Tuesday, November 16, 2010

Diolch i Golwg _ _ _

_ _ _ am roi blogmenai ar frig eu rhestr blogiau amatur Cymraeg eleni, ac am eiriau caredig Ifan. Llongyfarchiadau hefyd i bawb arall a ymddangosodd yn y deg uchaf. Un neu ddau o bwyntiau brysiog - nad ydynt o anghenrhaid yn gysylltiedig a'i gilydd nag yn arbennig o dreiddgar.

Fedrwn i ddim peidio a gwenu wrth weld y sylwadau bod blog Guto Dafydd yn gryno iawn o ran arddull. Roeddwn i'n darllen (ac yn marcio) gwaith Guto pan roedd yn hogyn ysgol. Roedd yn 'sgwenwr talentog bryd hynny - gan fynegi ei hun yn eglur iawn - ac yn gryno iawn. Fyddai Guto ddim yn Guto os na fyddai'n gryno!

Blogiau gwleidyddol sydd ar y brig, ac fel mae Ifan yn nodi, mae'r ffaith bod etholiad cyffredinol eleni wedi bod o help. Ond y gwir amdani ydi bod blogio gwleidyddol yn haws nag ydi blogio yn y rhan fwyaf o feysydd eraill - mae yna storiau gwleidyddol yn ymddangos pob dydd i ymateb iddynt. 'Dydi'r blogiwr gwleidyddol ddim yn gorfod wynebu syndrom y dudalen (neu'r sgrin) wag - mae yna bob amser rhywbeth i 'sgwennu amdano.

Mae'n anffodus nad oes yna fwy o flogiau cyfrwng Cymraeg. Mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith mai un o'r strwythurau pennaf sy'n cynnal y Gymraeg ydi bodolaeth cyd destunau lle caiff ei defnyddio. 'Dydi blogio ddim yn fater hollbwysig wrth gwrs, ond mae gwendid cymharol yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn adlewyrchu gwendid ehangach yng nghyd destun defnyddio technoleg newydd i gyfathrebu.

Mae'n well gen i weld pobl sydd eisiau blogio yn ddwyieithog yn dilyn trywydd Alwyn ap Huw ac yn cynhyrchu dau flog yn y ddwy iaith,sydd yn ymdrin a materion ychydig yn wahanol, nag yn cyfieithu pob dim o un iaith i'r llall oddi mewn i un blog. Dydi dwyieithrwydd o'r math yna ddim yn creu cyd destun newydd i ddefnyddio a darllen y Gymraeg. Mae'r trywydd Plaid Wrecsam o flogio yn Saesneg, ond cynnwys ambell i flogiad Cymraeg nad yw wedi ei gyfieithu, yn well o lawer na hynny.

4 comments:

Rhys Wynne said...

Braidd yn anheg ar Alwyn yn colli marciau am gadw blog Saesneg.

Baswn i'n marcio Blog Menai i lawr am fod yn rhy hir a manwl. Damia - mae gan rai ohonan fywydau i'w dilyn, ond mae'r demptasiwn i ddallen pob dim yn drech arna i fel arfer!

Cai Larsen said...

Damia fo - sori mi wna i geisio bod yn fyrach ac anghofio am y manylder o hyn allan.

Plaid Whitegate said...

Llongyfarchiadau mawr a haeddiannol.
Efallai y dylai WrecsamPlaid ystyried blog arall Cymraeg yn unig... efo'r ffrau dros yr ysgol newydd yn dal i ffrwtian mae'n debyg fod na ddigon o ddeunydd am sbel!

Cai Larsen said...

Mi fyddai blog Cymraeg arall - hyd yn oed un gyda blogiadau cymharol achlysurol yn beth da. Wedi'r cwbl, ychydig o flogiau sy'n cynhyrchu mwy o flogiadau na PlaidWrecsam.