Saturday, December 04, 2010

Ail ymweld a'r snob ideolegol

'Dydw i ddim yn meddwl i flogmenai erioed ail gyhoeddi blogiad o'r blaen - ond 'dwi am ail gyhoeddi un sydd bellach yn ddyflwydd oed isod gyda rhai addasiadau sy'n cywiro ambell i wall iaith a thynnu'r sylwadau allan o gyd destun sydd wedi dyddio bellach.

Sylwadau gan biwritaniaid cenedlaetholgar ar dudalen sylw'r blogiad diwethaf ac mewn ambell i le arall sy'n gwneud y blogiad yn berthnasol. Gellir darllen y gwreiddiol yma.

Efallai bod snob ideolegol yn derm ychydig yn gas - chwilio am derm am ideological purist oeddwn i, ond mae'n mynegi'r hyn 'dwi'n ceisio ei ddweud cymaint yn well. Y peth cyntaf i'w ddeall am y snob ideolegol ydi nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn, na dealltwriaeth o wleidyddiaeth etholiadol. Ei brif ddiddordeb ydi harthio nad ydi pobl eraill cyn bured a fo ei hun. Felly mae'r snob ideolegol sydd hefyd yn genedlaetholwr Cymreig yn meddwl ei fod yn well cenedlaetholwr na neb arall, ac mai ei le fo yn nhrefn pethau ydi tynnu sylw at pob dim mae ei gyd genedlaetholwyr yn eu gwneud nad ydynt yn eu hanfod yn genedlaetholgar.

'Dwi wedi canfasio tros rhyw Bleidiwr neu'i gilydd ers etholiad cyffredinol ym mhob etholiad ers 1983. Yn ystod yr amser yna gallaf ddweud gyda pheth hyder fy mod wedi sefyll wrth ddrws miloedd ar filoedd o bobl yn trafod gwleidyddiaeth efo nhw. Mae pobl yn barod iawn i drafod yr hyn sydd yn eu poeni.

Y themau mwyaf cyffredin ydi materion yn ymwneud a thai a chynllunio, swyddi, cymdogion sy'n defnyddio cyffuriau ac yn ymddwyn yn wrth gymdeithasol, treth y cyngor, datblygiadau lleol ('dwi wedi clywed am y datblygiad ar Ddoc Fictoria mor aml nes fy mod eisiau sgrechian pob tro 'dwi'n meddwl am y lle). Roedd y rhyfel yn Irac yn codi ar aml i stepan drws yn ystod y ddwy etholiad diwethaf - roedd pawb, yn ddi eithriad yn erbyn.

Mae pobl yn codi pob math o bethau eraill hefyd - llawer ohonynt yn bisar - ar un achlysur cefais gyfaill oedd wedi gwisgo fel dynas yn dweud mai hawliau hoyw oedd y peth mawr iddo fo, a chymydog agos oedd gyda baner fawr yr hen Dde Affrica (hy baner y De Affrica aparteid) yn bytheirio bod gormod o bobl sydd a gwyrdroedigaethau rhywiol yn poblogi San Steffan. 'Dwi wedi clywed llawer un yn dweud nad ydynt am bleidleisio oherwydd eu bod eisoes wedi pleidleisio tros Grist. Mae yna foi yn Twtill sy'n poeni bod Caernarfon yn cael ei boddi gan bobl dduon, ac mae yna foi yn yr un rhan o'r dref sy'n poeni bod gwreiddiau coeden sy'n tyfu o flaen ei dy yn mynd i chwalu'r seiliau a ddymchwel ei gartref i'r llawr. Mae'n fodlon pleidleisio i'r sawl sy'n fodlon torri'r goeden. 'Dwi hefyd wedi clywed aml i fan swyddog cyngor yn gwrthod dweud i bwy maent am bleidleisio oherwydd bod eu swydd mor ofnadwy, ofnadwy o bwysig nes ei bod yn hanfodol bwysig i ddyfodol y bydysawd eu bod yn ymddangos yn ddi duedd pob amser.

