Cwestiwn ydi’r uchod a godwyd gan Guto yn nhudalen sylwadau’r ymysodiad yma gen i ar record y Toriaid o wrthsefyll datblygiadau cyfansoddiadol blaengar yng Nhymru a thu hwnt. Mae’n codi’r un pwynt ar flog Ceidwadwyr Aberconwy. Os caf ei arall eirio ychydig yr hyn mae’n gofyn ydi hi’n syniad da ymladd y refferendwm pwerau deddfu (sy’n debygol o ddigwydd bellach) ar sail y byddai hynny’n ei gwneud yn haws i wrthwynebu’r llywodraeth Doriaidd yn Llundain. Mae’n amlwg mai ateb Guto ydi ‘na’. Mae'n gweld dilyn trywydd felly fel arwydd o wendid y ddadl tros bwerau pellach.
'Dwi'n rhyw synnu ychydig o ddarllen hynny - mae ymhlyg yn y weithred o godi'r cwestiwn bod Guto'n hanner ystyried bod y drefn bresenol o ddeddfu yn un effeithiol. Roeddwn o dan yr argraff mai dim ond Peter Hain, Alun Michael a Paul Murphy oedd yn credu hynny.
Mi fyddwn hefyd yn dweud nad oes yna unrhyw reidrwydd i seilio'r ymgyrch ar ddadl ddeallusol ynglyn a'r ffordd mwyaf effeithiol o reoli'r wlad. Mi fydd yr ymgyrch 'Na' yn seilio eu hymgyrch nhw ar smalio mai refferendwm ar annibyniaeth ydi'r ymarferiad mewn gwirionedd, ac mi fyddant fel arfer yn gweithio ar yr holl elfennau sy'n ein gwahanu fel cenedl - felly y bu yn 79 a 97. Yr unig reidrwydd sydd ar yr ochr 'Ia' ydi dod o hyd i'r strategaeth fwyaf effeithiol.
Serch hynny mae’r pwynt ehangach yn un sy’n haeddu trafodaeth.
Cyn ei drafod, hoffwn nodi hyn. Mae Guto a minnau yn hen elynion gwleidyddol ar y rhithfro – ond mi hoffwn gydnabod fy mod yn ei barchu fel gwrthwynebydd – mae’n delio mewn ffeithiau yn hytrach na stwff mae wedi ei greu yn ei ddychymyg, dydi o ddim yn ceisio camarwain yn fwriadol, mae’n rhesymegol ac yn rhesymol yn y ffordd mae’n dadlau ac mae’r hyn sydd ganddo i’w ddweud yn aml yn wreiddiol. Dim ond yr olaf o’r uchod sy’n wir am ddull dadlau rhai o fy ngwrthwynebwyr mwy diweddar o stabl Plaid yr Anterliwt.
Ta waeth, cyn i rywun feddwl fy mod yn crafu am le ar un o’r cwangos roedd y Toriaid mor hoff ohonynt yn yr with degau a’r naw degau, efallai y dyliwn symud ymlaen i ddelio efo’r pwynt. Mae’r blogiad roedd Guto’n ymateb iddo yn rhestru esiamplau o wrthwynebu / llusgo traed ar ran y Ceidwadwyr mewn perthynas a datblygu democratiaeth gynhwysol yng Nghymru.
Mi hoffwn wneud pwt arall o restr cyn mynd ymlaen – rhestr o’r hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf i’r Toriaid fod mewn grym – cau holl byllau glo’r wlad, dau ryfel sylweddol, datblygu economi anghytbwys oedd wedi ei ganoli ar wasanaethau ariannol De Ddwyrain Lloegr, dilyn polisi boncyrs o barhau i dorri ar wariant cyhoeddus yn nyfnder dirwasgiad, rhoi pob dimai goch o arian y cyhoedd i George Soros a’i debyg, difa’r sector cynhyrchu, gwneud canoedd o filoedd o bobl yn gyfangwbl ddibynol ar y wladwriaeth, creu system drenau cwbl boncyrs, cymhleth ac aneffeithiol trwy breifateiddio er mwyn preifateiddio, ac wrth gwrs, gorfodi Cordelia Gummer i fwyta beefburgers a allai fod wedi eu heintio efo CJD.
