Hwyrach y byddwch yn cofio i ni drafod ymateb bisar a gwrth Gymreig rhai o gynghorwyr Llafur yn Wrecsam i gais y Cyngor am grant i godi ysgol Gymraeg yng Ngwersyllt mewn ymateb i alw sylweddol yn yr ardal am addysg Gymraeg.
Bryd hynny roedd yn ymddangos mai ofer y byddai eu holl sterics - ond a barnu o'r nodiadau hyn gan Plaid Wrecsam hwyrach mai nhw fydd yn chwerthin yn y pen draw. Ymddengys bod rhan 3 cynllun SPIG (y gyfundrefn sy'n ariannu ysgolion newydd) wedi ei ohirio heb reswm amlwg am wneud hynny.
Rwan, mi'r ydym ni eisoes wedi gweld yn achos ysgol Treganna beth all lobio mewnol gan wleidyddion Llafur gwrth Gymreig ei wneud i gynlluniau awdurdodau lleol i ehangu addysg Gymraeg. Mae rhai o gynghorwyr Llafur Wrecsam yn erbyn ysgol Gymraeg yng Ngwersyllt, ac mae'r Aelod Cynulliad Llafur lleol yn erbyn ysgol Gymraeg yng Ngwersyllt. Mae hi yn digwydd bod yn ddirprwy weinidog yn adran Leighton Andrews.
Mi fydd hi'n ddiddorol iawn gweld beth ddaw o gynllun Gwersyllt pan ac os caiff yr arian ei ryddhau.
2 comments:
Ar ba sail mae Lesley Griffiths yn gwrthwynebu'r ysgol newydd?
Mae hi yn erbyn y lleoliad (dyna ydy esgus y gwrthwynebwyr) Does neb wrth gwrs yn agored yn erbyn yr ysgol am mai Ysgol Gymraeg ydy hi ond dyna be sydd tu cefn i'r gwrthwynebiad yn y bon.
Post a Comment