Ar wahan i hynny, mae'r marchnadoedd betio yn rhoi syniad go lew i ni pa ffordd mae'r chwythu. Wedi'r cwbl maent yn cael eu gyrru gan yr arian sy'n cael ei fetio ar ganlyniadau, a mae pobl yn tueddu i fod yn weddol ofalus cyn rhoi eu pres yn nwylo'r bwci. Y betio mwyaf diddorol efallai ydi'r betio ar etholaethau unigol. Y ddau brif gwmni sy'n cynnig y math yma o fetio ar hyn o bryd ydi Ladbrokes a'r cwmni Gwyddelig, Paddy Power.
I sbario'r drafferth i chi o weithio eich ffordd trwy'r holl fets unigol, dwi wedi dod a'r rhai Cymreig at ei gilydd a cheisio ystyried beth maent yn ei ddweud wrthym am yr hyn sy'n debygol o ddigwydd mewn nifer o etholaethau Cymreig.
Mi gychwynwn ni efo'r Gogledd Orllewin. Yn ol y bwcis Plaid Cymru sy'n debygol o ennill yn Ynys Mon ac Arfon, tra bod y Toriaid yn debygol o ennill yn Aberconwy.
Aberconwy:
Conservatives | 2/7 |
Plaid Cymru | 7/2 |
Labour | 8/1 |
Liberal Democrats | 25/1 |
Arfon:
Plaid Cymru | 1/10 |
Labour | 6/1 |
Conservatives | 14/1 |
Liberal Democrats | 100/1 |
Ynys Mon:
Plaid Cymru | 1/3 |
Labour | 9/4 |
Conservatives | 16/1 12/1 |
Liberal Democrats | 100/1 |
Ychydig iawn o obaith a roir i'r Lib Dems - rhywbeth y byddai unrhyw un sy'n adnabod yr ardal yn gwybod. Mae'r ffigyrau yn awgrymu bod Plaid Cymru yn saff yn Arfon, ac mai cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a Llafur ydi hi ar Ynys Mon, a rhwng y Toriaid a Phlaid Cymru yn Aberconwy.
Mae gan y Lib Dems dair sedd yn y canolbarth, ond mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu bod y cwbl ohonynt mewn perygl.
Brycheiniog a Maesyfed:
Liberal Democrats | 8/11 5/6 |
Conservatives | evens 5/6 |
Labour | 100/1 80/1 |
Plaid Cymru | 100/1 |
Ceredigion:
Plaid Cymru | 5/6 |
Liberal Democrats | 5/6 |
Conservatives | 25/1 |
Labour | 100/1 |
Maldwyn:
Liberal Democrats | 2/5 1/4 |
Conservatives | 7/4 9/4 |
Labour | 100/1 |
Plaid Cymru | 100/1 |
Mae Llafur allan o bethau'n llwyr yn y dair, ac felly hefyd Plaid Cymru yn y ddwy sedd ym Mhowys. Mae Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed yn gystadleuol iawn, ac mae Maldwyn hefyd yn gystadleuol, ond i raddau llai.
Mae'r Lib Dems allan ohoni'n llwyr yn y De Orllewin, ond mae dwy o seddi Llafur o dan fygythiad - Llanelli a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Fedra i ddim dod o hyd i ffigyrau am yr ail sy'n anffodus, mae'n sedd ddiddorol.
Llanelli:
Labour | 1/2 |
Plaid Cymru | 6/4 |
Conservatives | 50/1 33/1 |
Liberal Democrats | 100/1 |
Mae nifer o seddi dinesig Llafur o dan fygythiad hefyd.
Gogledd Caerdydd:
Toriaid - 1-5
Llafur 3 - 1
Lib Dems - 33 - 1
Plaid Cymru 80 - 1
Canol Caerdydd:
Lib Dems - 2/7
Llafur - 11/4
Toriaid - 10/1
Plaid Cymru 66/1
Dwyrain Casnewydd:
Labour | 1/2 4/9 |
Liberal Democrats | 9/4 3/1 |
Conservatives | 6/1 9/2 |
Plaid Cymru | 100/1 |
Gorllewin Casnewydd:
Labour | 5/6 |
Conservatives | 5/6 |
Liberal Democrats | 50/1 |
Plaid Cymru | 100/1 |
Gorllewin Abertawe:
Liberal Democrats | 10/11 evens |
Labour | 10/11 8/11 |
Conservatives | 10/1 |
Plaid Cymru | 100/1 |
Plaid Cymru sydd ddim ynddi yma, mae Gogledd Caerdydd yn debygol iawn o syrthio i'r Toriaid. Mae'r Toriaid hefyd yn fygythiad yng Ngorllewin Casnewydd, tra bod y Lib Dems yn anadlu i lawr cefn Llafur yng Ngorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd. 'Does yna ddim ffigyrau am De Caerdydd na Gorllewin Caerdydd - sydd eto'n anffodus. Er fy mod yn disgwyl i Lafur ddal y ddwy, gallai pethau fod yn agos iawn. Dwyrain Abertawe ydi'r unig sedd ddinesig cwbl saff i Lafur bellach. Mae hefyd yn ddiddorol bod posibilrwydd y bydd y Lib Dems yn colli eu seddi gwledig, ond yn gwneud iawn am hynny trwy ennill mewn rhai dinesig.
