Y pwynt cyntaf a'r pwysicaf i'w wneud ydi hwn - mae'r Blaid yn ymladd pob etholiad gydag un fraich y tu ol i'w chefn, ac mae Llafur yn ymladd pob etholiad yng Nghymru efo'r gwynt yn ei hwyliau.
Mae'r rheswm am hyn yn syml. Materion economaidd sy'n gyrru etholiadau ym Mhrydain. Mae Cymru yn tan berfformio yn economaidd yn barhaus - bron yn gyfan gwbl ddi eithriad - a'r rheswm am hyn ydi nad oes ganddom ddigon o reolaeth tros ein heconomi ein hunain i fynd i'r afael a'n hanfanteision strwythurol a daearyddol. Does yna ddim rheswm yn y Byd i fusnesau sylweddol leoli yng Nghymru yn hytrach nag yn Ne Ddwyrain Lloegr, oni bai bod yna gyfundrefn drethiannol mwy cystadleuol gennym. Yn absenoldeb hynny, ac oherwydd y tan berfformiad economaidd sy'n dilyn, mae Cymru yn ddibynnol iawn ar wariant cyhoeddus, ac mae'r blaid sydd yn gallu addo mwy o wariant cyhoeddus, a gwneud hynny'n gredadwy, efo mantais etholiadol sylweddol. Dyma graidd goruwchafiaeth Llafur yng Nghymru, y gallu i addo gwariant cyhoeddus, ynghyd a diffyg dadansoddiad cenedlaetholgar credadwy a dealladwy o sut y byddai mwy o ymreolaeth yn cryfhau economi'r wlad.
'Dydi hi ddim yn cael ei ystyried yn gwrtais i drafod effeithiadau economaidd, ac yn wir dynol, y setliad cyfansoddiadol presenol ar Gymru, er mai dyma ddylai fod yn brif fater gwleidyddol y wlad mewn gwirionedd.
Rwan 'dydi pawb ddim yn pleidleisio am resymau sy'n ymwneud a'r economi, a 'dydi'r patrwm ddim yr un peth ym mhob math o etholiad. Mae ffactorau economaidd yn llawer pwysicach mewn etholiadau San Steffan nag ydynt mewn etholiadau cyngor er enghraifft. Mae ffactorau economaidd yn bwysicach mewn etholiadau Cynulliad nag ydynt mewn rhai cyngor, ond maent yn llai pwysig nag ydynt mewn rhai San Steffan. Mae hyn yn un rheswm pam bod y Blaid yn perfformio yn gryfach ar lefel Cynulliad (a chyngor). Mae yna resymau eraill hefyd wrth gwrs - mae'r cwestiwn sylfaenol yn wahanol (pwy ddylai reoli Cymru? yn hytrach na phwy ddylai reoli Prydain?), 'dydi'r cyfryngau ddim yn chwarae rhan mor bwysig yn yr etholiad, a does yna ddim cymaint o anghytbwysedd rhwng y pleidiau unoliaethol a'r un genedlaetholgar er enghraifft.
Y broblem sylfaenol i'r Blaid yn yr etholiad sydd o'n blaenau ydi bod ffactorau economaidd am fod yn bwysicach nag yw yn arferol mewn etholiadau Cynulliad - mae hyn oherwydd bod y cyd destun gwleidyddol ehangach yn cael ei ddominyddu yn gyfangwbl gan ddadl sy'n ymwneud a gwariant cyhoeddus ar hyn o bryd. Tir Llafur ydi hwn. Mi fyddai pethau wedi bod yn llawer, llawer haws petai Llafur mewn grym yn San Steffan - ond 'dydyn nhw ddim.
Problem arall ydi'r ffaith mai'r newid mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru ydi chwalfa'r bleidlais Lib Dem. 'Dydi hon ddim yn bleidlais sy'n debygol o droi'n hawdd at y Blaid. Y Lib Dems ydi'r blaid fwyaf Seisnig yng Nghymru, ac mae'n apelio at rhai o'r elfennau mwyaf Seisnig mewn cymdeithas Gymreig. Nid ydi Plaid Cymru yn borthladd naturiol i'r bobl yma.
Rwan, 'dwi ddim eisiau swnio'n rhy besimistaidd. Mae yna ffactorau mwy cadarnhaol i'r Blaid hefyd:
- Fel y Toriaid, mae'n pleidlais (os ydi'r polau piniwn i'w credu) yn soled iawn - mae'n debyg i'r hyn oedd yn 2007.
- Mae yna hafn gwleidyddol wedi agor yng Nghymru tros y misoedd diwethaf, ac mae'n ymwneud a'r cwestiwn gwariant cyhoeddus. Mae'r Blaid ar ochr 'gywir' yr hafn - o safbwynt y math o bobl mae'n ceisio apelio arnynt.
