Wednesday, October 14, 2009

Cas wleidyddion blogmenai - ail gynnig

Wedi lobio ffyrnig gan un neu ddau, 'dwi wedi penderfynu addasu ychydig ar restr cas wleidyddion blogmenai.

Roedd cynnwys Elystan Morgan yn broblem i rai, a David Lloyd George i eraill. Wedi'r holl bledio bod Elystan yn goblyn o foi iawn (yn ogystal a'r ffaith fy mod rhywsut, rhywfodd wedi anghofio bod WJ Gruffydd yn 'wleidydd' ar un adeg) mi gaiff Elustan adael yr adeilad, a chaiff WJ ddod i mewn yn ei le.

Ar y llaw arall, po fwyaf 'dwi'n meddwl am Lloyd George y mwyaf sicr 'dwi fy mod yn rhy garedig efo fo. Felly mi gaiff hwnnw symud o bedwerydd i ail.

Dyma'r rhestr newydd:

(10) WJ Gruffydd
(9) David Davies
(8) Iorwerth Thomas
(7) Delwyn Williams
(6) Alan Williams
(5) Jeff Jones
(4) Neil Kinnock
(3) Arglwydd Tonypandy
(2) Lloyd George
(1) Glenys Kinnock

Mae'r ail restr yn edrych yn well na'r un wreiddiol am reswm arall hefyd - 'roeddwn wedi rhyw feddwl bod ploncio Tonypandy i gysgu rhwng y Kinnocks yn gosb addas i'r ddau oherwydd eu hamrywiol gamweddau. Mae gollwng Lloyd George yna hefyd hyd yn oed yn well.

15 comments:

Anonymous said...

bM, dyma fy nghwestiwn: sut yn y byd mae Glenys yn haeddu bod ar y blaen i Neil? Wedi'r cyfan, er mor atgas ydi Glenys, chafodd hi rioed fawr o ddylanwad ar neb na dim. Ond mae o, ar y llaw arall, wedi cael dylanwad pellgyrhaeddol. Ar ffawd refferendwm 1979, wrth gwrs, ond cyn a wedi hynny hefyd. Fuodd ei dylanwad hi'n ddim o'i gymharu a hynny. Ar bob cyfrif cadw hi yn y deg...ond ar y brig? Sgersli bilif!

menaiblog said...

Am rhyw reswm neu'i gilydd mae'r sguthan yn mynd ar fy nerfau - 'dydi ei gwr ddim.

Anonymous said...

Rwy'n cymryd o'r ymgais gyntaf mae'r "Black and Tans" yw'r prif reswm dros gynnwys Lloyd George.

Ydy hi'n bosib felly bod prif wrthwynebydd y polisi hwnnw yn y senedd yn un o dy arwyr?

Dydw i ddim yn cofio'r union enw. Syr Oswald Moses... Measley... rywbeth felly! :)

Dyma'r pwynt. Pa mor bynnag ofnadwy neu wych y mae un agwedd o yrfa neu bersonoliaeth person annheg yw diawlio neu ddyrchafu y cyfan o'i fywyd ar sail yr un peth hwnnw.

Alwyn ap Huw said...

Rhaid cytuno a rheswm Menaiblog ac ychwanegu bod celwydd Mrs K am blant yr hen Sir Gwynedd yn cael eu gadel i wlychu eu hunain oherwydd bod athrawon yn gwrthod gadael iddynt i fynychu'r tŷ bach oni bai eu bod yn gofyn am ganiatâd yn y Gymraeg; a'i chyhuddiad bod sylwadau Seimon Glyn am y mewnlifiad yn hiliol; yn ategu at ei chefnogaeth brwd i wrth Gymreictod ei phriod.

menaiblog said...

Anhysb - Ydy hi'n bosib felly bod prif wrthwynebydd y polisi hwnnw yn y senedd yn un o dy arwyr?

Dydw i ddim yn cofio'r union enw. Syr Oswald Moses... Measley... rywbeth felly! :)

Hmm - lobi Lloyd George wrthi o hyd - 'dwi ddim yn siwr beth i'w wneud o'r rhesymeg yma - os 'dwi'n drwg licio Bush, wedyn mae'n rhaid i mi licio Bin Laden. Arglwydd.

Anonymous said...

Ond fe wnaeth Lloyd George sicrhau datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru - y cam cyfansoddiadol pwysicaf i Gymru ers canrifoedd.

Anonymous said...

'Roedd Lloyd George eisiau dal ei afael ar rym gwleidyddol erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel y dywedwyd, "Nid oedd yn malio i b'le 'roedd y bws yn mynd ond ei fod ef yn cael gyrru".

'Roedd ef a'i fêts yn ofni bod y milwyr a'r gweithwyr yn mynd i fynnu grym gwleidyddol ar ôl y rhyfel. Cynhalwyd y "Blackwell Comittee" dan gadairyddiaeth Syr Ernley Blackwell yn 1918-19 i hel esgusion i ddiarfogi'r werin. Yr esgus oedd i arbed troseddau ond pan ollyngwyd yr adroddiad llawn yn ddiweddar gwelwyd mai cymhellion gwleidyddol oedd tu ôl iddo. "When you collect your demob suit son, don't forget to hand your rifle in. We want to use it against you in 1926".

