Saturday, November 27, 2010

Yma o hyd!


Mae'n debyg y dylid cydymdeimlo efo rhywun o draddodiad statist Llafuraidd fel Kim Howells ar y boen mae wedi ei ddioddef o ganlyniad i weld adeiladau llywodraethol ym Mae Colwyn a Merthyr - yn hytrach nag yn Llundain lle maen nhw i fod. 'Dwi'n siwr bod y sefyllfa yn amharu yn fawr ar ei ddealltwriaeth o'r Byd a'i bethau.Ymddengys mai dyma un o'r rhesymau pam y bydd yn pleidleisio Na ym mis Mai.

Yn anffodus mae yna berygl mewn chwerthin ar ben idiotrwydd Kim. Mae'r traddodiad Llafuraidd o weld canol y Byd yn Llundain yn mynd yn ol i ddyddiau cynnar y mudiad llafur Cymreig - ac roedd ei fodolaeth ymysg y rhesymau pam y cafwyd Na yn 79 a pham y daethom mor agos at Na yn 97. Roedd yna resymau eraill wrth gwrs - y rhaniadau mewn cymdeithas Gymreig ynghyd a'r ffaith bod llawer o Gymru o gefndiroedd Seisnig. Dyma'r glymblaid wrth ddatganoli yn ei hanfod - statists Llafur, pobl sy'n gweld eu hunain fel Saeson yn bennaf, a'r plwyfol fewnblyg. Mae'r peth mor syml a hynny yn y bon.

Mae cydrannau'r glymblaid yna yn dal yn fyw ac yn iach. Am resymau nad af i mewn iddynt, 'dwi wedi cael cyfle i sgwrsio efo pobl mewn cornel o Ogledd Ddwyrain Cymru yn ddiweddar. Mi siaradais efo dwy ddynas sydd yn gweithio mewn llywodraeth leol ac oedd yn poeni am eu swyddi. Roeddwn yn digwydd bod yn gwneud hynny y diwrnod ar ol i'r Cynulliad ddatgan mai 1.7% fyddai toriad eu cyngor nhw o gymharu a'r toriad llawer, llawer mwy sylweddol roedd rhaid i gyngor cyfagos tros y ffin ymdopi efo fo. O dan yr amgylchiadau mi fyddai dyn wedi disgwyl rhywfaint o gydymdeimlad tuag at y Cynulliad - ond na - I'm not voting for incompetence oedd cri'r ddwy.

Rwan ar un olwg mae hon yn gwyn bisar. Nid y Cynulliad werthodd hanner cyflenwad aur y wladwriaeth pan oedd y farchnad honno ei hisaf ers canrif, nid y Cynulliad aeth i ryfel a arweiniodd at farwolaeth mwy na 100,000 o bobl er mwyn dod o hyd i WMDs dychmygol, nid y Cynulliad aeth ati i osod trefn oruwchwylio banciau mor wan nes i'r rheiny ddod a'r wladwriaeth ar ei gliniau mewn degawd o orffwylledd trachwantus, ac nid aelodau'r Cynulliad a dreuliodd fisoedd y llynedd yn y papurau oherwydd iddynt gymryd mantais o drefn oruwchwylio yr oeddynt wedi ei dyfeisio eu hunain er mwyn ymgyfoethogi nhw eu hunain. Yn wir, o bwyso arnynt, yr unig esiampl o incompetence oedd un yn gallu ei arenwi oedd y £500 y plentyn o wahaniaeth rhwng gwariant ar addysg yng Nghymru a Lloegr. Doedd y llall methu meddwl am unrhyw esiampl o gwbl.

Ond nid incompetence ydi'r broblem mewn gwirionedd wrth gwrs. Roedd y ddwy yn swnio yn Seisnig iawn o ran eu hacenion, a'r broblem sylfaenol ydi bod y syniad o Gymry yn rhedeg llywodraeth yn un anghydnaws iddynt - mae'n edrych fel incompetence iddyn nhw - hyd yn oed os ydi'r Cynulliad wedi ymgymryd a'u dyletswyddau tros y ddegawd diwethaf gyda chryn dipyn mwy o effeithiolrwydd na'r syrcas sydd wedi bod yn hymian rhagddi'n hapus yn San Steffan. Aelodau o gydadran 'Seisnig' y glymblaid wrth ddatganoli oedd y ddwy mae gen i ofn.