Wnawn ni ddim dechrau ar y gyfres di ddiwedd o sgandalau’n ymwneud a llygredd ac ymddygiad rhywiol amhriodol – mae’r blog yma’n agored i bobl o bob oed.
Ag ystyried y record erchyll yma, ‘dwi’n credu ei bod yn rhesymol ofni mwy o’r un math o beth y tro nesaf y bydd y Toriaid mewn grym - yn arbennig ag ystyried rhai o’r ‘addewidion’ a gafwyd yn eu cynhadledd eleni – ‘dydi cyfres hir o drychinebau newydd ddim yn anhepgor wrth gwrs, ond mae’n fwy na phosibl. 'Dydi naratif wedi ei seilio ar record y Toriaid mewn perthynas a Chymru a'u haddewidion ar gyfer y dyfodol ddim yn afresymegol.
Serch hynny mae datblygiadau diweddar – yn benodol datganiad Cameron ddydd Gwener yn awgrymu bod newid yn yr awyr mewn perthynas a democratiaeth Gymreig o leiaf – yn rhoi lle i ni o leiaf ystyried bod newid gwirioneddol ar droed yn y cyswllt hwnnw.
Rwan peidiwch a fy ngham ddeall i – dydi cydnabod bod tynged gwleidyddol gwlad yn nwylo trigolion y wlad honno ddim yn gam mawr i bleidiau democrataidd normal – ond mae’n gam mawr i’r Blaid Geidwadol Brydeinig. Mi fyddai’n wirion peidio a chydnabod hynny. Byddai hefyd yn wirion disgwyl i’r Toriaid ymgyrchu fel plaid (yn hytrach na fel unigolion) am ganlyniad cadarnhaol i refferendwm – mae’n rhaid iddyn nhw boeni am UKIP Tendency eu plaid eu hunain - a dylai pleidiau eraill (gan gynnwys fy un i) barchu hynny.
Y cwestiwn diddorol ydi os ydi’r newid ymddangosiadol yn y Blaid Geidwadol Gymreig (mae mwyafrif da o’u ACau o blaid mwy o bwerau) yn newid gwirioneddol, a bod eu hagwedd tuag at Cymru yn y dyfodol am fod yn wahanol.
Yr hyn sydd wedi bod yn broblem i fi yn bersonol am y syniad o genedlaetholdeb Cymreig oddi mewn i’r Blaid Geidwadol ydi hyn – mae prif gydadran eu cefnogaeth yng Nghymru wedi bod ymysg yr elfennau mwy ‘Seisnig’ mewn cymdeithas Gymreig – mae felly’n dilyn bod unrhyw symudiad tuag at wleidyddiaeth mwy ‘Cymreig’ am fod yn broblem sylweddol i’r gydadran honno.
Mae felly’n dilyn y byddant yn tueddu i gael eu tynnu’n ol tuag at y farn fwyafrifol yn y pen draw. Mae hyn dipyn bach fel clymu un ochr o fand lastig o gwmpas eich canol a’r ochr arall o gwmpas coeden. Gallwch gerdded am sbel go lew – ond yn y diwedd byddwch yn cael eich cefn yn ol yn sownd yn y goeden.
Serch hynny rydym mewn Cymru ol ddatganoli, ac mae’r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn sylweddol. Mae’r ymdeimlad o Gymru fel gwlad wedi cryfhau, ac mae elfennau mwy ‘Seisnig’ Cymru wedi dechrau derbyn datganoli fel ffordd effeithiol o lywodraethu – a hynny i raddau nad oedd yn ragweladwy i lawer ohonom. Mae felly’n dilyn ei bod yn bosibl bod y Blaid Geidwadol gyfoes yng Nghymru mewn sefyllfa i fod yn llawer mwy hyblyg ac adeiladol wrth ymdrin a materion cyfansoddiadol na’r un genhedlaeth flaenorol o Geidwadwyr.
