Friday, October 02, 2009

Pam nad oes gan Lafur ymddiriedaeth yn eu haelodau eu hunain?


Gyda ras y tri chrwban newydd gychwyn, efallai ei bod werth gofyn os ydi Llafur yn bwriadu ymuno efo'r ugeinfed ganrif cyn i'r unfed ganrif ar hugain ddod i ben?

Yn hytrach na gadael i'w haelodau ddewis, mae gan Lafur ddull rhyfeddol o gymhleth o ddewis arweinydd - traean yn unig o'r pleidleisiau sydd yn nwylo'r aelodau cyffredin. Mae traean arall yn nwylo'r undebau, ac mae'r draen sy'n weddill yn nwylo'r aelodau etholedig.

'Rwan mae'r drefn yma yn rhyfeddol o anemocrataidd, gydag arweinyddion cyflogedig undebau yn cael y flaenoriaeth, aelodau etholedig yn ail a'r aelodau cyffredin mewn sefyllfa lle nad yw eu pleidleisiau unigol werth fawr ddim. Meddyliwch mewn difri - petai Llafur byth yn colli pob Aelod Cynulliad, a phob Aelod Seneddol namyn dau, yna byddai pleidlais y ddau aelod yna'n gyfwerth a phleidleisiau pob aelod cyffredin i gyd efo'i gilydd.

Mae'r drefn hefyd yn agored i jerimandro gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Dyma'n union ddigwyddodd pan benderfynodd Blair ei fod eisiau Alun Michael yn brif weinidog Cymru yn hytrach na Rhodri Morgan. Mae'n debyg bod hwnnw wedi cymryd yn erbyn Rhodri Morgan oherwydd ei fod yn 'fler'. Pen draw'r penderfyniad gorffwyll hwnnw oedd colli seddau fel y Rhondda ac Islwyn yn yr etholiadau Cynulliad ym 1999.

Mi fyddai rhywun wedi meddwl y byddai gwers syml wedi ei dysgu - bod creu trefn etholiadol anemocrataidd a di draidd yn ffordd o grefu am drwbwl. Ond mae dysgu gwersi syml y tu hwnt i'r Blaid Lafur Gymreig mae gen i ofn.

1 comment:

Anonymous said...

Ffactor diddorol ydy'r posibilrwydd gwirioneddol o weld y yr ymgeiswyr yn ennill un rhan o'r "Coleg Etholiadol" yr un.

Awgryma'r Western Mail fod Carwyn Jones ymhell ar y blaen ymhlith ASau, ac mae'n siwr fydd mwy na'r 6anghenrheidiol ymlhith yr ACau yn ei gefnogi.

Gyda'i chefndir yn yr Undebau fe fydd gan Edwina Hart siawns eithaf da o ennill y treian yna.

A wedyn dyna Huw "Working Class Hero" Lewis gyda'i apel gyda'r aelodau cyffedin.

Dyna beth fyddai cyflafan!