Monday, November 23, 2009

Hywel Williams unwaith eto


Yr economi oedd y pwnc y tro hwn, a'r prif gwyn (ymhlith eraill) oedd bod economi Cymru yn or ddibynnol ar gyllid cyhoeddus - gyda'r wlad wedi ei chlymu i deth yr hwch fagu gyhoeddus i raddau mwy nag unrhyw wlad arall y gallai Hywel feddwl amdani, ag eithrio Gogledd Iwerddon. Yn ol Hywel mae bron i ddwy draean o'r economi yn ddibynnol ar arian cyhoeddus. Mae'r canfyddiad yn wir - i raddau - ond mae hefyd yn arwynebol.

Big Pit, Blaenafon

I ddechrau 'dydw i ddim yn siwr pa mor berthnasol oedd y cyd destun a osodwyd i'r rhaglen. Er enghraifft, roedd y rhesymu bod y dirwasgiad a ddilynodd argyfwng olew'r saithdegau wedi arwain at ddifa diwydiannau mawr mwyngloddio a chynhyrchu'r wlad yn rhannol gywir. Gellir, fodd bynnag, ddadlau bod prisiau isel olew yn yr wythdegau a'r nawdegau mor bwysig i ffawd y diwydiant glo nag oedd prisiau uchel y saithdegau. Doedd yr ystadegau ynglyn a'r ganran o'r economi sydd yn gyhoeddus ddim yn cydnabod mai adlewyrchiad o'r ffaith bod yr economi Gymreig yn fach oedd hynny'n rhannol. Os ydym yn edrych ar bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae gwariant cyhoeddus y pen o'r boblogaeth yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a nifer o ranbarthau Lloegr, gan gynnwys Llundain.

Yr hyn sy'n fwy anffodus ydi nad yw'n gwneud ymdrech ddigonol i gynnig eglurhad ag eithrio i son am yr economi fyd eang, natur gyfyng economi Cymru yn y ganrif ddiwethaf, diogi a gor ddibyniaeth y dosbarth canol Cymreig ar y wladwriaeth, diffyg diwylliant o enterprenariaeth ac ati. 'Rwan mae hyn oll yn wir - ond symptomau ydynt, nid y rheswm creiddiol tros natur anghytbwys a ffaeliedig economi Cymru.

Gwaith Dur Port Talbot

Mae'r ymgeisiadau'r pleidiau unoliaethol i egluro'r sefyllfa yn cymryd sawl ffurf - ond yn y bon amrywiaethau ar resymu Miss D Davies o ardal Llanelli fel y cafodd hwnnw ei fynegi yn y Western Mail rhai blynyddoedd yn ol mewn llythyr agored i Rhodri Morgan ydyw.

SIR - Rhodri Morgan has missed the point with his "straight choice" between Labour and Conservative campaign. In most areas the straight choice is between Labour and Plaid

I am Labour but if I went around pretending the Conservatives could get in here I'd be laughed at! I could say the nationalists are "in bed" with the Tories but I wouldn't be believed either. They are active here, people know them.

Come on Rhodri! Fight the proper fight. Tell us that without England we would be a poor country like Albania, still with horses and carts. We've done well being looked after by Britain. We're too small. We are part of a fantastic big country that really cares about us.

Plaid are the real threat. Peidiwch Pleidleisio Plaid!

MISS D DAVIES
Elkington Road, Burry Port, Carmarthenshire


Hynny yw mae'r pleidiau unoliaethol, fel Miss Davies yn credu (mewn rhyw ffordd neu'i gilydd) mai canlyniad i faint cymharol fach Cymru ydi ei than berfformiad economaidd. 'Dydi'r ffaith bod pob tystiolaeth gwrthrychol sydd gennym yn awgrymu bod gwledydd bach yn tueddu i berfformio'n well yn economaidd na rhai mwy, ddim yn amharu mewn unrhyw ffordd o gwbl ar y canfyddiad yma. Mae'r ffug ganfyddiad - ein bod, oherwydd ein maint yn ddibynnol ar Loegr - yn cael ei gymryd yn gwbl ganiataol gan lawer, a dyma yn y diwedd sail economaidd y ddadl unoliaethol.

Chwarel Dinorwig

'Dwi ddim eisiau swnio fel y Gwyddel enwog o'r ddeunawfed ganrif - Theobald Wolfe Tone - gyda'i 'wireb' ar ffurf polisi gwleidyddol - To subvert the tyranny of our execrable government, to break the connection with England, the never failing source of all our political evils, and to assert the independence of my country--these were my objects - ond mae natur ein economi yn wan oherwydd nad ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa i gymryd penderfyniadau economaidd strategol. Chawsom ni erioed y cyfle i ystyried pa mor gytbwys (ac felly gwydn mewn amseroedd anodd) oedd ein economi yn ystod y dyddiau hynny pan oedd yn darparu llawer o'r Byd a'i glo, dur a llechi. Chawsom ni erioed o'r cyfle i ostwng trethi corfforiaethol yng Nghymru i annog cwmniau i fuddsoddi yma, er gwaethaf y ffaith ein bod ar gyrion Ewrop a chawsom ni ddim chwaith o'r cyfle i osod cyfraddau llog ar lefel sy'n addas i'n sefyllfa economaidd ein hunain. Hynny yw chawsom ni erioed o'r cyfle i weithredu ar ddadansoddiad strategol ni ein hunain o'n problemau economaidd ni ein hunain

Mae'r brif ddadl tros annibyniaeth (ac felly tros genedlaetholdeb) yn un foesol - 'dydi o ddim yn briodol i un wlad gael ei rheoli gan wlad arall. Yr ail ddadl o ran pwysigrwydd ydi'r un economaidd - mae gwlad yn debygol o ddatblygu ei economi ei hun yn well, ac mewn ffordd mwy addas i'w hamgylchiadau ei hun, nag ydi gwlad arall yn gweithredu ar ei rhan. Dydi'r Mudiad Cenedlaethol ddim yn mynd i'r afael a'r ddadl yma i raddau digonnol, ac ni chyffyrddwyd a'r mater yn rhaglen Hywel Williams. Ond wedyn efallai bod hynny i'w ddisgwyl - aelod o'r dosbarth canol 'diog' Cymreig ydi Hywel wedi'r cwbl - fel y gweddill ohonom.