'Dwi erioed - ddim unwaith wedi clywed neb yn codi mater cyfansoddiadol o unrhyw fath - dim byd ynglyn a datganoli, dim ynglyn a'r frenhiniaeth, dim ynglyn a Thai'r Arglwyddi a dim ynglyn ag annibyniaeth i Gymru, dim gair, dim sill, dim byd - zilch.

Mi fedra i gyfri ar un llaw yr adegau mae pobl wedi codi statws y Gymraeg. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd ar stad dai cyngor 'Sgubor Goch ar gyrion Caernarfon rhyw dair blynedd yn ol. Daeth dyn mewn tracwisg a chap pel fas i'r drws a chymryd fy mhapur o fy llaw ac edrych trosto'n frysiog cyn dweud - Da iawn chdi cont felna mae'r peth i fod yn Gnarfon Cymraeg gynta a Susnag wedyn nath y boi Tori roid papur i fi yn dre ddoe efo'r Susnag gynta rel ffycin Cardiff mi nes i stwffio fo i lawr i gorn gwddw fo dwi'm yn fotio i neb cofia gas gin i politics. 'Dwi ddim yn gwamalu.

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu nad ydi'r materion sy'n ymwneud a iaith, cenedligrwydd, ymreolaeth ac ati - y materion sy'n bwysig i aelodau cyffredin y Blaid ddim yn bwysig i'r cyhoedd yn gyffredinol. 'Dwi'n siwr eu bod yn bwysig i lawer o bobl - ond dydyn nhw ddim yn flaenoriaethau uchel iawn i bobl pan maent yn meddwl am sut i bleidleisio. Mae pobl sy'n ymddiddori mewn materion ieithyddol a chyfansoddiadol yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - ond 'dydi naratif syml a di gyfaddawd ddim yn ennill digon o bleidleisiau i ennill unrhyw etholiadau o unrhyw fath. Dyma gamgymeriad mawr y Blaid am tua hanner ei hanes - yr hanner cyntaf pan nad oedd yn ennill unrhyw etholiadau a phan nad oedd ganddi nemor ddim dylanwad ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gwleidyddiaeth etholiadol yn estron i dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol - tirwedd mewnol ydi hwn yn y bon - tirwedd sy'n ymwneud mwy ag anghenion seicolegol y snob ideolegol nag anghenion gwlad y snob ideolegol.

Y peth cyntaf i'w ddeall am dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol ydi ei fod yn lle braf i fod ynddo. Mae cynnal safbwynt deallusol cyson ac anhyblyg yn hawdd, cyn belled nad ydym yn caniatau i fywyd go iawn amharu llawer arno. Mae'n hawdd ennill dadl abseliwtaidd yn erbyn rhywun sy'n hyblyg ac ymarferol. Mae yna fanteision ychwanegol wrth gwrs - gall y snob ideolegol edrych i lawr ei drwyn ar y sawl sydd wedi cyfaddawdu gyda'r byd sydd ohoni er mwyn symud yr agenda genedlaethol yn ei blaen. Gall deimlo'n bwysicach, yn fwy gonest, yn fwy cyson ac yn burach na'i gyd genedlaetholwyr. 'Dydi'r ffaith mai'r dywydiedig gyd genedlaetholwyr sydd wedi dod a ni i lle'r ydym heddiw ddim yn amharu mymryn ar y pleser bach hwnnw wrth gwrs.

Gall y snob ideolegol fod yn ddiog ac eistedd yn ol yn ei gadair a chyfiawnhau peidio a gwleidydda - wedi'r cwbl does yna'r un blaid yn ddigon pur iddo fo - neu hi. Felly gall edrych o hirbell ar eraill yn ymdrechu, croesawu pob cam ymlaen yn ddistaw bach tra'n beirniadu'r mudiad cenedlaethol ar dop ei lais am beidio a chyflawni digon yn ddigon cyflym - wrth unrhyw un sy'n fodlon gwrando.