Daw hyn a ni’n ol at y ddilema greiddiol sy'n codi o gwestiwn Guto – a fyddai’n well seilio ymgyrch o blaid mwy o ddatganoli ar sail gwrthwynebu’r Toriaid – y profiad hir o lywodraeth Doriaidd oedd yn gyfrifol am ganlyniad 97 heb amheuaeth - neu a fyddai’n well ceisio cael consensws (sy’n cynnwys llawer o Doriaid) i hyrwyddo’r ddadl mai mwy o ddatganoli ydi’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli Cymru?
Dydw i ddim yn gwybod beth ydi’r ateb i’r cwestiwn hwnnw - y strategaeth sy'n debygol o lwyddo y dylid ei defnyddio, ac nid y naratif mwyaf deallusol ydi'r un mwyaf effeithiol yn etholiadol pob tro. Bydd rhaid i’r rhai ohonom sydd am adeiladu ar yr hyn sydd gennym yn barod o ran datganoli wynebu’r cwestiwn yma, a’i ateb yn weddol fuan.
9 comments:
Dwi'n meddwl y bydd digwyddiadau'r misoedd nesaf yn dangos mai nid trwy godi bwganod am y bwystfil mawr Ceidwadol y cawn ni'r maen i'r wal fan hyn. Dwi'n rhagweld y bydd Plaid Lafur Cymru yn gwrthod cefnogi cyflwyno mesur am refferendwm cyn etholiad cyffredinol 2010. Fydd gan Plaid Cymru ddim dewis ond gadael y glymblaid( tacteg cyn-etholiadol synhwyrol ta beth) a chyflwyno cynnig am Refferendwm ar lawr y Cynulliad. Mi gaiff hwn ei gefnogi gan y Ceidwadwyr y Lib-Dems, ( a phwy a wyr , ambell i aelod Llafur) gan rwygo Llafur Cymru yn dipia man. Bydd y consensws pleidiol hwn o blaid galw refferendwm( y bydd rhaid i lafur ymuno ag o yn hwyr neu'n hwyrach yn dilyn yr etholiad cyffredinol) yn golygu na fydd yn bosib wedyn rhedeg ymgyrch IE Gwrth-Geidwadol simplistaidd. Sut mewn difri calon y gellid gwneud hynny gyda Cheidwadwyr Cymru wedi dangos mwy o frwdfrydedd dros Ddatganoli na'r Blaid Lafur Gymreig ei hun?! Na, trwy gyflwyno dadleuon traws-bleidiol o ran gwella llywodraethu Cymru yr enillir refferendwm , nid trwy hefru am bechodau un o'r pleidiau hynny yn y gorffennol!
Cai, tri pwynt bychan.
1. Dwi ddim yn credu i mi ddatgan fod trefniadau Deddf 2006 yn gall yn wahanol i rai o brif enwau dy Blaid oedd yn cyhuddo pobl oedd yn awgrymu na fyddai'r drefn yn gweithio o fod yn hurt. Tydi awgrymu fod ymladd refferendwm ar sail gwrthwynebu llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ddim yn syniad da ddim yn cyfateb i awgrymu fod Deddf 2006 yn synhwyrol. Yr hyn sy'n fy synnu ydi fod Wigley (ac eraill) wedi tair blynedd o gnoi cil ar ddeddf 2006 heb lwyddo i gynnig dadl slic ac effeithiol dros newid y drefn unwaith eto. Oes 'na ofn agenda bosotif o fewn Plaid Cymru?
2. Tydi 'datganiad Broughton' yn ddim gwahanol i ddatganiad John Major yn 10 Downing Street yn achos Gogledd Iwerddon. Tydi o chwaith ddim yn wahanol iawn i drafodaethau y Ceidwadwyr yn ystod y '70au cynnar o ran deddfu dros hunan lywodraeth (gweler hanes Jim Sillars a'r Scottish Labour Party am drafodaeth lled ddifyr ar agwedd realistig y Ceidwadwyr ddechrau'r '70au tuag at y cysyniad o hawl Yr Alban / Cymru i ddewis dull llywodraethu i'r ddwy wlad).
