Tuesday, November 10, 2009

Moesoli gwleidyddol y proffwyd o Faenofferen

Mae’r blog yma wedi tynnu sylw sawl gwaith at barodrwydd anarferol Llais Gwynedd i foesoli tra’n gwleidydda, ac wedi ceisio cynnig eglurhad am hynny – sef bod syniadaeth sylfaenol y grwp wedi ei seilio ar gasineb tuag at un blaid yn benodol, a bod casineb yn haws o lawer i’w ddeall a’i fynegi mewn termau moesol nag ydyw mewn unrhyw ffordd arall. ‘Dwi wedi bathu term am y wleidyddiaeth bach simplistig yma – Gwleidyddiaeth yr Anterliwt. Gweler yr eglurhad yma, ac yma.



Mae’r blogiad bach rhyfedd yma gan y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts yn esiampl penigamp o’r hyn ‘dwi’n ei feddwl. Ymateb mae Gwilym i dri llythyr beirniadol o safbwynt Llais Gwynedd ynglyn a gweithredu argymhellion panel annibynnol i gynnig codiad cyflog i rai o swyddogion Cyngor Gwynedd.* Rydym wedi edrych yn frysiog ar y mater yma. Os ‘dwi’n deall dadl Llais Gwynedd, nid ydynt yn credu y dylid gwireddu’r addewid i weithredu argymhellion y panel oherwydd bod yna ddirwasgiad ac na ddylai neb fotio i Blaid Cymru oherwydd i holl gynghorwyr y blaid honno bleidleisio yn groes iddyn nhw. ar y mater.


Rwan mae’r tri llythyr - un gan Arweinydd y Cyngor, Dyfed Edwards, un gan un o gynghorwyr y Lib Dems , Steve Churchman a’r llall gan Huw Roberts o Gaernarfon oll yn eu ffordd eu hunain yn lythyrau effeithiol iawn. Gellir gweld llythyr Dyfed yma, ac un Huw yma. Fedra i ddim dod o hyd i un Steve ar y We, sy’n anffodus – mae’n lythyr hynod effeithiol. Yn sicr maent yn llawer mwy effeithiol na’r sterics o ddadl mae Gwilym yn ei stwffio ger ein bron.


Mae’r ddau gynghorydd yn rhoi’r penderfyniad yn ei gyd destun – ei fod yn rhan o becyn ehangach sy’n arbed tua £1,000,000 i’r Cyngor yn flynyddol, bod y Cyngor wedi comisiynu arolygiad annibynnol o amodau gwaith, cyfrifoldebau a chyflogau eu swyddogion, bod swyddogion Gwynedd ymysg y rhai sy’n derbyn y cyflogau isaf yng Nghymru, y bydd y cyfryw swyddogion yn dal i dderbyn llai na’r cyflog cyfartalog Cymreig, nad ydi’r prif swyddog yn derbyn codiad cyflog o gwbl a bod ei gyflog o gyda’r isaf yn y wlad. Mae dadl Huw hefyd yn un hynod berthnasol – bod goblygiadau ehangach i gyflogaeth yng Ngwynedd o dderbyn y ddadl y dylai swyddogion Gwynedd derbyn llai o gyflog na swyddogion mewn unrhyw ran arall o’r wlad..


‘Dydi Gwilym ddim yn trafferthu ceisio ateb cymaint ag un o’r pwyntiau sy’n cael eu codi, ond yn hytrach mae’n dweud bod yna rhyw gynghorwyr o ran arall o Gymru wedi cytuno efo’i safbwynt o ar ol clywed ei fersiwn o o’r stori, a bod Steve a Dyfed yn bobl anfoesol beth bynnag, ac na ddylid cymryd sylw o’u safbwyntiau am y rheswm hwnnw. Mae o hefyd yn taflu amheuaeth ar grebwyll y tri.


