Syniadau ydi un o fy hoff flogiau - a 'dwi'n cytuno efo fo o leiaf 90% o'r amser. Serch hynny 'dwi ond yn rhyw hanner cytuno efo'r sylwadau hyn ar ddadl Peter Hain a Rhodri Morgan y gallai lleihau'r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig arwain at lai o Aelodau Cynulliad? 'Dwi'n cytuno efo'r prif bwynt - mai'r ffordd i amddiffyn Cymru oddi wrth yr hyn sydd o'n blaenau pan ddaw'r Toriaid i rym ydi trwy ddefnyddio'r Cynulliad i wneud hynny - nid trwy ddal gafael ar ambell i Aelod Seneddol. 'Dwi yn meddwl fodd bynnag bod Hain a Morgan efo pwynt.
'Dwi'n derbyn bod yna ormod o Aelodau Seneddol o lawer, a'i bod yn briodol i leihau eu nifer. Edrychwyd ar sut y gellid gwneud hynny yma. 'Dwi hefyd yn derbyn bod Hain yn falwr cachu o'r radd flaenaf, a bod ei ddadl ar yr wyneb yn nonsens llwyr. Yn wir, petai nifer yr etholaethau San Steffan yn cael eu torri ni fyddai'n rhaid ethol mwy o aelodau rhestr fel mae Syniadau yn awgrymu. Pan dorwyd y nifer Aelodau Seneddol yn yr Alban, cadwyd at yr hen etholaethau yn etholiadau Holyrood. Yn wir credaf i ambell i etholaeth newydd ymddangos - er enghraifft daeth Orkney & Shetland yn ddwy etholaeth yn hytrach nag un.
Yr hyn sydd yn fy mhoeni ydi na fydd y Toriaid eisiau gwanio San Steffan mewn cymhariaeth a'r Cynulliad. Mae eu hanes o wrthwynebu democrateiddio Cymru yn wirioneddol gywilyddus. Roeddynt yn gwrthwynebu sefydlu'r Cynulliad - ac roeddynt yn gwrthwynebu gadael i bobl Cymru gael mynegi safbwynt ar y mater - roedd Major, Redwood, Thatcher, Hunt a Walker yn gwybod yn well na phobl Cymru beth sy'n dda iddynt dach chi'n gweld.
Os ydan ni'n mynd yn ol mewn hanes (i'r gorffennol pell neu agos) mae'r Toriaid wedi bod yn blaid cwbl wrth ddemocrataidd mewn cyd destun Cymreig - ac mewn cyd destun ehangach na hynny. Eu patrwm arferol yng Nghymru ydi gwrthwynebu pob dim nes bod rhaid ildio- S4C, datganoli, sefydlu yr Eglwys yng Nghymru, y Swyddfa Gymreig. Adlewyrchiad ydi hwn o batrwm ehangach o wrthwynebu democratiaeth pan maent yn gweld hwnnw'n fygythiad i'r 'cyfansoddiad' Prydeinig - coleddu'r Ymerodraeth, gwrthwynebu ymestyn yr hawl i bleidleisio, gwrthwynebu hunan reolaeth i'r Iwerddon hyd yn oed pan roedd yn gwbl glir bod mwyafrif llethol eisiau hynny, gwrthwynebu hawliau cyfartal i Babyddion ac ati, ac ati.
Felly ydi hi'n bosibl y bydd y Toriaid yn ceisio gwanio'r Cynulliad pan fyddant mewn grym? Wel ydi siwr - mae'n sicr yn bosibl. Lleihau nifer yr ACau fyddai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hynny - ac mi fyddai lleihau nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig yn esgys da tros wneud hynny.
4 comments:
Dydw i ddim yn anghytuno 'da ti. Mae dau bwnc, a mae'n nhw'n wahanol i'w gilydd.