Mae ambell un o'r seddi eraill yn ddigon diddorol.
Castell Nedd:
Labour | 1/7 |
Plaid Cymru | 4/1 |
Conservatives | 100/1 |
Liberal Democrats | 100/1 |
Blaenau Gwent:
Dai Davies | 8/11 |
Labour | evens |
Conservatives | 100/1 |
Liberal Democrats | 100/1 |
Plaid Cymru | 100/1 |
Mynwy:
Conservatives | 1/100 |
Labour | 16/1 |
Liberal Democrats | 100/1 |
Plaid Cymru | 100/1 |
Wrecsam:
Labour | 1/2 |
Conservatives | 7/2 |
Liberal Democrats | 4/1 |
Plaid Cymru | 50/1 |
Pethau'n agos iawn ym Mlaenau Gwent felly, a'r farchnad hefyd yn ystyried Castell Nedd yn fwy cystadleuol nag Arfon - sydd eto'n ddiddorol. Er bod Llafur ar y blaen yn Wrecsam, digon simsan ydi eu gafael mewn gwirionedd.
Ymddiheuriadau am yr holl Saesneg - cut & paste mae gen i ofn.
11 comments:
Y Cwestiwn mawr fan hyn i'r rhai sy'n hoff o ambell i bunt ar faterion gwleiyddol yw oes 'gwerth am arian' yn y marchnadoedd hyn. Gem o debygolrwydd yw betio'n llwyddiannus ac os yw rhywun yn tybio bod y tebygolrwydd o 'Plaid A' yn ennill sedd yn well na'r ods yna mae hi werth punt neu ddwy. Er enghraifft os yw rhywun yn tybio fod gan Blaid Cymru gwell na 20% o siawns o gipio Castell Nedd yn yr etholiad cyffredinol yna mae hi werth mentro. Yn yr un modd yng Ngheredigion pe bai rhywun yn teimlo fod gan y Blaid (neu o ran hynny y Lib Dems) tebygolrwydd o dyweder 70% o gipio'r sedd yna mae'r ods yn awgrymu fod hi werth mentro. Be' mae pobl yn teimlo yn lleol?
Fel rhywun sy'n byw ym Maldwyn, dydw i ddim yn meddwl bod yr ods yn adlewyrchu'r teimladau cryf yn erbyn Lembit Opik ymysg y bobl leol. Dyna'r broblem gyda rhywbeth fel hyn. Dyw'r bwcis ddim bob amser yn tiwnio i fewn i'r hyn sy'n digwydd yn yr ardal
Wel, os ti'n eithaf siwr o dy bethau mae gen ti gyfle i wneud ceiniog neu ddwy mi fyddwn yn meddwl.
Dwi hefyd 'di bod yn cadw golwg ar yr odds. Y rhai mwyaf diddorol dwi'n meddwl ydi Ceredigion a Chastell-nedd.
Anaml mae bwcis yn anghywir, felly mae odds Ceredigion yn peri pryder i mi. Mae hi wedi bod yn gyfartal rhwng PC a'r Dems Rhydd ers misoedd - mae'n ddigon posibl na fydd y Blaid yn adennill y sedd yn anffodus.
O ran Castell-nedd, 4/1 ar Blaid Cymru? Anhygoel rili tydi. Dwi ddim yn meddwl y byddai Plaid 4/1 yn 2007 heb sôn am flwyddyn nesa. Diddorol iawn.
Ie wir - mae Castell Nedd yn ddiddorol - yn enwedig oherwydd fod angen gogwydd bron i ddwywaith cymaint i ennill yn San Steffan yng Nghastell Nedd ag sydd angen yn Llanelli. Buasai rhywun yn disgwyl yr ods i fod yn agosach yn Llanelli nag y'n nhw, efallai.