Mae’n debyg gen i ei bod yn fwy cyffredin dod ar draws moesoli mewn addoldy nag ydi hi mewn dadl wleidyddol ynglyn a strwythurau cyflogaeth, ac mae blogiad Gwilym yn mynd a fi yn ol at y tro cyntaf ‘dwi’n gallu cofio clywed moesoli cynhoeddus.


Roeddwn yn blentyn mewn offeren yn Eglwys Babyddol Caernarfon rhywbryd yn ystod chwe degau’r ganrif ddiwethaf. Roedd rhywun neu’i gilydd wedi tynnu sylw offeiriad y plwyf, y diweddar Dad Macnamara bod Post Bach, neu Post Coch fel mae’ cael ei alw weithiau, ar ben Stryd Llyn wedi dechrau gwerthu cylchgronau megis Playboy a Mayfair. ‘Doedd y Tad ddim yn cymeradwyo – aeth ati i rybuddio ei braidd i gadw’n gwbl glir o’r sefydliad cwbl ‘anfoesol’ dan sylw. Ond roedd gwahaniaeth rhwng y moesoli yma a moesoli Gwilym – roedd cyd destun iddo, ac roedd egurhad o’r rhesymau tros yr anfoesoldeb – roedd cynhyrchu, prynu neu werthu cylchgrawn o’r math yma yn groes i ddysgeidiaeth yr Eglwys ynglyn a bywyd teuluol, roedd yn sarhad ar ferched ac roedd yn bwrw sen ar y Forwyn Fair. Hynny yw roedd y moesoli yn digwydd mewn cyd destun athronyddol oedd yn gyfarwydd iawn i’r sawl oedd yn gwrando.


‘Dydi Gwilym ddim yn trafferthu i geisio sefydlu cyd destun – mae o’n dweud wrth bobl beth sy’n foesol a beth sydd ddim yn foesol – yn union fel proffwyd, neu Dduw ei hun. Nid fo ydi’r unig un – mae yna nifer ohonyn nhw wrthi’n ystumio proffwydi’r Hen Destament. Er enghraifft mae gen i gof o glywed un arall o’u cynghorwyr yn honni ei bod ‘bron yn anfoesol’ i hel biniau pob pethefnos yn hytrach na phob wythnos .


Mae moesoli gwleidyddol yn digwydd yn ehangach o lawer nag yng ngwleidyddiaeth Pwmp y Plwyf Gwynedd wrth gwrs. Mae’n weddol gyffredin i wleidyddion a llywodraethau wneud defnydd o foesoldeb lled gytuniedig i gau dadl wleidyddol. Er enghraifft mae rhai o unbeniaethau’r Dwyrain Canol ar hyn o bryd yn gwneud cam ddefnydd o foeseg Islamaidd i reoli ei poblogaethau. Maent yn dewis hyrwyddo dehongliad mor gaeth o’r Koran fel ei bod yn bosibl gweld barn wleidyddol amgen i’w un nhw eu hunain fel un sydd yn ei hanfod yn anfoesol. Roedd rhywbeth tebyg yn digwydd gydag unbeniaethau yn Ne America – roedd athroniaeth a moeseg Pabyddol yn cael eu cam ddefnyddio mewn ffordd wleidyddol i gau dadleuon gwleidyddol ac i erlid pobl oedd a chredoau gwleidyddol amgen. Bydd amrywiaethau ar hyn yn digwydd mewn cyfundrefnau democrataidd weithiau – mae gweithgareddau bach y Seneddwr McCarthy yn esiampl o hyn.


