Thursday, November 26, 2009

Ydi'r Blaid Doriaidd Cymreig yn blaid addas i glymbleidio a hi?

Mi'r oeddwn i'n rhyw gefnogol i'r syniad o Glymblaid yr Enfys - hy un rhwng Plaid Cymru, y Lib Dems a'r Toriaid - ond 'dwi wedi newid fy meddwl ers hynny, yn bennaf oherwydd i gytundeb Cymru'n Un symud achos Cymru yn ei flaen cymaint. Trafodwyd hyn yma.

Mae'r blogiad yma gan Geidwadwyr Aberconwy yn atgyfnerthu fy marn. Y broblem efo'r Toriaid (a'r pleidiau unoliaethol eraill i raddau llai) ydi eu bod yn ddall i'r ffaith bod tan berfformiad economaidd Cymru yn ganlyniad anochel i'r ffaith ein bod yn cael ein trin fel rhanbarth o wlad arall. A chymryd y myopia yma i ystyriaeth, am wn i ei bod hi'n hollol ddealladwy bod Ceidwadwyr Aberconwy yn credu y dylai Plaid Cymru fod wedi tynnu allan o'r glymblaid oherwydd i hanner y cynnydd mewn diweithdra yn y DU ddigwydd yng Nghymru y mis diwethaf (er bod y cynnydd wedi bod yn gymharol isel yn gynharach yn ystod y dirwasgiad wrth gwrs).

Mae'n dilyn felly, am wn, i y byddai'r Toriaid wedi tynnu allan o 'Gytundeb yr Enfys' petai newyddion drwg economaidd cyffelyb wedi dod i'r fei - ac mae newyddion drwg economaidd yn rhywbeth sy'n tarro pob llywodraeth rhywbryd neu'i gilydd - hyd yn oed yn ystod amserau 'da'.

Efallai nad ydi'r Toriaid eto'n aeddfed i bleidiau eraill ystyried mynd i lywodraeth efo nhw - byddai'r olwynion yn syrthio oddi ar y wagen lywodraethol gyda y byddai cwmwl du yn ymddangos yn y ffurfafen wleidyddol, gan adael y wlad yn ddi lywodraeth. 'Dwi ddim yn meddwl y byddwn i eisiau partner felly mewn llywodraeth.

12 comments:

Guto Bebb said...

Blogiad anonest Cai (ai dyna pam i ti beidio cynnig linc?) Trafod blaenoriaethau dy blaid oedd fy nghyfraniad - mae dy sylwadau yn fwriadol osgoi y cyd-destun fe fyddwn yn honni. Dim byd newydd efallai ond yn sicr yn fwy 'blatant' nac arfer.

Dwi hefyd yn dotio at dy sylw am effaith Prydain ar sefyllfa economaidd Cymru. Falle fod modd i ti ddadlau dy achos fan hyn ond tydi dy safbwynt ddim yn ddatganiad o ffaith. Dy farn di sydd yma, dim mwy a dim llai.

Beth sy'n hollol amlwg serch hynny yw methiant y Cynulliad i ymateb i'r dirwasgiad sydd ar ein dwylo. Ddechrau'r haf yr oedd rhai o aelodau dy Blaid o'r Cynulliad (megis Chris Franks) yn honni fod arafwch y twf mewn diweithdra yn adlewyrchu polisiau Plaid Cymru a Ieuan Wyn. Lol botes maip ond dyna ni. Bellach gyda Cymru'n brysur fynd i frig rhestr rhanbarthau a gwledydd Prydain o ran di-weithdra mae Chris Franks yn ddistaw a mae Blog Menai yn honni (fel petae'n ffaith) fod hyn yn ddim oll i wneud a Phlaid Cymru yn y llywodraeth ond yn adlewyrchiad o fodolaeth economi Prydeinig.

Y ffaith yw fod 50% o'r cynnydd mewn di-weithdra ym Mhrydain wedi digwydd yng Nghymru yn y cyfnod diweddar (5% yw'r siar o'r boblogaeth).

Y mae'n ffaith fod arian Ewrop wedi ei wastraffu gan Lywodraeth y Cynulliad dan Lafur (fel y nododd sawl aelod amlwg o Blaid Cymru) ond y mae'r gwastraff dan y trefniadau presennol yn saith gwaeth.

Y mae'n ffaith fod arian sylweddol gan y Cynulliad (ac o Ewrop) wedi ei wario ar Proact a React ond gyda nesa peth i ddim effaith yng Ngogledd Cymru (a diawl o ddim yn Sir Conwy).