- Mae'n haws gwrthsefyll llif mewn etholaethau unigol mewn etholiad Cynulliad nag ydi hi mewn etholiad San Steffan. Er enghraifft roedd llif cryf yn erbyn y Blaid yn genedlaethol yn 2003 yn dilyn ymgyrch gasineb Trinity Mirror. Ond llwyddwyd i wrthsefyll hynny mewn ambell i le - yn nodedig yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Y rheswm am hyn ydi nad ydi'r naratif cyfryngol yn boddi pob dim arall mewn etholiadau Cynulliad.
- Mae'r Glymblaid wedi bod yn ddigon llwyddiannus, ac mae gan y Blaid bethau y gallant gyfeirio atynt sydd wedi eu sicrhau oherwydd ei dylanwad hi. Mae nifer o'r materion hyn yn rhai sy'n bwysig i bleidleiswyr anturiol y Blaid (materion yn ymwneud a'r iaith, refferendwm ac ati), a bydd hynny yn ei dro yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y bleidlais greiddiol honno yn pleidleisio.
- Mae gan y Blaid ymgeiswyr cryf - cryfach na rhai'r pleidiau unoliaethol, ac yn arbennig felly yn rhai o'r etholaethau allweddol. Mae cyfle i'r lleol a'r personol wneud argraff mewn etholiadau Cynulliad.
- Gall canlyniad cadarnhaol i'r refferendwm pwerau deddfu i'r Cynulliad roi hwb i ymgyrch y Blaid, fel y gwnaeth y refferendwm Cynulliad cyntaf.
Felly, er bod y tirwedd gwleidyddol ehangach yn anffarfiol i'r Blaid, mae yna ffactorau yn gweithio'r ffordd arall hefyd. 'Does yna ddim rheswm pam na ddylai'r Blaid gynnal ei sefyllfa bresennol, os nad symud ymlaen ychydig. Byddai gwneud hynny ynghyd a chadw Llafur yn is na 30 sedd yn sicrhau rol lywodraethol unwaith eto. Mae'r pedair blynedd diwethaf wedi bod yn rhai lle mae'r Blaid wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i sut wlad ydi Cymru, ac mae'r blynyddoedd hynny wedi cynyddu ei hygrydedd hefyd.
Byddai pedair blynedd arall mewn llywodraeth yn atgyfnerthu'r newidiadau cadarnahol i'r wlad ac i ddelwedd cyffredinol y Blaid. Gobeithio y byddant hefyd yn flynyddoedd fydd yn gweld yr achos economaidd tros fwy o ymreolaeth i Gymru yn cael ei ddatblygu a'i leisio.
12 comments:
Yn fy marn i dylai'r blaid rhoi ei egni tu ol i wneud dy bwynt cyntaf - bydda cymru a grym i wneud penderfyniadau yn well lle i fyw yn economaidd ag ym mhob agwedd arall hefyd.
Problem plaid ydi fo hi er mwyn rhedeg ar ol canlyniadau gwell, wedi mynd i'r chwith i drio gwrth droi llafur.
Rwan, mae na synwyr yn hyn o beth, ond, efallai fod yr amswer wedi dod i wneud pethau yn wahanol.
Toes na neb yn hoffi toriadau, ond yn anffodus, mae eu hangen nhw (hyd yn oed os bydde ni ddim mewn dyled!). Mae llywodraeth leol ar holl "bryfaid" sydd yn sugno arian allan ohoni yn hollol aneffeithiol.
Wedi dweud hynnu, byddai cefnogi toriadau yn gam gwag yn etholiadol.
Tydi effeithlonrwydd ddim yn boblogaidd, er fod pawb yn gweiddi amdano - ddim yn fy ardd gefn i ydi agwedd naturiol pawb hyd yn oed os yr ydym yn fodlon dweud hynnu neu ddim.
Dyle plaid felly selio ei maniffesto ar gyfer y gwanwyn ar wenud gwahaniaeth yn economaidd, ddim rhygni mlaen am y toriadau a pha mor anodd y byddent.
Efallai bydde hyn yn gam gwag yn ol y seddi y ennillir, ond i ba pwrpas ennill seddi os am fod yn blaid sydd yn llyfu tin llafur.
Yn fy marn i, dylwn ni ystyried unrhyw ganlyniad yn lwyddiant lle
1) chaiff y blaid Lafur llai na 30 sedd,
2) na chollir unrhyw sedd etholaeth uniongyrchol (Llanelli & Aberconwy mwy na thebyg).
Mae'r ddau canlyniad mwy neu lai yn dibynnu ar ei gilydd - anodd yw gweld Llafur yn cael 30 sedd heb ennill o leiaf un o Lanelli neu Aberconwy (enillwyd y ddau ganddynt yn 2003).