Rydym wedi son yn frysiog am Islam a Phabyddiaeth, ac wedi cyfeirio at y systemau moesol sydd ynghlwm a’r crefyddau (neu’r athroniaethau) hyn. Rwan, dydym ni ddim yn gorfod cytuno efo athroniaeth na moeseg y naill grefydd na’r llall i gydnabod eu bod yn wydn – maent wedi goroesi am ganrifoedd maith ac wedi llwyddo i gynnal biliynau o ddilynwyr tros y cyfnod hwnnw. Mae’r rhesymau pam bod rhai crefyddau (a’r systemau moesol sydd ynghlwm a nhw) yn goroesi tra nad ydi eraill yn gwneud hynny yn gymhleth (ac yn fater i flogiad arall efallai). Yn fras maent wedi goroesi am eu bod yn apelio at bobl ar ddwy lefel – mae iddynt apel emosiynol yn ogystal a gwaelod deallusol. Rydym wedi cyffwrdd a hyn eisoes yma. Mae’r foeseg sydd ynghlwm a’r grefydd yn dderbyniol i bobl oherwydd ei bod wedi ei gwreiddio mewn system athronyddol ac emosiynol sy’n dderbyniol iddynt.


Daw hyn a ni at sylfaen deallusol moesoli Llais Gwynedd. Mae wedi ei seilio ar ‘foesoldeb’ sydd wedi ymddangos yn y Gymru a’r Brydain ol Brotestanaidd gyfoes, ac mae’n foesoldeb syml iawn. Gellir ei chrisialu mewn ychydig eiriau – ni ddylid gwneud dim sy’n gwneud rhywun arall yn drist - byth. Ceir amrywiaethau wrth gwrs – weithiau rydym i fod i osgoi peri tristwch i anifeiliaid neu goed neu beth bynnag – ond dyma yn sylfaenol ydi ‘moesoldeb’ llawer o bobl yng Nghymru heddiw. Dyma hefyd (yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain) y foesoldeb mae rhai o aelodau Llais Gwynedd yn cyfeirio ato pan maent yn defnyddio’r gair anfoesol – rhywbeth sy’n achosi tristwch i rhywun neu’i gilydd.


‘Rwan mae’n weddol amlwg i unrhyw un sy’n fodlon meddwl am ddau funud bod y foeseg yma yn – a bod yn garedig – anigonnol. Wnawn ni ddim mynd i drafferth mawr i egluro pam – dylai fod yn weddol amlwg bod ceisio peidio ag achosi tristwch i neb yn creu patrwm o resymu sy’n ei gwneud yn anodd i ni fynd i’r afael ag unrhyw broblem byth. Mae’n creu slwtsh deallusol.


Os ydych chi eisiau gweld y defnydd gwleidyddol o'r foeseg wag, ddiwerth yma ar ei mwyaf gogleisiol o chwerthinllyd edrychwch ar y blogiad yma gan a blogiwr gwrth Gymreig (a chyfranwr achlysurol a chydymdeimladol i flog Gwilym) Stonemason.


Mae’n dadlau na ddylai Cymru byth ennill annibyniaeth oni bai bod pob un person yn y wlad eisiau hynny – wedi’r cwbl meddyliwch am y tristwch y byddech yn ei achosi i’r un person sydd eisiau aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae’r cyfaill felly wedi llwyddo i ddefnyddio’r foesoldeb idiotaidd yma i roi feto iddo fo ei hun ynglyn a dyfodol cyfansoddiadol y wlad mae’n dewis byw ynddi.


Dydw i ddim yn dadlau am funud nad oes yna unrhyw le i foesoldeb mewn gwleidyddiaeth (mae rhyw fath o foesoldeb yn agos at wraidd gwleidyddiaeth pawb mae’n debyg gen i), ond dylid meddwl yn ofalus cyn gwleidydda a moesoli ar yr un pryd. Mae yna adegau pan mae hyn yn briodol - tueddiad llywodraethau Prydain i fynd i ryfela ar yr esgus lleiaf er enghraifft - ond prin ydi'r rheiny.


'Dydi ceisio cau dadl ynglyn a hel biniau, ad drefnu ysgolion, neu newid strwythur cyflogaeth ar sail 'moesoldeb' sydd wedi ei dynnu o nonsens o syniadaeth sydd yn ei thro wedi ei gwreiddio yng ngwacter ystyr y Gymru gyfoes ddim yn briodol – nag yn wir yn foesol. Cyfaddefiad o fethiant i gynnal dadl wleidyddol ydi gadael y maes gwleidyddol a cheisio ymladd ar dirwedd moesol hynod amheus.