3. Tydi dy restrau ddim yn cryfhau dy ddadleuon. A dweud y gwir mae nhw, o fenthyg dy hoff ddisgrifiad o Lais Gwynedd, yn rhyw fath o wleidyddiaeth yr anterliwt gyda'r Ceidwadwyr yn ddrwg i gyd yn hytrach na Phlaid Cymru. Bydded gyson Cai. Os am gyhuddo Llais Gwynedd o obsesiwn gwrth Blaid Cymru da o beth fyddai i dy ymdrechion at drafodaeth gall beidio cael ei sbaddu i'r fath raddau gan restrau arwynebol a hysteria plentynaidd. O ddifrif, mae yma sail i flog digon difyr ond mae'r anaeddfedrwydd cyson wrth drafod y Blaid Geidwadol yn ddiflas iawn.
Gyda'r llaw, dwi'n cynnig yr uchod fel awgrymiadau caredig :-)
GB - Dwi ddim yn credu i mi ddatgan fod trefniadau Deddf 2006 yn gall yn wahanol i rai o brif enwau dy Blaid oedd yn cyhuddo pobl oedd yn awgrymu na fyddai'r drefn yn gweithio o fod yn hurt. Tydi awgrymu fod ymladd refferendwm ar sail gwrthwynebu llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ddim yn syniad da ddim yn cyfateb i awgrymu fod Deddf 2006 yn synhwyrol.
Na, ond mae holi os ydi defnyddio'r dacteg honno yn arwydd o ddiffyg dadl tros bwerau pellach yn fater gwahanol.
GB - A dweud y gwir mae nhw, o fenthyg dy hoff ddisgrifiad o Lais Gwynedd, yn rhyw fath o wleidyddiaeth yr anterliwt gyda'r Ceidwadwyr yn ddrwg i gyd yn hytrach na Phlaid Cymru. Bydded gyson Cai. Os am gyhuddo Llais Gwynedd o obsesiwn gwrth Blaid Cymru da o beth fyddai i dy ymdrechion at drafodaeth gall beidio cael ei sbaddu i'r fath raddau gan restrau arwynebol a hysteria plentynaidd. O ddifrif, mae yma sail i flog digon difyr ond mae'r anaeddfedrwydd cyson wrth drafod y Blaid Geidwadol yn ddiflas iawn.
'Dwi ddim o ddifri yn derbyn cyhuddiad yr anterliwt - er fy mod yn deall yn iawn pam ti'n ei wneud.
'Dwi'n derbyn bod yna elfen gref o bolemics gwleidyddol mewn rhai o fy mlogiadau - ond mae hynny'n wir am lawer o flogiau sy'n cynnal safbwynt gwleidyddol - gan gynnwys un Aberconwy o bryd i'w gilydd. Mae hefyd yn digwydd mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol wrth gwrs.
Mae Gwleidyddiaeth yr Anterliwt yn wleidyddiaeth sydd wedi ei seilio ar ddealltwriaeth syml o foesoldeb. Mi gei fy mod weithiau'n beirniadu dy blaid - ond chei di byth ohonof yn gwneud hynny ar sail fy mod i'n fwy moesol nag wyt ti, na dy blaid o ran hynny. Dyna hanfod Gwleidyddiaeth yr Anterliwt. Efallai bod deunydd blogiad yma.
GB - Gyda'r llaw, dwi'n cynnig yr uchod fel awgrymiadau caredig.
'Dwi'n ddiolchgar am dy sylwadau - fel arfer.
Fe edrychaf ymlaen am flogiad ar wleidyddiaeth yr anterliwt - ond does dim brys!
Yn bwysicach dwi'n credu yw'r honiad gennyt fod datgan fod safbwynt Wigley yn edrych fel diffyg dadl gadarn dros bwerau newydd / gwahanol i'r Cynulliad yn cyfateb i rhyw hanner derbyn fod Deddf 2006 yn OK. Dwi'n credu fod honno'n naid go sylweddol ar dy ran ac yn dueddol o roi safbwynt i mi nad ydwyf wedi ei datgan.