O ran Ceredigion, naill ai mae'r bwcis yn gywir ac felly mae'n mynd i fod yn andros o agos ... neu mae 'na arian i'w gwneud - os yn weddol sicr o'r canlyniad. Difyr iawn i wylio.
Y peth i gofio am ods y bwcis yw nad ydynt yn cael eu gyrru yn uniongyrchol gan yr hinsawdd wleidyddol ond yn ail law trwy faint o arian sydd yn cael ei osod ar bob plaid.
Gan nad ydy'r mwyafrif ohonom yn dueddol o roi ein harian ar fet anobeithiol gall yr odds rhoi adlewyrchiad gweddol deg, yn arbennig wrth i wres yr etholiad cynhesu a mwyfwy o bobl yn dueddol o fetio ac wrth i'r wybodaeth am y brwydrau dod yn fwy hysbys.
Ar hyn o bryd mae llawer o'r arian sydd wedi betio yn fetiau eithaf mawr sydd wedi eu gosod ar sail tueddiadau Prydeinig, bydd hyn yn sicr o effeithio yn gadarnhaol ar ods y Blaid Geidwadol ac un negyddol ar ods y Blaid. Gan hynny mae'n annhebygol bod y bwcis yn agos ati ar hyn o bryd. Pan fydd yr ymgyrch go iawn yn cychwyn a phobl bach yn dechrau rhoi puntan neu ddwy ar y pleidiau yn lleol, wedi ei seilio ar wybodaeth leol.
Os ydych yn rai am osod arian bach ar ganlyniadau etholiadol, am hwyl yn hytrach na ffortiwn, dyma'r adeg i roi puntan ar y Blaid. Yn gyntaf fe gewch chi bris gwell na chewch i yn agosach at yr etholiad ac yn ail bydd gwêl yr odds yn tynhau yn fanteisiol i'r Blaid yn llefydd fel Ceredigion, Llanelli, Maldwyn ac ati yn rhoi hwb i'r naratif am obeithion y Blaid.
Wn i ddim a wyt wedi gweld yn y Western Mail heddiw (mae'n siwr ei fod ar y wefan hefyd) odds gan yr enwog Karl y Bwci, wedi'u gwneud wrth gwrs yn ddi-duedd amwni.
Mae'n ddiddorol iawn - mae er enghraifft yn credu y bydd Plaid Cymru a'r Dems Rhydd ar 4 sedd yr un ar ôl yr etholiad.
Diolch, mi af am stag i Morrisons.
Y drafferth yw gydag ods Karl yw nad oes modd betio ar yr ods hynny, ac felly mae nhw'n adlewyrchu canfyddiadau Karl yn hytrach nag arian fel mae Ladbrokes.
Mi fuaswn i'n fodlon mentro tipyn o arian na fydd y Lib Dems yn ennill 4 sedd, ar gynnydd mi fuasent yn gallu cymryd 5 neu 6; ond os oes unrhyw gynnydd i Blaid Cymru neu'r Ceidwadwyr yna 3 fyddai'r gorau gall y Lib Dems ddisgwyl.
Dyma'r Stori yn y WM
Wel, o ran Blaid Cymru, rwy'n lled hyderus y bydd hi'n ail-gipio Ceredigion. Roeddwn i'n siarad a Mark Williams, yr AS, dipyn yn ol, (rwy'n dod ymlaen yn dda ag ef ar lefel bersonol) ac roedd yn awgrymu'n gryf ei fod yn credu mai colli fydd ei hanes.
Serch hynny, gyda'r holl son am Senedd grog, ac agosatrwydd y bleidlais (Brydeinig), rwy'n ofni fod Llafur am gadw eu pleidlais yn well na'r disgwyl yn rhannau o Ghymru, gyda Llafur yn cadw Llanelli ac o bosib Mon wrth i'r pleidleiswyr llafur naturiol fynd allan er mwyn cadw'r ceidwadwyr o rym (ond mae Mon yn ots i bob rheol a phroffwydoliaeth!).
Gobeithio mod i'n rong ynghylch Llanelli a Mon.
Mae'r son am fenthyg pleidlais yn ddiddorol hefyd. Pleidlais naturiol Plaid Cymru / Cenedlatholgar ym Mrycheinig maesyfed yw tua 4000, ond mae'r mwyafrif llethol yn pleidleisio dros y LibDems er mwyn cadw'r Ceidwadwyr allan. Mae gan y Blaid bleidlais naturiol gryf yng ngorllewin Maldwyn, ond yr un yw'r hanes yno.
M
Post a Comment