Y mae'n ffaith fod trethi busnes am godi er gwaethaf addewid dy Blaid adeg etholiad 2007 na fyddai hynny'n digwydd.

Mae'n ffaith fod gwariant llywodraeth ar dwristiaeth wedi hanneru mewn pum mlynedd. Yn 2007 bu i dy Blaid honni y b yddai hyn yn newid - mewn llywodraeth gwnaethpwyd dim.

Y mae'n ffaith fod Canolbarth Cymru (gan gynnwys Meirion) wedi bod heb wasanaeth cynghori busnes am naw mis oherwydd methiannau adran arweinydd Plaid Cymru (a hynny mewn cyfnod o golli busnesau a swyddi yn y rhanbarth).

Fe allwn fynd ymlaen ond mae'r neges yn syml. Er gwaethaf yr holl fethiannau hyn dwi heb glywed gair o ymddiheuriad na chydnabyddiaeth o fethiant Cymru'n Un. Yr unig lwyddiant yw'r ffaith fod unig wir flaenoriaeth Plaid Cymru yn cael sylw - sef pleidlais ar symud ymlaen i Gam 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

I fynd yn ol at fy mlogiad mae bod yn fodlon diweddu llywodraeth mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd dybryd dros fater technegol o amseriad pleidlais ar gymal o Ddedff Llywodraeth Cymru 2006 yn dangos diffyg gallu i flaenoriaethu anghenion pobl Cymru dros obsesiwn pobl fel ti - sef statws cyfansoddiadol Cymru.

Dwi'n edrych ymlaen i glywed gwleidyddion ac ymgeiswyr dy Blaid yn amddiffyn y fath flaenoriaethau. Falle fod hynny'n hawdd mewn blog gyds swydd dda a ddiogel yn dy ddisgwyl bob dydd ond mewn etholaeth megis Aberconwy lle mae hunan-gyflogaeth yn brif gyflogwr dwi'n amheus os y bydd blaenoriaethau dy Blaid yn y Cynulliad yn adlewyrchu y materion hynny sy'n poeni pobl go iawn.

Y Ceidwadwyr yn anaeddfed - tyrd lawr o dy dwr ifori Cai.

menaiblog said...

Helo Guto - mi'r oeddwn i'n gwybod mai ti oedd yna cyn i mi weld dy enw - y gair 'anonest' oedd y gifawe. Efallai y gwnaf ymateb rai o dy bwyntiau os caf amser - a rhoi'r linc yn ei lle wrth gwrs.

Guto Bebb said...

Wel mae'n dda gweld dy fod yn derbyn y pwynt - a da hefyd fod y linc bellach mewn lle.

Guto

menaiblog said...

'Dwi'n sicr yn derbyn y cyhuddiad o anonestrwydd yn yr ystyr unigryw rwyt ti'n defnyddio'r ansoddair - hy:

gonest = cytuno efo Guto
anonest = anghytuno efo Guto.

Mae'r blog yma'n un croesawgar, a dwi'n fwy na pharod i adael pobl ddefnyddio eu dehongliadau bach ecsentric o ystyr geiriau yma.

Gyda llaw, pe na byddai'n fwriad gennyf gynnwys y linc, pam wnes i ddefnyddio'r gair yma?

menaiblog said...

Gyda llaw - dy farn di ydi bod y DU yn well y tu allan i'r Ewro - barn sydd ddim yn cael ei chefnogi gan dystiolaeth ystadegol ar hyn o bryd mae gen i ofn.

Guto Bebb said...

Anonest Cai gan i ti'n fwriadol droelli'r gwir. Anonest gan i ti (am y tro cyntaf i mi sylwi) osgoi linc.

Dwi'n sylwi hefyd ar dy dacteg arferol. Ti'n fwriadol fynd ar ôl sgwarnogod yn hytrach na craidd y pwynt a wnaethpwyd. Dim byd newydd ond troelli anonest ydi hyn hefyd.

O ran dy farn am yr Ewro :-). Wrth gwrs mae mater o farn ydi a fyddai'n well i ni fod o fewn yr arian sengl ar hyn o bryd ond ystyria y mater o ddifrif am funud bach;

Fydde Iwerddon yn y twll hwn onibai am y dewis o fod ym mharth yr Ewro?

A fydde Sbaen yn y twll hwn o fod wedi dewis peidio bod ym mharth yr Ewro?

A fydde Gwlad Groeg mewn sefyllfa cweit mor druenus o fod wedi cadw allan o'r Ewro?

