Friday, December 03, 2010

Sylwadau blogmenai ar sgandal erchyll peidio rhoi Cwpan y Byd i Loegr


Mae'n rhaid i flogmenai gydymdeimlo efo Lloegr yn sgil y ffaith i'w cais (a gostiodd £15m) i gael croesawu Cwpan y Byd yn 2018 gael ei wrthod mewn modd mor greulon. Er mawr syndod i bawb yn y Byd ymddengys i'r holl sioe gael ei rhoi yn nwylo tramorwyr. Mae fy nghydymdeimlad a'r cyfryngau Seisnig yn arbennig o ddwys o ddeall eu bod wedi derbyn y sefyllfa gyda'r fath aeddfedrwydd, cymedroldeb a synnwyr cyffredin. Mewn difri calon, pwy gredai y gallai corff rhyngwlad wrthod apel gan driawd mor garismataidd ac eang eu hapel a David Cameron, hogyn Tywysog Cymru a gwr Posh Spice?



Mae'r blog yma pob amser yn ymdrechu i edrych ar bethau yn ddadansoddol a chynnig atebion i broblemau - a 'dydi'r achlysur trist yma ddim yn eithriad. Y broblem waelodol, mae'n ymddangos i mi, ydi bod cyfansoddiad cyngor rheoli FIFA yn anghytbwys, yn anheg ac yn afresymegol. Wedi'r cwbl dim ond un Sais sy'n eistedd ar y corff, tra bod gweddill yr aelodau yn dramorwyr. Mae'n dilyn felly, mor sicr a bod llanw yn dilyn trai, mai tramorwyr sydd am gael cynnal Cwpan y Byd pob tro.

Yr ateb amlwg a theg ydi creu corff cytbwys i redeg FIFA, gyda hanner yr aelodau yn Saeson a'r hanner arall yn dramorwyr. Gallai'r gadeiryddiaeth (ac felly'r bleidlais fwrw) gael ei chyfnewid o flwyddyn i flwyddyn rhwng Sais a thramorwr. Canlyniad hyn fyddai sicrhau bod Lloegr yn cael cynnal Cwpan y Byd hanner yr amser, a bod y tramorwyr yn ei gynnal hanner yr amser.

Rwan beth allai fod yn fwy teg a rhesymol na hynny?

7 comments:

Anonymous said...

Dwi ddim mor glyfar a BlogMenai, ond dyma fy nadansoddiad syml i am beth mae o werth:

Ha Ha Ha Ha Ha Ha Ha Ha Ha. Ha Ha Ha

Cai Larsen said...

Cystal dadansoddiad a'r un am wn i.

Anonymous said...

Ini masalah saya benar-benar dipecahkan, terima kasih!

Anonymous said...

Rhyfedd o fyd ro'n i yn meddwl mai'r Cymru a'r Albanwyr oedd yn od yn gwrthod cefnogi y Saeson. Efallai nad lleiafrif ydym wedi'r cyfan

Anonymous said...

Clasur. Sydd ddim angen poeni gormod, o leiaf rwan mi geith y saeson rhoi ei egni i gyd tu ol i guro y gwpan....wrth gwrs rhywbeth arall mae nhw yn "quietly confident" amdanddo!

Dwi licio y lein:

Hahahahahahahahahahahahahaha fy hun, heblaw sw ni adio un peth arall, "ffwcia o sir fon wills!"

Anonymous said...

Roeddwn i'n chwerthin am 7.03PM ddoe a dwi'n dal i rowlio rwan. Edrych ymlaen i weld papurau Sul Llundain fory.

Hiiiiiiileriws!!

Bwlch said...

Anhygoel darllen heddiw fod Boris Johnson wedi dweud na i nosweithiau am ddim i pobol FIFA yn ystod y gemau olympaidd.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-london-11921692

Os ydi hynny ddim yn fersiwn newydd o arian mewn cwdyn brown wn i ddim be ydi o!!!!