Thursday, November 05, 2009

STV a'r Cynulliad

Rydym wedi trafod y dull yma o bleidleisio sawl gwaith ar y blog hwn. Ddoe cafwyd dau flogiad hynod ddiddorol - yma ac yma ar Syniadau. Edrych mae'r ddau ar beth fyddai wedi digwydd petai etholiadau Cynulliad 2007 wedi eu hymladd yn unol a'r gyfundrefn yma. Mae un yn cymryd y byddai yna 60 sedd (y drefn bresenol) ac mae'r llall yn edrych beth fyddai'n digwydd petai yna 80 sedd. Mae'r ddau flogiad yn ffrwyth cryn dipyn o waith ac maent werth eu darllen.

Yr unig beth sydd gen i i'w ychwanegu ydi hyn - mae'n anodd darogan beth a fyddai'n digwydd o dan gyfundrefn STV oherwydd gallai'r gyfundrefn ynddi ei hun effeithio yn sylweddol ar y ffordd mae pobl yn pleidleisio - efallai y byddai patrymau pleidleisio pobl yn addasu os y byddai'r drefn yn wahanol. Mewn un math o etholiad yn unig (etholiadau Ewrop) yr ydym yn defnyddio pleidleisio cyfrannol yn unig yng Nghymru (nid STV ydi'r drefn honno) ond mae'r ffordd mae pobl yn pleidleisio mewn etholiadau felly yn gwbl wahanol i sut y byddant yn gwneud mewn etholiadau San Steffan a rhai'r Cynulliad o ran hynny.

Yn y ddwy wladwriaeth Wyddelig y bydd STV yn cael ei ddefnyddio amlaf. Dydi trefn bleidleiso ddim yn effeithio llawer ar batrymau pleidleisio yn y Gogledd lle mae'r teyrngarwch i bleidiau yn arbennig o gryf, a theyrngarwch i wleidyddion unigol yn wanach.

Mae'r sefyllfa yn wahanol yn y De. Mae'r gyfundrefn yno yn gwneud personoliaethau'r sawl sy'n sefyll a ffactorau daearyddol yn ystyriaethau pwysig wrth bleidleisio. Mae hefyd yn negyddu'r angen i bleidleisio yn dactegol - 'does yna ddim pwrpas gwneud hynny gydag STV. Mae gan y man bleidiau ac ymgeisyddion annibynnol obaith gwirioneddol o gael y sedd olaf mewn etholaeth - erbyn y cyfri olaf mae dewisiadau sy'n isel ar y papur yn dod yn bwysig ac mae yna pob math o bethau anisgwyl yn digwydd.

Yn fy marn i byddai Cynulliad o 80 aelod wedi ei ethol o dan y drefn yma efo nifer o aelodau annibynnol a rhai gan bleidiau llai fel UKIP. Hwyrach y byddai'n anodd i blaid sy'n polareiddio pobl fel y BNP gael eu hethol - byddant yn ei chael yn anodd iawn i ddenu ail, trydydd a phedwerydd pleidlais pobl, ac mae hynny'n hanfodol. Byddai'r Lib Dems yn cael mwy o seddi ond llai o bleidleisiau - pleidlais dactegol ydi lwmp o'u pleidlais nhw - 'does yna ddim pleidleisio felly efo STV. Mae'n ddigon posibl na fyddai'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw ac UKIP yn fawr iawn. 'Dwi'n meddwl y byddai'r Blaid yn elwa oherwydd bod llawer o'u prif bersonoliaethau efo mwy o ddiddordeb mewn sefyll i fynd i'r Bae nag i San Steffan. Byddai'r ffaith bod y drefn yn lled gyfrannol o beth cymorth i'r Toriaid ond byddai'n hynod niweidiol i Lafur - mae'r drefn bresenol yn garedig iawn tuag atyn nhw. Mi fyddant yn cael anghofio bod mewn grym ar eu pennau eu hunain am amser maith (byddant angen efallai 45% i sicrhau hynny).

Mae tactegau etholiadol yn hanfodol gyda'r math yma o etholiad - gall tactegau cywir olygu llawer mwy o seddi. Fianna Fail ydi pencampwyr tactegau STV yn y De, ac mae Sinn Fein yn eu cae eu hunain yn y Gogledd. Petai cyfundrefn STV yng Nghymru byddai'n syniad i strategwyr y pleidiau Cymreig gael sgwrs hir efo strategwyr y pleidiau hynny.