Ac hyd yn oed o dderbyn fod yr Almaen a Ffrainc bellach yn dangos twf economaidd y mae'n parhau'n ffaith fod cwymp yr Almaen eleni wedi bod yn fwy na'r DU (sy'n go rhyfeddol o ystyried 12 mlynedd o lywodraeth Lafur) tra fod dyled genedlaethol Ffrainc a'r Eidal eisioes yn weddol agos at 'worse case scenarios' Llywodraeth y DU.

Fydde hi'n well arnon o fewn yr Ewro? Dwi'n sicr na fydde hi ond fel ti'n dweud mater o farn ydi hynny. Yn wahanol i dy honiad rhyfeddol am wendid economi Cymru = gwladwriaeth Prydain dwi o leiaf wedi ymdrechu'n frysiog i gynnig esiamplau o pam fod dy haeriad am yr Ewro yn dangos mwy am dy ragfarn di na unrhyw dystiolaeth.

O, un peth arall. Dan John Major yr oedd Cymru yn gyson y rhanbarth / wlad gyda'r nifer mwyaf o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu trwy Brydain. Ers dyfodiad y Cynulliad fe gafwyd cwymp cyson. Bellach gyda Plaid Cymru a IWJ wrth y llyw yr ydym ar waelod y domen (ONS) - y gwanaf o'r 11 rhanbarth / gwlad ym Mhrydain yn 2008.

Blwyddyn o IWJ ac mae gwendidau trefniadau cefnogi menter yng Nghymru wedi ei dangos yn gwbwl bendant.

Ffaith arall i ti gnoi cil arni. Da fyddai cael ymateb gennyt yn hytrach na mwy o droelli a dewis anwybyddu craidd pwynt dyn er mwyn trio sgorio pwyntiau (pwyslais ar y gair trio).

menaiblog said...

Darllen beth ddywedaist ti:

Bu i Blaid Cymru fygwth gadael y llywodraeth nid oherwydd bod hanner y cynnydd mewn diweithdra Prydeinig wedi digwydd yng Nghymru'r mis diwethaf ond oherwydd bod Llafur Cymru yn hanner awgrymu na ddylid blaenoriaethu pleidlais ar bwerau pellach.



Nid bywydau pobl Cymru sy’n poeni Plaid Cymru a Llafur yn y Cynulliad ond yn hytrach yr angen i gadw eu pleidiau eu hunain yn hapus yn achos y cwestiwn cyfansoddiadol.

Mae o leiaf yn awgrymu'n gryf y byddai gadael y glymblaid yn dderbyniol am resymau economaidd, ond na fyddai'n dderbyniol oherwydd i Lafur ddileu refferendwm ac felly dorri'r Cytundeb. Na?

Fel mater o ddiddordeb Guto, sut wyt ti'n egluro tan berfformiad parhaol (fwy neu lai) Cymru yn economaidd. Dim i wneud a'n statws cyfansoddiadol - iawn. Dim byd i wneud efo'r ffaith bod pob penderfyniad strategol economaidd pwysig yn cael eu cymryd mewn gwlad arall - iawn.

Beth felly? - ydan ni'n ddiog, yn ddwl, yn ddi antur, yn barhaol anlwcus, yn dwyn pres ein gilydd, yn treulio ein hamser i gyd yn yfed a hel merched? Neu efallai ein bod ni jyst yn ddi glem

Beth wyt ti'n feddwl Guto? A phaid a beio'r sector gyhoeddus - symptom ydi hwnnw, nid achos.

Guto Bebb said...

Yn y man cyntaf Cai ti'n defnyddio un paragraff eto allan o gyd-destun fy mlogiad. Troelli ydi hynny eto a ti'n ddigon call i wybod hynny. Pwynt fy mlogiad (fel y gwyddost) oedd fod bygythiadau dy Blaid yn dangos blaenoriaethau dy Blaid. Wyt ti o ddifrif yn anghytuno?

O ran diffygion economaidd Cymru - dibyniaeth lwyr ar wladwriaeth yn hytrach na menter. O fod yn un o ranbarthau cyfaethocaf Prydain fe fu i'r Gymru sosialaidd lyncu'r syniad fod y wladwriaeth yn gwybod yn well.

Yr oedd gwladoli diwydiant trwm yn gangymeriad economaidd enbyd. Yr oedd y syniad o gynllunio gwladwriaethol yn greiddiol i gwymp perfformiad economaidd Cymru gan greu y syniad fod achubiaeth economaidd yn dod trwy bolisi llywodraeth ac nid trwy ddatblygu economi hyderus rydd.