Dwi'n disgwyl gweld y Blaid yn colli sedd restr neu ddau, hyd yn oed os arhosif canran eu pleidlais mwy neu lai'r un fath ag yn 2007.
Mae hi'n bosibl i Lafur gyrraedd 30 sedd heb gymryd sedd gan y Blaid.
Mae Gorllewin Clwyd, Gogledd a Chanol Caerdydd a'r ddwy sedd Sir Benfro yn enilladwy iddynt - er byddai ennill yn Sir Benfro (neu Llanelli o ran hynny) yn debygol o gostio sedd ranbarthol iddynt.
Ond, fel ti'n dweud, byddai'n anodd.
Mae Blaenau Gwent hefyd yn ennilladwy iawn wrth gwrs.
Mae'n rhaid iddyn nhw amddiffyn rhai mwyafrifoedd digon bregus hefyd - Bro Morgannwg, Dyffryn Clwyd, Delyn, Dwyrain Casnewydd
Digon gwir - mae Blaenau gwent yn siwr o fynd yn ol adref i Lafur.
Yda chi yn rhagweld fydd yna gwymp ym mhleidlais Plaid ar Ynys Mon i Llafur?
Dwi wedi pleidlesio i Plaid erioed, ond yn digalonog iawn hefo IWJ, a tydy o ddim yn cynrychioli ni o gwbwl lawr yn y bae. Ac dwi wir yn bwriadu pledleisio dros ymgeisydd Llafur, pwy bynag ydio neu hi. Dim ond i roi neges ffarwel IWJ!!!
Ond, na be ydych yn ei feddwl o ganlyniad manau fel Ynys Mon, lle mae o rhwng Plaid a Llafur. Fydd na swing go fawr i Llafur?
Hefyd ydy sedd Dai Lloyd yn weddol saff? un o ACau gorau y Blaid ar ol Chris Franks a Elin Jones yn fy marn i. A gobeithio geith o ddod yn ol!
fu hun sw ni fodlon aberthu mon i gael gwared ar IWJ - iwsels!
Fydd yr etholiad ar Fôn yn ddiddorol iawn - dydi IWJ ddim yn boblogaidd iawn yn lleol ar y funud. Gan ddweud hynny fyddai angen gogwydd o dros 10% ar Lafur i ennill y sedd gan y Blaid (6,000 o wahaniaeth rhyngddynt y tro diwethaf) - methu gweld hynny fy hun
Anon 12.35
Mi fyddwn yn disgwyl i Lafur ddod yn ail ym Mon. Mi fyddan nhw yn fwy perygl pe byddent wedi dewis ymgeisydd fyddai'n apelio y tu allan i Gaergybi.
'Dwi'n deall yn iawn o lle'r ydych yn dod parthed IWJ. Mae yna draddodiad o lygredd a phlwyfoldeb ymysg lleiafrif bach o drigolion Mon, a byddai'n naturiol i bobl felly weld swydd gweinidog llywodraethol fel cyfle i ddod a budd llwgr i Fon - gwleidyddiaeth y gombin. Rydym wedi trafod hyn sawl gwaith eisoes.
'Dwi'n siwr y bydd yna leiafrif o bobl llwgr fel chi ar Ynys Mon yn pleidleisio tros pwy bynnag sydd fwyaf tebygol o ddod yn ol tros Bont efo casgen borc ar ei ysgwyddau, yn hytrach na rhywun sydd eisiau gwasanaethu ei wlad.
'
ON - mi fydd hi'n agos am y bedwerydd sedd yng Ngorllewin De Cymru
Wow- o ni ddim yn meddwl fyswni wedi cael ymateb mor gryf ar y pwynt am IWJ.
Nid rhywun i gwasanaethu'r wlad mae Ynys Mon eisiau, ond rhywun i gwasanaethu'r sir. Rhywbeth yn amlwg tydy IWJ ddim yn gwneud.
Yn amlwg mae bod yn weinidog yn waith prysur, ond mae Elin Jones yn ateb llythyrau o fewn wythnosau, mae IWJ yn, wel byth.
Ac os rhaid son am fod yn 'llwgr' - yn amlwg mae IWJ yn ei hoffi oherwydd ar ol fod yn weinidog am 4mlynedd, AC am 10mlynedd a AS/AC am 20mlynedd- tydio ddim wedi gwneud dim i wella'r cyngor. I wella sefyllfa horrendous yn wael.
@2.38 iwslys?
cytuno'n llwyr, fel gweinidog a fel AC
Wonderful post. For being a brand new blogger I will be getting to know a lot with these types of content maintain the good job.
Post a Comment