod yn ddigri ar adegau - gan arwain at ddiffyg self awareness rhyfeddol.  Roedd yr antics ddoe yn Arfon yn esiampl o hynny - tim etholiadol sydd wedi derbyn pres gwaed Blair yn gwneud mor a mynydd o bleidlais ar lwynogod fwy na degawd yn ol.  Mae'r ddegawd yna wedi gweld tywallt gwaed - dynol - ar raddfa Beiblaidd yn y Dwyrain Canol o ganlyniad uniongyrchol i bolisiau eu plaid eu hunain.  

Y tueddiad yn niwylliant Llafur i foesoli sy'n arwain at y celwydd yn y pen draw.  Pan mae pobl yn meddwl eu bod yn fwy moesol na phawb eraill, yr hyn maent yn ei olygu mewn gwirionedd ydi bod eu hamcanion yn fwy moesol na rhai pawb arall.  Canlyniad hynny yn ei dro ydi bod yr amcan yn cyfiawnhau'r dulliau o gyrraedd tuag ati.  Os ydym yn ystyried ein hamcanion yn foesol uwchraddol, dydi dweud celwydd i ymgyraedd tuag atynt ddim yn edrych mor ddrwg.  

Mae'n debyg bod y gwleidyddion Llafur hynny sy'n uwd o gelwydd yn eu bywydau proffesiynol yn bobl mor onest neu anonest ag unrhyw un arall yn eu bywydau personol.  Diwylliant Llafur a'i thueddiad i foesoli sy'n creu gwleidyddion celwyddog. 

                 




9 comments:

Anonymous said...

Yn ystod y dyddiau diwethaf, bu gryn dipyn o gyfuno niferoedd pleidiau, ac ym mhob un o'r rhain, cyplysir yr SDLP
gyda'r Blaid Lafur. Yr wyf wastad wedi meddwl am yr SDLP fel blaid sydd yn genedlaetholgar, ond dyweder fod yna drafodaethau clymbleidio yn San Steffan, a yw'r SDLP yn ystyried eu hunain fel rhan o floc 'cenedlaetholgar' neu fel bloc 'Llafur' ? . Faint o gydweithio a thir cyffredin a fu rhwng y blaid/SNP a SDLP dros y blynyddoedd ? .

Anonymous said...

Yn hollol, ond nid yw Plaid Cymru eu hunain yn nerthu myth y Blaid Llafur moesol drwy ein ymagweddau at y Tories ac yn y blaen?

Does gen I ddim cydymdeimlad gyda UKIP er enghraifft ond nid hwy sydd a waed filoedd ar eu dwylo.

Tanseilio myth y Llafur moesol yn waith hollol anghenrheidiol er mwyn dyfodol Cymru.

Anonymous said...

Dydy'r stynt llwynogod ddim mor ddwl a mae pawb yn honni.
Roedd hi'n stynt 'weledol', lliwgar.
Rydym yn gwybod fod myfyrwyr yn arbennig yn gwrthwynebu lladd llwynogod a moch daear, a phobl y dref hefyd.
Y bwriad yw sicrhau fod y stori weledol hon ar dudalen flaen y Mail a'r Herald ddiwrnod cyn yr etholiad (dydd Mercher mae nhw'n cael eu cyhoeddi, ie?).
Gallai ymgyrchwyr heddwch fod wedi gwneud stynt lliwgar tebyg gyda pres Blair.
Defnyddio'r wasg iw dibenion eu hun yw'r bwriad.

Anonymous said...

Dydy'r stynt llwynogod ddim mor ddwl a mae pawb yn honni.
Roedd hi'n stynt 'weledol', lliwgar.
Rydym yn gwybod fod myfyrwyr yn arbennig yn gwrthwynebu lladd llwynogod a moch daear, a phobl y dref hefyd.
Y bwriad yw sicrhau fod y stori weledol hon ar dudalen flaen y Mail a'r Herald ddiwrnod cyn yr etholiad (dydd Mercher mae nhw'n cael eu cyhoeddi, ie?).
Gallai ymgyrchwyr heddwch fod wedi gwneud stynt lliwgar tebyg gyda pres Blair.
Defnyddio'r wasg iw dibenion eu hun yw'r bwriad.

Anonymous said...

Cytuno i raddau ego 11:24 - dylai'r Blaid gael rhywun mewn siwt a mwgwd Tony Blair yn dilyn Alun Pugh o gwmpas efo llond dwrn o arian papur gwaedlyd.

Cai Larsen said...

Cerdded o gwmpas efo mwgwd Blair yn chwifio amdo o gwmpas y lle?

Ella ddim - ddim eisiau edrych fel idiot.

Anonymous said...

Os ydi'r busnes llwynogod mor bwysig i ymgeisydd llafur - pam tydwi ddim yn cofio y pwnc yn codi yn etholiad 2010. Ella cof gwael sydd gennyf ond dwi'n cael yr argraff nad oedd cefnogwyr llafur hyd yn oed yn poeni am hyn ryw fis neu ddau yn ol

Anonymous said...

Braf gweld dipyn o hiwmor wir !! A hynny tra yn amlygu diffyg erchyll unrhyw bolisi Plaid i warchod anifeiliaid. Yr elfen mwyaf negyddol o yngyrchu Plaid oedd gwraig Hywel W yn galw gwraig Alun Pugh yn "carpetbagger" - heb sylweddoli mai wedi cadw'i henw genedigol mae Mary ar ol priodi ( 'run fath a Myfanwy ei hun yn Davies, nid Mrs Williams) a dyna sut oedd methu cael hyd iddi "on MY electoral list" wwwwps serious colli gafael yn fanna Dr Davies...

Anonymous said...

Anonymous 11.24am wedi ei dallt hi !! Digon o sylw i ddiffyg polisi plaid cymru ar y mater. Clefar iawn iawn....