Gyda difodiad y wladwriaeth gynhyrchu fe gafwyd twf yr economi trafod gwaith papur i'r graddau sy'n golygu fod rhannau helaeth o Gymru bellach yn fwy dibynnol ar y pwrs cyhoeddus na rhanbarthau o Ddwyrain yr Almaen yn 1989.

O ran natur y Cymry. Dwi'n plygu i neb yn fy hyder yn ein cyd-Gymry ond nid felly unigolion megis Adam Price oedd yn un o hoelion wyth Menter a Busnes a sefydlwyd (ac sy' dal i ddenu cyllid cyhoeddus) ar y sail fod Cymry Cymraeg yn ddi-fenter. Ond boed hynny fel y bo, y gwir plaen yw fod y 'sympton' fel ti'n honni, sef y sector gyhoeddus anferthol sy'n dyddio'n ôl i gangymeriadau sosialaidd y 40au hwyr, yn rhan allweddol o'r broblem.

Yn fras ers degawdau swyddi a gyrfaoedd dan ofal y llywodraeth yw'r dewis saff wedi bod i Gymry o bob math. Yr oedd y pyllau glo a'r diwydiant dur yn swyddi diogel (yn eu cyfnod) gyda chyflogau oedd yn adlewyrchu blaenoriaeth llywodraeth yn hytrach na gofynion y farchnad. Oherwydd hynny yr oedd y cyflogau (dan law yr undebau) yn gymharol uchel gan leihau'r angen i greu cyflogaeth amgen.

Fel gyda glo a dur yn y cymoedd felly hefyd gyda gweinyddiaeth gyhoeddus, iechyd ayb heddiw. Pam mentro yng Ngwynedd os oes cyflog da, pensiwn cadarn ac amodau gwaith gwych ar gael yn y Cyngor Sir / Prifysgol / Gwasanaeth Iechyd / Gweinyddiaeth Gyhoeddus?

Yr un yw'r broblem er fod natur y gyflogaeth wedi newid. Yr effaith yw'r hyn y byddai economegwyr yn ddisgrifio fel 'crowding out the private sector'. Yma yng Ngwynedd cwyn gyson busnesau twf (ac mae nhw'n brin) yw fod denu staff yn anodd os nad amhosib oherwydd y gystadleuaeth gan gyflogau ac amodau gwaith y sector gyhoeddus. Tydi hyn ddim yn gwyn newydd - yr oedd yn debyg iawn i'r sefyllfa yn rhanbarthau diwydiannol Cymru wrth i weithwyr y diwydiant glo / dur ymladd dros barhad swyddi da nid oherwydd mai dyna oedd ei angen ar yr economi Gymreig ond oherwydd y dymuniad (hollol ddealladwy) i gadw eu swyddi er nad oedd galw o fath yn y byd am eu cynnyrch.

Heb fenter, heb economi. Problem Cymru ers trigain mlynedd a mwy yw ein bod wedi bod yn ddigon di-asgwrn cefn i dderbyn fod achubiaeth i ddod trwy'r wladwriaeth yn hytrach nag ymdrechion unigolion.

Heb herio'r Gymru gyfforddus yma o swyddogion cyhoeddus, athrawon, gweithwyr iechyd, gweithwyr llywodraeth leol ayb economi ddibynnol fydd Cymru dim ots pwy fydd yn llywodraethu nac o lle.

Guto Bebb said...

Gyda llaw, dwi newydd sylwi ar dy sylw am benderfyniadau economaidd pwysig yn cael eu gwneud mewn gwlad arall. Megis cyfraddau llog Iwerddon yn cael eu penderfynu yn Frankfurt?

Dwi ddim yn siwr os mae bod yn eironig oedd dy fwriad ond mae awgrymu y dylem fod yn aelodau o'r Ewro cyn wedyn ddilyn hynny gyda'r honiad fod gwendidau economi Cymru yn tarddu o ddiffyg rheolaeth dros benderfyniadau strategol bwysig yn, wel, rhyfedd?

Wrth gwrs, mae'n debyg fod dy agwedd yn fwy i'w wneud gyda agwedd dy blaid (a rhai o wleidyddion Iwerddon o ran hynny) oedd yn gweld yr Ewro a rheolaeth economaidd o Frankfurt fel cyfle i godi dau fys ar Brydain. Mae Iwerddon wedi talu'n ddrud i gael bod yn rhan o fenter yr Ewro ac fe ymddengys na fyddai dy hyder di mewn gwneud penderfyniadau strategol yn dy wlad dy hun yn parhau am hir o ystyried agwedd dy Blaid at ymuno gyda'r arian sengl a bod yn rhan o bolisi economaidd Frankfurt.

menaiblog said...

