Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr ymysodiad personol a digon annifyr yma gan Gwilym Euros ar arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards yn peri cryn syndod - yn ogystal a pheth gofid i mi.
Cyn mynd ymlaen mi hoffwn ddweud bod gen rhyw fymryn o gydymdeimlad efo Gwilym - mae pawb yn cael diwrnod drwg weithiau, a phan roedd Gwilym yn 'sgwennu'r blogiad roedd yna ddiwrnod felly y tu cefn iddo. Roedd cynnig Gwilym i rewi'r broses ail strythuro ysgolion yng y sir wedi syrthio'n hawdd yn siambr y Cyngor, ac roedd cynnig Dyfed Edwards i godi tal uwch swyddogion wedi ei basio. Mae'n debyg gen i bod y ffaith i'r Cyngor ddewis anwybyddu dadleuon Gwilym wrth bleidleisio ar gynnig Dyfed yn slap braidd gan mai fo ydi deilydd y portffolio Adnoddau Dynol. Ond 'dydi hynny ddim yn esgys o gwbl am oslef a natur y blogiad.
Beth bynnag am hynny 'dwi ddim yn meddwl ei bod yn ddoeth i un aelod o Fwrdd Rheoli Cyngor Gwynedd ymosod yn bersonol yn gyhoeddus ar aelod arall o'r corff hwnnw. Fel 'dwi wedi egluro yma, 'dwi'n meddwl bod y drefn o rannu grym efo gelynion gwleidyddol yn gamgymeriad - ond tra bod trefn felly mewn bodolaeth (ddim am hir gobeithio) mae'n bwysig bod pobl sydd mewn grym yn ceisio cyd dynnu er lles y sir gyfan - beth bynnag eu gwahaniaethau personol a gwleidyddol.
Os ydi'r Bwrdd ei hun yn mynd yn dysfunctional yna bydd sgil effeithiadau ar draws y Cyngor. Does yna ddim yn waeth am wneud i rhywbeth beidio a gweithio yn iawn na chwystrelliad o ddrwg deimlad personol, a does yna ddim yn waeth am greu awyrgylch o ddrwg deimlad nag ymysodiadau personol cyhoeddus. Mae'r rhagolygon ariannol yn wirioneddol fygythiol ar hyn o bryd, ac mae'n hanfodol bod y Cyngor yn gyffredinol a'r Bwrdd yn benodol yn gweithredu'n gall. 'Dydi blogiad bach chwerw, sbeitlyd Gwilym ddim am hyrwyddo hynny mewn unrhyw ffordd.
Cyn gorffen mi hoffwn wneud sylw am un o honiadau Gwilym yn benodol, (mae'n anodd ymateb i lawer o'r honiadau ac ensyniadau cyn eu bod naill ai yn sylwadau personol, neu yn sylwadau cyffredinol iawn) sef hwn -
Ble mae’r “Arweinydd” yn methu yn llwyr ydi ei ddiffyg i allu enyn cefnogaeth, brwdfrydedd a chyfaddawd gan eraill pan fo anghytundeb. - i ddeud y gwir, tydi o erioed wedi ceisio gwneud chwaith! Er ei fod wedi cael digon o gyfleoedd i wneud hynny.
Mae'n rhaid gen i bod Gwilym yn ymwybodol bod pob cynnig ag eithrio un a wnaed gan y Blaid yn y Cyngor llawn wedi ei basio ers yr etholiad, 'doedd hynny ddim yn wir am y Cyngor blaenorol - er bod gan y Blaid fwyafrif llwyr yno - a dydi o'n sicr ddim yn wir am gynigion Llais Gwynedd.
2 comments:
Cai,
Er cywirdeb, dwi'n credu bod un o gynigion Plaid Cymru - yn ymwneud efo cyfansoddiad y Cyngor - wedi ei drechu. Ond fel arall, ti'n berffaith gywir. Mae Gwilym yn dda iawn ar wthio'r ffantasi bod Plaid Cymru yn rhedeg Cyngor Gwynedd yn groes i ddymuniadau'r holl grwpiau eraill.
Y gwir amdani yw bod mwyafrif llethol aelodau'r Cyngor yn cyd-weithio yn gyson. Mae Plaid Cymru, Llafur a'r Lib-Dems yn cytuno ar y mwyafrif o faterion. Oes, mae 'na wahaniaethau barn, ac mae'n rhaid i bob carfan gyfaddawdu - ond fel rheol, ychydig iawn o dynnu'n groes sydd 'na rhwng y 3 grwp yma.
Ac mae'r un peth yn wir am y rhan fwyaf o'r grwp Annibynnol hefyd. Ond natur y grwp annibynnol yw eu bod nhw'n gweithredu fel unigolion, nid grwp, ac felly mae eu cefnogaeth hwy i'r 3 grwp arall yn fwy amrywiol. Ond mae'n deg dweud bod 'na garfan o fewn yr annibynnwyr sydd yn gyson gefnogol i Blaid Cymru/Llafur/Lib-Dems, carfan lai (rhyw 3-5) sydd yn gyson gefnogol i Lais Gwynedd, a grwp yn y canol sydd yn gallu mynd i naill ffordd neu'r llall.
Ers Mai 2008, mae Cyngor Gwynedd wedi cael ei reoli drwy gonsensws bras. Yr unig grwp sydd ddim yn fodlon cyfrannu at y consensws hwn ydi Llais Gwynedd. Y nhw ydi'r grwp sydd yn amhoblogaidd ymysg eu cyd-gynghorwyr, yn methu cyfaddawdu, ac yn methu a chyd-weithio.
Dyfrig - Er cywirdeb, dwi'n credu bod un o gynigion Plaid Cymru - yn ymwneud efo cyfansoddiad y Cyngor - wedi ei drechu.
Diolch Dyfrig - mi gywiraf y cyfeiriad.
Post a Comment