Yn syml iawn lle Dafydd ac eraill sy'n coleddu'r syniad o ymladd refferendwm ar sail rhyfel dosbarth yr '80au yw creu naratif gwleidyddol llawer mwy cadarnhaol os ydynt o ddifrif am weld newid trwy bleidlais ddemocrataidd i'r ffordd y mae y Cynulliad yn gweithredu.
Y mae'n anodd gweld unrhyw gryfder deallusol y tu ôl i'r bwriad i gynnig dadl gymharol negyddol dros newid pwerau'r Cynulliad. Y mae hi hefyd yn weddol amlwg y byddai dilyn trywydd Wigley ac eraill yn golygu y byddai yna undod rhyfeddol yn debygol o ddatblygu yn rhengoedd y Ceidwadwyr a hynny i wrthwynebu newid.
Ai dyna'r bwriad gan Wigley ac eraill? Ydi'r ffug rhyfel dosbarth yn erbyn y Ceidwadwyr bellach yn rhan hollol allweddol o safbwynt Plaid Cymru at bopeth?
GB - Yn bwysicach dwi'n credu yw'r honiad gennyt fod datgan fod safbwynt Wigley yn edrych fel diffyg dadl gadarn dros bwerau newydd / gwahanol i'r Cynulliad yn cyfateb i rhyw hanner derbyn fod Deddf 2006 yn OK. Dwi'n credu fod honno'n naid go sylweddol ar dy ran ac yn dueddol o roi safbwynt i mi nad ydwyf wedi ei datgan.
Dyma dy eiriau - 'Wedi'r cyfan, os mai ail fyw rhyw ryfel dosbarth o'r 80au yn erbyn y Ceidwadwyr yw'r unig ffordd i ennill pleidlais ar fwy o bwerau i'r Cynulliad y mae yna fwy nag awgrym efallai nad yw'r ddadl ddeallusol dros newidiadau yn un gref'
Hy ti'n dweud bod sylwadau Wigley'n awgrymu nad oes dadl gryf o blaid ymestyn pwerau'r Cynulliad. Nid fo sy'n dweud hynny - chdi sydd. Mae'r peth yn eithaf clear cut 'dwi'n meddwl.
'Dwi'n meddwl bod defnyddio'r term 'rhyfel dosbarth' ychydig yn gamarweiniol. Mae mwy i'r ddelwedd ddrwg sydd gan llywodraethau Toriaidd 79 - 97 (yn arbennig yn gynnar) na'r ffaith iddynt reoli mewn ffordd oedd yn niweidiol i elfennau eang o'r dosbarthiadau gweithiol.
Fel dwi wedi dweud mae dwy ffordd o edrych arni hi - mae'n bosibl mai cysylltu'r ymgyrch Ia o gwmpas gwrthwynebiad i doriadau mewn gwariant cyhoeddus ydi'r gorau - neu efallai ei bod yn well ceisio dod o hyd i gonsensws ac adeiladu ymgyrch o gwmpas cwestiwn technegol braidd o beth ydi'r ffordd mwyaf effeithiol o reoli.
'Dwi ddim yn gwybod beth ydi'r ateb i'r cwestiwn hwnnw a dweud y gwir.
Cai, ti di fy nyfynnu ddwy waith a dwi'n hollol gyfforddus gyda fy sylwadau. Yn syml, dwi'n nodi fod methiant Dafydd i gynnig dadl well na "ww sbiwch, Toriaid drwg!" yn adlewyrchu'n wael ar y ddadl sydd ganddo (dadleuon?) o sylwedd dros newid deddf 2006.
Efallai fod ganddo resiad faith o ddadleon cadarn felly beth am eu clywed yn hytrach na ail fwy ei oes aur.
Mae'r ddadl o blaid ynglyn ag effeithiolrwydd y sefydliad yn eithaf amlwg.
Wyt ti'n gyfforddus efo hynny?
Bydde'n dda eu clywed gan Wigley!
Ti'n gwybod ei rif ffon o mi dybiwn.
Post a Comment