Monday, November 02, 2009

Ydi Edwina o dan straen?


Fe gofiwch ras y crwbanod - y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig - sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers rhai canrifoedd bellach. Yn ol Vaughan mae'r crwban benywaidd o'r farn bod y Western Mail yn "Tory rag", y BBC yn "cael ei rhedeg gan Blaid Cymru" a bod busnesau yn "our class enemy".

'Dwi'n poeni am Dwi Dwis. Mae'r blog hwn eisoes wedi trafod perthynas losgachol y Bib a'r Blaid Lafur Gymreig. Byddai'r syniad bod Trinity Mirror yn Doriaidd yn ddigri oni bai ei fod yn dod o gyfeiriad rhywun sydd eisiau arwain y wlad, a dydw i ddim yn gwybod beth i'w feddwl am y datganiad syfrdanol bod byd busnes yn elyn i blaid Michael Levy,Geoffrey Robinson, David Sainsbury, Barry Ecclestone, Gulam Noon, David Garrard, Chai Pate, Richard Caring, Christopher Evans, Rod Aldridge ac ati, ac ati.

Y mwyaf yn y byd 'dwi'n meddwl am y peth y mwyaf argyhoeddiedig ydw i nad ydi Dwi Dwis lawn llathen ar hyn o bryd - os ydi stori Vaughan yn wir. Os nad oes yna lechen bach ar goll oddi ar ei tho, yna fi ydi brenin Sbaen, Tony Blair ydi'r dyn mwyaf gonest yn Lloegr, Llais Gwynedd ydi plaid fwyaf deallusol Ewrop, David Melding ydi Obama gwleidyddiaeth Cymru, Elinor Burnam fydd arweinydd nesaf Lib Dems Prydain, David Davies ydi'r Cymro gorau ers Emrys ap Iwan a blog Ceidwadwyr Aberconwy ydi'r fangref fwyaf poenus o besimistaidd ar y We.

2 comments:

Aled G J said...

Cai- Dwi ddim cweit yn deall pam fod Edwina yn gymaint o gocyn hitio gen ti! O ran llwyddiant y prosiect cenedlaethol,mae'n rhaid wrth ddwy elfen greiddiol yn fy marn i, gyda'r naill a'r llall ynghlwm a'i gilydd i bob pwrpas. g Yn y lle cyntaf, symud tuag at mwy o bwerau yng Nghaerdydd cyn gynted a phosib, ac yn ail gwanio dylanwad yr Aelodau Seneddol ar y broses honno.O'r tri ymgeisydd- dim ond Edwina y byddwn i yn ymddiried ynddi i wneud yr uchod.

Ac o ran ei sylwadau ar yr hystings- wel siawns y gelli di dderbyn bod rhaid wrth rhai negeseuon neilltuol ar gyfer cynulleidfaoedd neilltuol! Does dim rhaid credu mai dyna'n union y mae'r negesydd yn ei gredu go iawn!

Cai Larsen said...

'Dwi ddim yn anghytuno efo chdi a dweud y gwir - pe byddai gen i bleidlais iddi hi y byddwn yn pleidleisio.

erch hynny mae'r sylwadau yn gwneud iddi swnio'n 'unhinged', hyd yn oed mewn hystings plaid sy'n dioddef o paranoia ar hyn o bryd.