Tuesday, November 24, 2009

Y peth gorau a allai ddigwydd i ddatganoli fyddai ymadawiad Peter Hain


Wps - bu bron i'r holl sioe a syrthio'n ddarnau y prynhawn yma gyda Plaid Cymru yn bygwth tynnu allan o Cymru'n Un oherwydd i Lafur ymddwyn fel y bydd Llafur yn ymddwyn pob tro mae pendefyniad anodd i'w wneud ynglyn a datganoli.

Mae gwahanol flogwyr yn cynnig eu dehongliadau eu hunain ynglyn a'r digwyddiadau. Yn ol Welsh Guerilla Warefare Llafur sy'n profi pa mor bell maent yn cael mynd, tra bod Syniadau o'r farn bod Llafur ond eisiau mwy o bwerau i'r Cynulliad os nad ydynt yn rheoli yn Llundain. Mae Gareth Hughes o'r farn mai ymgais gan Peter Hain i ohirio refferendwm am cymaint o amser a phosibl.

'Dwi'n meddwl mai Gareth sydd agosaf ati. Mae Llafur Cymru yn gwbl afresymegol pan maent yn wynebu problemau sy'n ymwneud datganoli, yn yr un ffordd nag y mae'r Toriaid Prydeinig yn mynd ychydig bach yn dw lali pan maent yn ceisio meddwl am Ewrop. Mae'r rheswm yr un peth yn union - mae'r ddwy blaid wedi eu hollti'n llwyr - y naill ar ddatganoli a'r llall ar Ewrop.

Mae'r ffaith bod Llafur Cymru pob amser yn edrych ar ddatganoli yng nghyd destun eu anghenion mewnol yn golygu bod datganoli Cymreig wedi bod yn ddiffygiol o'r cychwyn. Yr angen i gyfaddawdu er mwyn undod mewnol a arweiniodd at ddiffyg eglurder y setliad gwreiddiol, dyna hefyd arweiniodd at y system LCO bondigrybwyll. Ymgais i wthio penderfyniadau anodd i'r dyfodol oedd comisiwn Syr Emyr, a dyna oedd lol heddiw. 'Dwi'n eithaf siwr yn bersonol i Peter Hain addo i rai o ddeinasoriaid ei blaid i beidio a symud ymlaen efo datganoli am gyfnod penodedig ar yr amod nad oeddynt yn cicio yn erbyn y tresi pan oedd y gyfundrefn LCOs yn cael ei chreu - ac mae'n gorfod byw efo'r addewid hwnnw 'rwan.

'Dydi datganoli byth am weithio tra bod y Blaid Lafur Gymreig yn credu bod eu hystyriaethau pleidiol eu hunain yn bwysicach na llunio cyfundrefn effeithiol o lywodraethu Cymru. 'Does yna neb yn fwy euog na Peter Hain o fod a blaenoriaethau gwyrdroedig yn y cyswllt yma. Mae eisoes yn wleidydd sydd wedi ei faeddu y tu hwnt i adferiad - fel y gellir gweld yma yma ac yma, er enghraifft. Mae'n bryd iddo fynd - ni all feddwl yn rhesymegol am ddatganoli a thra ei fod yn ysgrifenydd gwladol fydd Llafur ddim yn ymddwyn yn rhesymegol mewn perthynas a datganoli chwaith.

3 comments:

Annette Strauch said...

'Rwy'n dod o'r Almaen, wedi byw yng Nghymru ers deng mlynedd. Trio i ddeall beth sydd yn mynd 'mlaen mewn "politics" 'ma. Mae'n anodd.
Dwi ddim yn siwr am ddatganoli chwaith...

Cai Larsen said...

Ti'n gwybod mwy am wleidyddiaeth Cymru na 'dwi gwybod am wleidyddiaeth yr Almaen reit siwr.

Aled G J said...

Tydi'r "brinkmanship" gwleidyddol a welwyd yn y senedd yr wythnos hon ddim yn argoeli'n dda ar gyfer llwybr esmwyth ac unol at refferendwm. Mae'n dangos eto bod Llafur yn meddwl mwy am sgoriau pwyntiau gwleidyddol yn erbyn Plaid Cymru a'r Toriaid nag am ddyfodol Cymru ei hun. Eu bwriad amlwg ydi ar y naill law, cyflwyno narratif am " obsesiynau cyfansoddiadol" y pleidiau erail tra bo hwy am ganolbwyntio eu hymdrechion yn erbyn y Toriaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Yn anffodus, mae hon yn narratif gref a pe bai modd iddyn nhw gyplysu hynny trwy gynnig gweithio at refferendwm ar ol yr etholiad cyffredinol, gan gynnig dyddiad megis Mawrth 1af 2011- byddai hynny yn ymddangos yn synhwyrol iawn i lawer o bobl. Byddai hynny yn gosod Plaid Cymru mewn sefyllfa anodd eithriado: fydden nhw'n mentro dymchwel y glymblaid os ydi Llafur wedi cynnig dyddiad pendant megis yr uchod a chadw at addewid Cymru'n Un? Ac er na fyddwn i'n hoffi gweld y Blaid yn cael eu clymu gan Lafur fel hyn- byddwn i'n bersonol yn teimlo'n hapusach gweld refferendwm ar yr adeg hynny yn hytrach na mis Hydref eleni. Efallai er lles y prosiect cenedlaethol bydd rhaid llyncu'r llyffant arbennig hwn.