Er fy mod yn aelod o Blaid Cymru ni wnaf byth bleidleisio i'r un o'r pedwar aelod seneddol a gefnogodd gwahardd saethu pistol yn 1997.

I ateb y rhai s'yn dweud mai Lloyd George oedd lluniwr y derfwriaethau pensiwn ac yn y blaen - mae hyd yn oed mochyn dall yn cael hyd i fesen weithiau!

Dyfrig said...

WJ Gruffydd? Pam, yn enw'r tad? Be wnaeth WJ i unrhyw un (heblaw trechu Saunders yn Etholiad y Brifysgol, wrth gwrs)?

Anonymous said...

Bessy Braddock?

geraint said...

"...er mor atgas ydi Glenys, chafodd hi rioed fawr o ddylanwad ar neb na dim."
Creda di hynny os leici di, Anonymous bach, ond dwi'n amau na fuasai Neil Kinnock wedi bod hanner mor wrth-Gymreig heb ddylanwad y sguthan wenwynig o Fôn. Y grym tu ôl i'r orsedd fel petai.

Anonymous said...

Dyfrig...

Dyna yn union wnaeth WJG. Trechu SL yn isetholiad 1943. Cynghreirio a gelynion cenedlaetholdeb ar adeg o argyfwng (yr Ail Ryfel Byd). Ac yntau (WJG) yn wrthsemitydd mwy brwnt o dipyn na SL (a oedd yn wrthsemitaidd hefyd ar adegau, rhaid cyfaddef).

Dyfrig said...

Mae 'na ddadl bod presenoldeb WJ Gruffydd yn y Senedd wedi arwain at Gymreigio Deddf Addysg 1944, gan osod seiliau'r drefn addysg Gymraeg bresennol. A fyddai Saunders wedi llwyddo i gael yr un dylanwad yn San Steffan?

(Doeddwn i ddim yn ymwybodol o wrth-Semitiaeth WJ. Ond dwi'n amau mae ei agwedd tuag at Babyddion sydd yn poeni Cai, yn fwy na'i agwedd at yr Iddewon).

Anonymous said...

Gwrthsemitiaeth WJG:

W. J. Gruffydd, ‘Nodiadau’r Golygydd’, Y Llenor, XX, I, Gwanwyn 1941, 3.

‘Eisoes y mae’r rhagolygon yng Nghymru yn ddigon i dorri calon unrhyw un sy’n caru ei wlad, - [...] Gogledd Cymru’n llawn o Iddewon cyfoethog ac ystrywus sy’n lleibio iddynt eu hunain holl adnoddau’r wlad a gadael y brodorion druain yn llwm a di-ymadferth. A chyda llaw, onid yw’n amser i rywun brotestio’n groyw yn erbyn yr Iddewon hyn sydd wedi myned yn orthrwm ar Landudno, Bae Colwyn, Abergele a’r wlad gylchynol? A ydyw’r Iddewon yn hollol analluog i ddysgu gwers gan hanes eu cenedl mewn gwledydd eraill? Cefais ysgwrs y dydd o’r blaen â dau neu dri ohonynt, a brawychwyd fi gan eu hagwedd at ddigwyddiadau o’u cwmpas. Nid ydynt eto wedi sylweddoli bod ganddynt hwy ddim cyfrifoldeb o gwbl am eu cyflwr adfydus fel cenedl yn y gwledydd Natsïaidd. Ymddengys i mi mai dau brif amcan sydd ganddynt, a dau’n unig – dianc o bob perygl ymhob man ar waethaf peryglon pawb eraill a dwyn ymlaen eu hen ddull traddodiadol o ymgyfoethogi ar wendidau’r cenedl ddyn. [...] Oni wrandawant ar y rhybudd, byddant yn broblem yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr, a phan â cenedl yn broblem, ofer yw iddi ddisgwyl cyfiawnder gan y gwerinoedd sy’n dioddef dan ganlyniadau’r broblem honno.’

Anonymous said...

"...er mor atgas ydi Glenys, chafodd hi rioed fawr o ddylanwad ar neb na dim."
Creda di hynny os leici di, Anonymous bach, ond dwi'n amau na fuasai Neil Kinnock wedi bod hanner mor wrth-Gymreig heb ddylanwad y sguthan wenwynig o Fôn. Y grym tu ôl i'r orsedd fel petai.

Geraint fy ngwas annwyl i, paid thwyllo dy hun, roedd na wastad hen ddigon o wenwyn yn Neil ei hun heb unrhyw ddylanwad gan Glenys. A beth bynnag, dweud ydw'i na ddylai hi fod uwch law Neil yn y rhestr... Bu hwnnw'n arch-gachwr nid yn unig ar fater yr iaith ond ar bopeth Cymreig o bwys. Neil sy'n haeddu'r wobr!

Anonymous said...

Wonderful blog you have here but I was wondering if you knew of any forums that cover the
same topics talked about here? I'd really like to be a part of online community where I can get feed-back from other experienced individuals that share the same interest. If you have any suggestions, please let me know. Cheers!

Feel free to visit my homepage; payday loan lenders only