Dduw mawr Guto, mae Cymru'n tan berfformio erioed, nid canlyniad i feirws a dreiddiodd weithiennau pawb (yng Nghymru, ond nid yn Lloegr ymddengys) ym 1945 ydi'n problemau ecomomaidd.

Canlyniad i fethiant economaidd ydi sector gyhoeddus fawr yng Nghymru - nid achos trosto.

Hyd yn oed ar dy dermau dy hun, canlyniad i'r berthynas efo'r wladwriaeth les, economi ganolog ac ati sydd wrth wraidd problemau economaidd Cymru. Pethau digon Prydeinig ydi'r rheiny yn y bon.

Roedd yna eironi yn y sylw am benderfyniadau yn cael eu cymryd mewn gwledydd eraill - ti'n eiddigeddus iawn o'r pwerau mae Prydain yn eu colli - ac yn cyfiawnhau hynny ar sail economaidd yn bennaf. Ond ti'n llai eiddigeddus o ddiffyg hawliau Cymru. Ti'n meddwl ein bod yn well heb yr hawliau oherwydd y feirws sosialaedd sy'n cerdded ein gweithienau - ond canlyniad i'r ffaith ein bod yn rhan o'r wladwriaeth Brydeinig ydi hwnnw - yn llwyr.

Guto Beb said...

Na Cai, tydi Cymru ddim wedi tan berfformio erioed. Ond yr ydym wedi gwneud hynny'n gyson ers dirwasgiad y tridegau ac yn bendant ers dyfodiad y wladwriaeth economaidd.

Rhethreg nid dadl yw gweddill dy ymateb yn anffodus.

menaiblog said...

'Dwi'n cymryd mai cyfeirio at Oes Victoria a'r ychydig ddegawdau cyn hynny wyt ti, ac nad ydi hyd yn oed Tori yn dadlau bod y Canol Oesoedd (er enghraifft) yn ffyniannus o ran economi Cymru.

Byddaf yn gwneud gwaith efo'r plant o bryd i'w gilydd ar longau Porthmadog yn Oes Fictoria. Canlyniad i fega gyfalafiaeth perchnogion tir chwareli'r Blaenau oedd agor y doc yn Port - ond roedd y diwydiant llongau yn gynhenid.

Roedd y llongau yn cael eu hadeiladu yn lleol gan gwmniau lleol, cyfalaf lleol fyddai'n talu amdanynt, byddant yn cael eu yswirio'n lleol, yn cyflogi morwyr lleol, byddai llawer o'r celfi adeiladu llongau yn cael eu gwneud yn lleol a byddai'r elw a wneid o forio i bedwar ban byd yn cael ei ail fuddsoddi'n lleol.

Rwan roedd is strwythur ariannol lleol (a llai lleol yn y porthladdoedd mawr) o gwmpas llawer o borthladdoedd Cymru. Yn y pwyntiau hynny o'r wlad lle gellid allforio cyfoeth ar ffurf deunyddiau crai roedd cyfundrefn gyfalafol wedi datblygu.

Ond wnaeth o ddim parhau - roedd yn ddibynnol ar lo, haearn a glo. Roedd hefyd yn ddibynnol yn achos porthladdoedd y Gogledd ar ddiffyg cysylltiad rheilffordd efo Lerpwl. Gyda y byddai hwnnw'n cael ei agor byddai'r holl is strwythur yn crebachu a marw. Cledrau rheilffordd oedd y cargo olaf i'w gludo i Borthmadog.

Ti'n gywir - roedd rhannau o'r wlad yn ffynnu ar adegau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond roeddynt yn dioddef yn enbyd ar adegau eraill - boom & bust 19C style. Roedd yr economi yn gwbl ddibynnol ar bris nifer fechan o commodities ar farchnadoedd byd eang.

Y gor ddibyniaeth yma a ddaeth a'r wlad i'w gliniau yn ystod y dirwasgiad - a'r ffaith bod cymaint o'n pobl yn gweithio mewn diwydiant trwm yn ystod y cyfnod hwnnw - a'u canfyddiad o bwy oedd yn edrych ar eu holau ac ar bwy roedd y bai am eu sefyllfa oedd un o'r ffactorau a greodd y diwylliant gwleidyddol sydd wedi tra arglwyddiaethu yng Nghymru o'r amser hynny hyd rwan.

Canlyniad ein profiad o gyfalafiaeth Prydeinig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydi'r diwylliant hwnnw.