* ‘Dydi Gwilym ddim yn ymateb yn dda iawn i feirniadaeth gan lythyrwyr yn y papurau newydd ,fel mae’r blogiad yma yn awgrymu, lle mae’n ymddangos i briodoli’r ffaith nad ydi pobl yn cytuno efo’i safbwynt ynglyn ag erlid Dafydd Iwan oherwydd ei drefniadau parcio, i’r ffaith eu bod mewn oed ac yn wrywaidd.

5 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Fel deilydd Portffolio Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd, dwi wedi bod yn ymwneud a'r mater cyflogauyma ers bron i flwyddyn yn dilyn ad-drefnu uwch reolaeth y Cyngor ddechrau Rhagfyr diwethaf.
Pan ad-drefnwyd y strwythur rheolaethol y pryd hynny, doedd DIM cytundeb yn ei le i godi cyflogau NEB. Comisiynwyd arolwg annibynol gan Gwmni Hayes i edrych ar y strwythur newydd gan gynnwys telerau ac amodau a chyflogau OND doedd dim rheidrwydd arnomni fel cynghorwyr i wneud DIM efo rhan neu'r holl o'r adolygiad hynny - Mi ddaru Prif Weithredwr y Cyngor gadarnhau hyn i gyd ar lawr y Cyngor wrth ymateb i gwestiynau gen i cyn i'r bledlais gymryd lle ar y mater.
Dechrau Medi wedi'r adolygiad ddod yn ol ar argymhellion cael ei gwneud gan Hayes...mi ddaru mi yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol gytuno i gyflwyno'r argymhellion. Tair wythnos yn ddiweddarach yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau yn ymwneud a thorriadau dirfawr roeddym fel Cyngor yn mynd i orfod gwneud, cyhoeddi cyllideb drafft y Cynulliad a chyhoeddiad Alastair Darling ar gyflogau uwch reolwyr yn y sector gyhoeddus, penderfynais nad cynnig y cyflogau newydd oedd y peth cywir i wneud.
Nodais hynny mewn e-byst at "Arweinydd" y Cyngor a'r Prif Weithredwr - ymateb yr "Arweinydd" oedd fy mygwth i beidio "chwarae politics" efo'r mater!
Ta waeth, dwi wedi gwenud fy safiad yn gwbwl glir gan fod yn mynd yn gwbwl groes i fy egwyddorion ac gan ei fod yn foesol yn anghywir yn fy marn i - cofia doedd DIM cytundeb o gwbwl mewn lle a dyna ble mae Churchman a Dyfed yn anghywir ar y mater gan eu bod yn gwneud allan bod cytundeb wedi ei lunio, doedd DIM ac mi ddaru'r Prif Weithredwr ddatgan hynny.
Unwaith eto ti'n fy nghyddo o gasineb tuag at dy Blaid - Ydi hynny yn golygu dy fod ti'n casau Llais Gwynedd, Llafur, y Toriaid a'r Lib.Dems? Gan dy fod wedi lladd ar nhw i gyd o bryd i'w gilydd ar dy flog. Tydi'r faith fy mod i yn herio ac yn dangos rhaio dy gyd aelodau ym Mhlaid Cymru i fod yn wleidyddion gwan, aneffeithiol ac ar adegau, di-egwyddor DDIM yn golygu fy mod i yn eu casau nhw na neb arall.
Na mae genai ofn Mr Larsen mai chdi sydd gan y broblem yn y fan yma...mae pawb yn iawn tra mae nhw yn cefnogi ac yn cytuno gyda Phlaid Cymru ond gwae fi ac unrhyw un arallos ydym ni yn anghytuno neu yn eich herio chi!

menaiblog said...