I mi, does dim cysylltiad angenrheidiol rhwng nifer o ASau yn San Steffan a nifer o ACau ym Mae Caerdydd. Yn wir, mae Rhestr 1 (Schedule 1) yn ddweud bod 'na reol 2:3 (nifer o AC = nifer o ASau + nifer o ASau rhanbarthol yng nghymhareb 2:1) ond mae'n hollol posibl newid nifer o ACau rhanbarthol drwy newid y Rhestr (gan ddefnyddio Statutory Instrument) heb newid y Ddeddf ei hun. Felly, roedd Rhodri Morgan yn gwneud mor a mynydd o beth sy'n gymharol hawdd i'w wneud.
Serch hynny, mae'n hollol bosibl i'r Toriaid lleihau'r nifer o ACau yn ogystal a'r nifer o ASau ... ond fel rhan o broses arall, os bydd rhaid.
Ond dim ond ail Fesur Llywodraeth Cymru wnaeth glymu nifer yr Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad at ei gilydd.
Doedd mesur Ron Davies yn 1998 ddim yn gwneud hynny.
I fod yn eglur mae'r awgrym y gallai nifer yr Aelodau Cynulliad ostwng oherwydd gostyngiad yn y nifer o Aelodau Seneddol ond yn bodoli oherwydd y mesur a luniwyd gan... Peter Hain!
Pam ar y ddaear y byddai'r Ceidwadwyr,wrth lunio eu mesur nhw eu hun, yn credu bod yn rhaid iddyn nhw dilyn "egwyddorion" mesur carbwl Hain?
Mae meddwl y dyn o'i hun a'i fesuryn yn dechrau cyrraedd lefel ffantasi!
Ymddengys fod Anhysbys wedi tarro'r hoelen ar ei phen. Mae Peter Hain yn pasio deddf sy'n creu cysylltiad pendant rhwng nifer Aelodau Seneddol Cymru a nifer Aelodau Cynulliad Cymru. Mae Blog Menai yn dod i'r casgliad felly fod Peter Hain yn gywir wrth nodi fod y Ceidwadwyr, pe byddent yn dilyn argymhellion deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn lleihau grym a democratiaeth y Cynulliad! You can't make it up!!!
Fe wyddom fod gan Blog Menai obsesiwn hyd at hysteria gyda'r Ceidwadwyr drwg ond mae canmol Peter Hain am nodi effaith ei ddedf ei hun yn dweud cyfrolau am barodrwydd Blog Menai i anwybyddu'r gwirionedd er mwyn trio ymosod ar y Ceidwadwyr.
Gyda llaw Cai, os am golli y refferendwm dwi'n awgrymu fod parhau i nodi, fel y gwnaeth Wigley fore Llun, y byddai refferendwm yn Hydref 2010 yn un am 'bwy sy'n rheoli Cymru' yn ffordd go dda o sicrhau trechu unrhyw gynnig i roi mwy o bwerau i'r Cynulliad. Dwi hefyd yn gweld y ddadl honno yn un sy'n awgrymu fod yna wendid sylfaenol yn yr achos dros fwy o bwerau.
Wedi'r cyfan, os mai ail fyw rhyw ryfel dosbarth o'r 80au yn erbyn y Ceidwadwyr yw'r unig ffordd i ennill pleidlais ar fwy o bwerau i'r Cynulliad y mae yna fwy nag awgrym efallai nad yw'r ddadl ddeallusol dros newidiadau yn un gref. Be ti'n feddwl?
Diolch Mr Bebb.
Os ddarlleni di'r darn yn ofalus fe weli mai ymysod ar record warthus dy blaid di parthed democratiaeth Gymreig yn hytrach nag achub cam Mr Hain oeddwn i.
O ran beth dwi'n feddwl, bydd rhaid i ti ddisgwyl diwrnod neu ddau mae gen i ofn - dwi ar y fordd i Gaerdydd. Mae deunydd blogiad eithaf swmpus yma.
Post a Comment