Monday, October 05, 2009

Apel i gynghorwyr - ym mhob man


Yn ol Andrew Davies, mae'r blynyddoedd o ddigonedd trosodd, a bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri tros y blynyddoedd nesaf.

'Dydw i ddim yn sicr at beth yn union mae Andrew'n cyfeirio ato pan mae'n cyfeirio at ddigonedd, ond mae'n sicr yn gywir pan mae'n dweud y bydd toriadau sylweddol y flwyddyn nesaf. Ni fydd y toriadau sy'n sicr o ddilyn yn sgil y ffaith i Mr Darling roi pob ffadan goch (a mwy) sydd gan y trysorlys tuag at gadw gwahanol fanciau yn agored, yn dechrau brathu tan 2011 - a byddant yn parhau i frathu am flynyddoedd wedi hynny.

A dweud y gwir, erbyn i'r cylch o doriadau fynd rhagddynt - ac yn arbennig felly os daw'r Toriaid i rym yn San Steffan ym mis Mai, bydd gwasanaethau cyhoeddus wedi eu trawsnewid. Bydd hyn yr un mor wir am wasanaethau llywodraeth leol nag am wasanaethau sy'n cael eu cyllido yn uniongyrchol o Gaerdydd a Llundain. Mae'r genhedlaeth bresenol o aelodau etholedig lleol yn haeddu pob cydymdeimlad - byddant yn debygol o orfod gweinyddu toriadau ar raddfa na fu'n rhaid i'r un genhedlaeth o'i blaen hyd yn oed ei ystyried. Mae'n hanfodol gwneud hyn yn gyfrifol ac yn effeithiol.

Dau beth sy'n rhaid eu harbed yn y bon - yr hyn sy'n statudol, a'r hyn sy'n cyfrannu mewn ffordd arwyddocaol at ansawdd bywyd pobl. Mae gofal yn bwysig i ansawdd bywyd yr hen a'r methiedig, mae ymyraeth ym mywydau'r bregus a'r sawl sydd yn anabl i reoli eu bywydau eu hunain a'u plant yn bwysig i ansawdd bywyd y bobl hynny, ac mae safon uchel o addysg yn bwysig i ansawdd bywydau plant yn y dyfodol.

'Dydi gwagio biniau'n wythnosol na chael rhwydwaith o doiledau cyhoeddus ddim yn effeithio ar ansawdd bywyd neb - mae toriadau yn y meysydd hyn yn dipyn o niwsans, ond dyna'r oll. Mae gofyn am gyfraniad tuag at gost teithio gan fyfyrwyr ol 16 yn ddrud i rieni'r unigolion hynny, ond nid yw'n effeithio'n arwyddocaol ar ansawdd bywyd neb. 'Dydi disgwyl mwy i gael ffyrdd wedi eu trwsio ddim am effeithio llawer ar ansawdd bywyd neb chwaith. 'Dydi cynghorau ddim angen ribidires o asedau i ddarparu gwasanaethau angenrheidiol.

Un gair bach cyn gorffen - 'dydi'r rhaniad rhwng gwasanaethau 'rheng flaen' a rhai 'swyddfa' ddim mor amlwg a mae llawer yn meddwl. Mae llawer o swyddi gweinyddol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn rhedeg yn effeithiol - ac mae llawer o swyddi felly nad ydynt yn cyfrannu i'r rheng flaen o gwbl. Yn hanesyddol 'dydi cynghorau heb fod yn dda am arenwi pa swyddi sy'n bwysig a pha rai sydd ddim mor bwysig. Mae mynd i'r afael a hynny yn hanfodol os ydi cynghorau am lwyddo i ddod allan o'r cyfnod anodd sydd o'u blaenau yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd bywydau pobl.

4 comments:

Anonymous said...

Problem y cynghorau ydi bod llawer o'r swyddi 'gwirion' yn cael eu hariannu gan grantiau gan y cynulliad.
Mae pobl yn wfftio gweld swyddog harddwch pen llyn, swyddog anifeiliaid anwes, neu swyddog beicio - neu beth am yr holl adnoddau 'di-angen' llwybrau beicio di-ddiwedd, arwyddion ffordd solar... maent i gyd yn dod o grantiau o Gaerdydd neu ewrop.
Felly tra bydd torri ar weithwyr cymdeithasol, athrawon a gofalwyr bydd y swyddi 'gwirion' yn dal i gael eu hysbysebu.
Mae'n bryd rhannu'r grantiau yn fel syth fel cyllid i'r cyngorau.

Dwi'n cytuno hefyd bod angen meddwl am doriadau i bethau nad ydynt yn statudol. Bydd angen dileu ambell wasanaeth yn gyfangwbl ac arbed llawer, yn lle torri talpiau o bob gwasanaeth a gwneud pob un yn aneffeithiol.

Y cwstiwn ydi pa wasanaethau fydd yr rhain?
Pa rai sydd ddim yn angenrheidiol:
Canolfan hamdden?
Llyfrgell?
Amgueddfa?
Goleuadau stryd?
Caeau chwarae?
Toiledau?
Prosiectau amgylcheddol?
Llwybrau beicio?
Priffyrdd newydd?
Cyrsiau oedolion?
Arwyddion ffordd electronig?

Discuss!

Cai Larsen said...

Diolch - mae yna ddigon i gnoi cil arno yna.

Dyfrig said...

Mae'r neges yma yn taro'r hoelen ar ei phen. Bydd rhaid i bob Cyngor yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd ynglyn a gwariant dros y blynyddoedd nesaf, ac mae'n rhaid blaenoriaethu gwasanaethau angenrheidiol dros gyfleusterau dymunol.
Ond, ychydig iawn o bobl gyffredin sydd yn gweld y darlun y modd yr wyt ti'n ei weld, Cai. Problem fwyaf Cyngor Gwynedd - a dwi'n tybio bod pob Cyngor yn ddigon tebyg - yw bod pobl yn eithriadol o blwyfol. Does gan etholwyr ddim mymrun o ddiddordeb mewn clywed dadleuon ynglyn a phwyso a mesur anghenion holl drigolion Gwynedd. Mae'r etholwr cyffredin eisiau gwybod pryd y bydd y ffordd tu allan i'w ty nhw yn cael ei hail-wynebu, a druan o'r Cynghorydd sydd yn gorfod esbonio bod yn rhaid i'r twll yn y ffordd yn Gerlan aros hyd nes y bydd ysgol yn Nhywyn neu doilet cyhoeddus yn Aberdaron wedi ei drwsio.
Wrth gwrs, mae 'na genhedlaethau o Gynghorwyr sydd wedi bwydo'r feddylfryd yma drwy ddiffinio ei rol fel un blwyfol, sydd yn dechrau a gorffen wrth ffiniau eu ward. Sawl gwaith ydw i wedi clywed un o fy nghyd-aelodau yn datgan yn falch "Dydw i ddim yn cynrychioli Gwynedd, cynrychioli fy ward ydw i"? Hyd nes y daw'r ffordd yma o feddwl am lywodraeth leol i ben, does dim gobaith gallu cael trafodaeth synhwyrol ynglyn a blaenoriaethau angen. Bydd yr adnodd "lleol" mwyaf di-nod wastad yn cymeryd blaenoriaeth dros wasanaeth hanfodol sydd o dan fygythiad ym mhen arall y sir.

Plaid Gwersyllt said...

Pa flynyddoedd o ddigonnedd, mae Cyngorau wedi bod yn gneud arbedion effeitholrwydd ers blynyddoedd a rwan does yna ddim ar ol i arbed heb neud toriadau.