4 comments:

Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.
Alwyn ap Huw said...

Dau beth nad ydwyf yn ddeall am y system STV.

Yn gyntaf sawl pleidlais bydd gennyf? Dweder bod gan "Etholaeth Bro'r Bryniau" chwe sedd, a phum plaid yn godi chwe ymgeisydd yr un; a'i chwe phleidlais yntau 30 bydd gennyf? Os mae dim ond chwech bydd nifer ohonom yn pleidleisio i blaid ein teyrngarwch chwe gwaith ac yn creu canlyniad nid annhebyg i ganlyniad pleidlais Y Cyntaf i'r Felin. Am wn i, yr hyn sy'n creu 'r cyfrannedd (a'r hwyl) yw'r cwestiwn i bwy fydd bobl fel ti a Martin a Guto yn rhoi eich seithfed bleidlais? Os bydd 30 (neu ragor) o bleidleisiau gennyf mae hynny yn ymweld yn gymhleth ac yn ddryslyd ar y naw i mi.

Mae'r ail gwestiwn i wneud a thactegau. Yr wyf yn arweinydd Plaid y Brechdan Jam (PBJ). Mae PBJ wedi ennill 25% o bleidlais ardal Etholaeth Bro'r Bryniau mewn etholiadau blaenorol o dan system Y Cyntaf i'r Felin, ond heb guro sedd. Sawl ymgeisydd dylwn i sefyll dros fy mhlaid o dan y gyfundrefn STV?
Chwech, oherwydd bod yna chwe sedd ar gael?
Chwech oherwydd bydda gynnig am lai yn edrych fel cydnabod gwendid, a derbyn nad oes modd i PBJ gwneud yn anhygoel o dda yn yr etholaeth?
Un i fod yn weddol sicr o gael o leiaf un aelod etholedig?
Dau neu dri i sicrhau nad ydy'r blaid ddim yn colli allan ar uchafswm ei obeithion trwy i bumed a chweched ymgeisydd "dwyn pleidleisiau" oddi wrth aelodau eraill y blaid?

A chwestiwn bonws ar dactegau. Ydy pleidiau yn hyrwyddo un ymgeisydd yn fwy nag un arall? A ydynt yn awgrymu mae hwn a hwn dylid cael dy bleidlais rhif un, a hon a'r llall dy ail a dy drydedd bleidlais?
Fel arweinydd Plaid y Brechdan Jam mi fyddai'n embaras mawr i mi pe bawn yn crafu'r chweched sedd a rhyw Jên Jones dinod o'm mhlaid yn curo'r sedd gyntaf.!
Be mae Pleidiau yn gwneud i osgoi'r fath sefyllfa? Os ydynt!

menaiblog said...

Mae gen ti cymaint o bleidleisiau ag wyt eisiau eu hymarfer i fyny at nifer yr ymgeiswyr. Ond rhaid i ti eu gosod mewn trefn 1,2,3 ac ati.

Ni fyddai pleidiau yn cynnig yr un faint o ymgeiswyr na sydd yna o seddi - mae'n dactegaeth sal i rannu dy bleidlais yn rhy fan. Gan amlaf ti'n cynnig yr un faint o ymgeiswyr na ti'n gobeithio eu bod am ennill neu un yn fwy na hynny.

Y gamp dactegol ydi cael dy holl ymgeiswyr efo'r un faint o bleidleisiau cyntaf (fwy neu lai) - felly ti'n hollti'r etholaeth yn ddau, tri darn cyfartal neu beth bynnag ac yn argymell i bobl yn y rhannau hynny i fotio mewn ffordd sy'n hyrwyddo'r canlyniad hwnnw.

Guto Bebb said...

STV yn werth ystyriaeth os y byddai newid sylfaenol yn digwydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Serch hynny, ni fyddwn am gefnogi 80 aelod.

Mae 60 yn fwy na digon o dderbyn nad bod yn weithiwr cymdeithasol yw prif ddiben Aelodau Cynulliad. Byddai hynny wedyn yn rhyddhau Dydd Llun, prynhawn Iau a Dydd Gwener i wneud ychydig mwy o waith yn y Senedd.