Roedd Hywel yn galaru diffyg cenedlaetholdeb 'go iawn' yn y rhaglen gyntaf. Byddai ymdriniaeth genedlaetholgar 'go iawn' o gyflwr Cymru wedi crafu o dan y wyneb a mynd i'r afael a'r mater yma yn annad yr un arall. Wnaeth o ddim - a dyna pam bod y rhaglen yn un siomedig.

5 comments:

Anonymous said...

Ti'n iawn Menai. Roedd rhaglen Hywel yn fethiant. Gellid fod wedi crisialu byrdwn ei neges am gyd-destun fyd-eang cwymp y 1970au mewn rhyw 3 munud ac yna clywed ei syniadau ef am gael ni allan o'r twll yma.

Byddai annibyniaeth yn gorfodi i Gymru ddysgu nofio neu foddi. Byddai'n gorfodi i'r chwith genedlaetholgar a Phrydeinig ddod lan 'da naratif o blaid creu cyfoeth ac nid dros 'achub yr NHS' bondigrybwyll a jingoistiaeth dosbarth.

Gallai wedi son fod y ffaith nad oes ganddom ni reolaeth yn ol Deddf Cymru 2006 dros ein hadnoddau craidd fel dwr, effaith anferthol arnom ni. Gellid 'di son am dreth gorfforaethol mwy cystadleuol neu treth gwerth tir fyddai'n gwobrwyo buddsoddi a llafur dros berchnogaeth o bell yr 'absent landlord' boed nhw'n Gymry sy'n berched cwpwl o dai mewn trefn neu'n dau haf.

Methwyd ar hyn oll. Mewn ffordd, pam beio Cymru dosbarth canol (yn wahanol i Saeson neu Gymry di-Gymraeg mae'n rhaid) am beidio mentro. Er gwaetha'r argraff mae rhai o aelodau mwyaf croch y mudiadau llafur, Plaid Cymru a Llafur yn ei ddweud, mae cyflogau y sector gyhoeddus yng Nghymru mewn cymhariaeth a'r sector breifaf yng Nghymru (anghofiwch y cyfartaledd sy'n cael ei chodi gan y City a Llundain) yn dda. Mae'n rhaid bod yn ddewr neu'n ffol i ddechrau busnes mewn trefn farchnad Gymreig - mae'r cyflogau'n llawer gwell yn y sector gyhoeddus.

Yn hyn o beth, roedd Williams ar y trywydd iawn. Ond yn lle dweud fod rhaid cael cyflog teg yn y sector gyhoeddus ond nid cyflog sy'n troi pobl oddi ar y sctor breifat, wnaeth jyst y peth arferol o ymosod ar y 'dosbarth canol'. Rhyw hanner methu'r marc a pheidio cynnig syniadau neu dadnsoddiad bendant.

Annibyniaeth fyddai'r peth gorau allai ddigwydd i econmi Cymru. Efallai byddai rhyw 3 mlynedd o addasu ond byddem yn gryfach wedyn. Byddai'r addasu fyddai'n gorfod digwydd oherwydd annibyniaeth yn llai poenus a mwy bendithiol na'r ad-drefnu arall rydym wedi byw trwyddynt - adeiladu cestyll apartheid Edward I, meddiannu tiroedd comin, y Chwyldro Diwydiannol, Dirwasgiad yr 1920au a'r 30, Sioc Olew 1973, Dad-ddiwydiannu Thatcher, methiant Amcan Un etc.

Macsen

Anonymous said...

Ti'n rhy garedig hefo fo bM. Mae Hywel Williams yn cael rhwydd hynt yn y gyfres yma i raffu gwahanol syniadau sydd heb hyd yn oed gael hanner eu treulio. Mae'r holl beth yn ymhonus ac, yn waeth na hynny, yn ddiflas o 'predictable'. Fel rhaglenni mae'n nhw'n dipyn o lanast.

Ond wrth gwrs, yn S4C sentral gelli di fod yn sicr bod yr uwch-reolwyr yn gwlychu eu hunain: "mae o mor gyfoes, mor heriol, mor ffresh...mae Hywel yn 'great' yn tydi; wyddoch chi fod o'n sgwennu yn y Guardian?" bla, bla. Wrth gwrs y ffaith ola na sy'n cyfrif go iawn. Achos mai ei gwneud hi'n Llundain sy'n dal i gyfrif go iawn. Y meddwl-a-drefidigaethwyd yn ei holl blydi ogoniaint.....

Cai Larsen said...

Diolch bois - fedra i ddim anghytuno efo fawr ddim i'r naill na'r llall ohonoch ei 'sgwennu.

Anonymous said...

"Y meddwl-a-drefidigaethwyd yn ei holl blydi ogoniaint....."

Ardderchog. :-))

Anonymous said...

http://technologiesuae.com/#7273 xanax high on - xanax withdrawal method