Diolch Gwilym.

Ymateb i lythyrau Dyfed a Steve mae swmp dy sylwadau yn hytrach nag i'r hyn rwyf fi yn ei ddweud ar dudalen flaen. Efallai y byddai wedi bod yn fwy priodol pe baet wedi 'sgwennu rhywbeth tebyg tra'n ymateb i lythyrau Dyfed a Steve, yn hytrach na chyhuddo'r ddau o anfoesoldeb.

O ran dy sylwadau am fy mlog, 'dwi'n derbyn un beirniadaeth sydd efallai ymhlyg yn yr hyn rwyt yn ei ddweud. Mae'r blog yma yn tueddu i syrthio rhwng dwy stol - weithiau mae'n ceisio bod yn ddadansoddol fel dyweder Syniadau, ac weithiau mae'n ceisio gwleidydda mewn ffordd mwy confensiynol fel Welsh Guerilla Warfare (heb fod cystal na'r naill na'r llall). Mae'r propoganda mwy amrwd felly'n tarro pobl sydd wedi arfer at y stwff llai unochrog a mwy dadansoddol yn chwithig, ac mi fydd yna beth drwgdeimlad yn codi o hynny.


Adlewyrchiad ydi hyn i raddau bod y byd blogio Cymraeg ei iaith yn fach, a dwinnau'n ceisio gwneud dau beth. Mae hefyd yn adlewyrchu'r ffaith nad ydw i'n rhy siwr beth 'dwi ei eisiau o'r blog. Mae'n debyg y bydd rhaid i mi benderfynu yn fuan.

Dydw i ddim yn derbyn bod fy ngwleidydda fi ar y We yn cymharu efo gwleidydda LlG ar y We a thu hwnt. Mae fy ngwleidydda fi yn debyg i llawer o flogwyr gwleidyddol eraill sy'n arddel safbwyntiau pleidiol. Mae'n adlewyrchu'r byd gwleidyddol go iawn i'r graddau nad oes iddo obsesiwn cul efo un blaid, ac un yn unig. Does yna ddim moesoli, a does yna ddim tueddiad i weld gwleidyddiaeth yn nhermau personoliaethau gwrthwynebwyr gwleidyddol.

Mae byd gwleidyddol LlG yn un afreal - lle na cheir ond LlG (da) a PC (drwg). Dydi pleidiau eraill prin yn cael dod i mewn i'r byd yma (oni bai pan maent yn pechu trwy dorri ar y ddelwedd fel y gwnaeth Steve). Cofier mai trydydd grwp mwyaf Cyngor Gwynedd ydi LlG mewn gwirionedd.

Dwi'n gwybod bod dy flog o bryd i'w gilydd yn beirniadu Llafur, yn gobeithio na chaiff y Lib Dems seddi yn etholiadau San Steffan ac yn ymosod ar Adam Price am fod yn gas efo'r Toriaid - ond eithriadau ydi'r pethau hynny.

rhydian fôn said...

Helo blogmenai, sut wyt ti ers tro? Dwi'n credu fod fy absenoldeb o'r blogosffer wedi digwydd cyd-daro gyda'r dydd pan mae polisi Llais Gwynedd, a Gwilym yn benodol, wedi cilio i fyd ffantasi llwyr. Mae Gwilym yn credu fod ad-drefnu ysgolion yn erbyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plentyn. Be' fedri di ddweud...

menaiblog said...

Helo Rhydian - gobeithio bod pob dim yn iawn efo chdi.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Rhydian - Gobeithio dy fod yn cadw'n iawn. Ble mae'r blog wedi mynd? Er nad ydym yn cytuno ar rhai pethau, dwi'n methu dy gyfraniadau i'r dadleuon ar y blogosffer.
Mae anghytuno gyda Cai yn unig yn chydig yn ddiflas hefyd..felly tud yn ol plis!
Hwyl am y tro a chofion gorau.
Gwil