Hynny yw mae cenedlaetholwyr naturiol sydd wedi dod i ddeall tros flynyddoedd sut i lwyddo yn etholiadol wedi defnyddio'r llwyddiant hwnnw i symud agenda genedlaetholgar yn ei blaen. Mae'r snob etholiadol am ymateb trwy ddweud nad yw'r llwyddiant yn ddigonol, a'i fod o ei hun yn llawer purach na neb arall. Ond wrth gwrs pe byddai cyngor y snob ideolegol wedi ei ddilyn ni fyddai unrhyw beth o gwbl wedi ei gyflawni - ond 'dydi hynny ddim ots - mae'r snob wedi amddiffyn ei direwdd mewnol cyfforddus - a dyna'r oll sy'n bwysig iddo yn y pen draw.

'Rwan o ddarllen hyn oll efallai eich bod yn meddwl fy mod o'r farn nad oes gan y snob ideolegol unrhyw rol o gwbl - ond mi fyddech yn anghywir. Mae yna bwrpas iddo - ond 'dydi o ddim yn bwrpas arbennig o bwysig. Mae'r mudiad cenedlaethol angen cydwybod o rhyw fath. 'Rwan yn amlwg mae mymryn o berygl i'r broses etholiadol droi cenedlaetholdeb yn risgl gwag sydd heb agenda cenedlaetholgar o gwbl - ychydig fel Llais Gwynedd sy'n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar amddiffyn hen doiledau drewllyd. 'Dydi'r perygl yma ddim yn fawr iawn wrth gwrs - i'r gwrthwyneb - mae'r Blaid wedi llwyddo i symud yr agenda cenedlaethol yn ei blaen pan mae mewn grym, a phan nad yw mewn grym. Ond rhag ofn, 'mond rhag ofn, efallai nad ydyw'n ddrwg o beth i gael rhywun yn grwgnach a chwyno yn y cefndir.

Mae'n debyg bod gan bawb rhyw berthynas mewn oed mawr - hen fodryb efallai - sy'n boenus am pob dim ac yn swnian yn ddi ddiwedd - gwna'n siwr dy fod yn rhoi dy felt pan rwyt yn mynd i'r car, criba dy wallt, paid a dreifio yn lysh gachu, rho dy got cyn mynd allan rhag ofn i ti ddal anwyd, paid a chysgu efo pobl dwyt ti ddim yn eu 'nabod rhag ofn i ti ddal rhywbeth, clyma dy sgidiau rhag ofn i ti faglu, torra dy wallt, cau'r drws mae yna ddrafft yma, tynna dy ddwylo allan o dy boced, ti angen bath, cofia gau dy falog ac ati ac ati.

Mae'r holl nagio yn blydi niwsans ac mae dyn yn cael bath ac yn cau ei falog a dreifio'n sobor beth bynnag - ond efallai - jyst efallai bod yr holl swnian yn gwneud rhyw fymryn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau.

Gwneud dipyn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau ydi rol y snob ideolegol ym mywyd cenedlaethol Cymru.

3 comments:

Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.
Alwyn ap Huw said...

Mi wnaf innau ail adrodd hefyd:
Roedd yr hen gyfaill Syd Morgan yn arfer dweud bod trwsio dreiniau yn allweddol i'r achos cenedlaethol - Os ydych chi'n gallu profi bod cynghorwyr y Blaid yn eirwir pan ddywedant eu bod am sicrhau trwsio eich dreiniau yna byddai'r etholwyr yn credu eu bod yn eirwir wrth son am fanteision addysg Gymraeg a hunan lywodraeth i Gymru hefyd

Roedd Syd yn llygaid ei le.

Drwg y post yma yw dy fod di'n ymddangos fel un sydd am drwsio dreiniau er mwyn gwella'r system carthffosiaeth yn unig.

Cai Larsen said...

Ond, nid dyna mae'r blogiad yn ei ddweud wrth gwrs.

Y pwynt ydi nad ydi purdeb ideoleol yn ein cyd destun ni yn gallu gwneud llawer o safbwynt hyrwyddo'r ideoleg ei hun - i bwrpas ymarferol o leiaf.