Ac mae'r plwyfol wrthnysig gyda ni o hyd hefyd. Mi siaradais efo un cyfaill oedd yn amheus o'r Cynulliad am ddau reswm - oherwydd bod pob dim yn mynd i Sir Fon ('dydw i ddim yn tynnu coes - wir Dduw) ac oherwydd yr Eisteddfod. Ia, dyna chi yr Eisteddfod - ymddengys bod y Cynulliad yn rhoi mwy o bres o lawer i'r Genedlaethol na maent yn ei roi i Eisteddfod Llangollen - er bod yr ail yn tynnu llwyth o bres o wledydd tramor i mewn tra bod y gyntaf yn ail gylchu pres oddi mewn i Gymru. Doedd y ddadl nad tynnu pres o wledydd tramor ydi pwrpas grantiau Adran Ddiwylliant y Cynulliad ddim yn tycio rhyw lawer.

Felly doedd y cyfaill ddim yn hoffi'r Cynulliad oherwydd bod ganddo Ddirprwy Brif Weinidog o ran arall o Ogledd Cymru ac oherwydd bod mwy o bres yn cael ei roi i sefydliad sydd ddim ar ei stepan drws na sydd yn cael ei roi i un sydd.

A dyna ni - mae'r glymblaid wrth ddatganoli yn dal i sefyll. 'Dydi hynny wrth gwrs ddim yn golygu bod yna gymaint o bobl yn perthyn iddi nag oedd yn y gorffennol wrth gwrs - ond mae'r elfennau mewn cymdeithas Gymreig sy'n wrthwynebus i ddatganoli yma o hyd. 'Dydi cymryd arnom nad ydynt yn bodoli ddim yn syniad da.

6 comments:

Alwyn ap Huw said...

Yr hyn rwy'n gweld yn drist o ddoniol yw mai'r un rhai o fewn fy nghydnabod sydd yn cwyno bod pob dim yn mynd i Gaerdydd ers datganoli ac sydd hefyd yn cwyno am adeiladu swyddfeydd newydd i'r Cynulliad yn y Gyffordd.

menaiblog said...

There's nowt sae queer as folk ys dywed y Sais.

Anonymous said...

'di gweld fideo yma am hanes Marxiaeth yn ddiddorol ac yn taflu goleuni ar agweddau rhyfedd Marxwyr a'r Chwith at genhedloedd bychan.

Gwyliwch o rhyw 2.44 ymlaen:

http://www.youtube.com/watch?v=DdAfuryty4k

(diolch i blog Syniadau!)

Aled G J said...

Mae yna garfan arall sy'n rhan o'r hafaliad hefyd, sef carfan y byddwn i'n ei disgrifio fel y dadrithiedig rai. Dydi'r rhain ddim o reidrwydd yn Seisnig eu hagweddau, nac yn blwyfol/wrthnysig chwaith, ond maen nhw'n garfan sydd wedi dadrithio hefo gwleidyddiaeth a gwleidyddion o bob math. Mi fyddwn i'n awgrymu bod y garfan hon i'w gweld yn amlwg iawn yn y tua 25% o'r boblogaeth sydd dal heb benderfynu sut y byddant yn bwrw'u pleidlais mis Mawrth. Gyda'r bwlch rhwng y rhai sydd am ddweud IA a'r rhai sy'n dweud NA yn culhau, dwi'n poeni nad oes digon yn cael ei wneud i apelio at y garfan ddadrithiedig hon, a hynny gyda dulliau newydd a dychmygus, sydd y tu hwnt i ffiniau gwleidyddol arferol. Gyda'r ymgyrch IE eto i'w lawnsio a Llafur Cymru fel pe taent am redeg ymgyrch ar sail gwrth-doriaidd llwythol ac hen ffasiwn, dwi'n dechrau poeni am y canlyniad a dweud y gwir.

Anonymous said...

Amser i ddechrau shapio hi felly - oes yna unrhyw un yn gwybod be di hanes yr ymgyrch "Ie"? Dwi'n disgwyl am yr alwad i ddechrau ffonio / dosbarthu taflenni ers rhai misoedd bellach!

menaiblog said...

Cychwyn yn y flwyddyn newydd dwi'n dallt.