Wednesday, October 21, 2009

Comisiwn Ffiniau 2

Mi soniais am y Comisiwn Ffiniau yn y blogiad diwethaf. Roeddwn yn rhyw feddwl y byddai'n syniad edrych ar beth sy'n debygol o ddigwydd os ydi'r Comisiwn yn cadw at y rheol 1,750 o etholwyr i bob cynghorydd - fel sy'n edrych yn debygol o'r profiad mewn rhannau eraill o Gymru..

Mi gychwynwn ni efo'r trefi.

Bangor:

Ar hyn o bryd mae yna 10 cynghorydd ym Mangor. Petai yna 1 am pob 1,750 o etholwyr ceid 5.02 cynghorydd. Felly mae'n bosibl y bydd y nifer yn cwympo i bump cynghorydd. Mae hyn yn gwymp sylweddol iawn.

Mae'n debygol felly mai un ac nid dau gynghorydd fydd yn Menai (mi leiciwn i wybod sut fydd y Lib Dems yn penderfynu pwy sy'n sefyll trostynt yma). Un fyddai ym Marchog (Maesgerchen) hefyd. Mae hynny'n gadael tri yn ormod. Does yna'r un o'r wardiau sy'n weddill gydag yn agos at 1,750 o etholwyr, felly gellid disgwyl ad drefnu sylweddol gyda Deiniol, Hendre a Garth o bosibl yn diflanu ac yn cael eu cyfuno gyda wardiau cyfagos.

Caernarfon:

Ar hyn o bryd mae yna bump cynghorydd. Byddai'r cwymp yma yn un llawer llai na'r hyd y gellid ei ddisgwyl ym Mangor - byddai pedwar ar ol. Mae'n debyg mai'r hyn fyddai'n digwydd ydi y byddai ward Seiont yn colli un aelod ac y byddai'r Comisiwn yn chwarae o gwmpas tipyn efo ffiniau'r bedair er mwyn lleihau'r gwahaniaeth rhwng y fwyaf a'r leiaf o ran poblogaeth.

Nefyn:

Ar hyn o bryd ceir dau gynghorydd - un ar gyfer Nefyn a'r llall ar gyfer Morfa Nefyn. Ychydig tros un fyddai yma o dan ganllawiau'r comisiwn - felly mae'n debyg gen i y byddai Nefyn a Morfa Nefyn yn cael eu cyfuno, a byddai Edern (sy'n rhan o ward Morfa Nefyn) yn rhan o adrefnu sylweddol yng ngorllewin Dwyfor.

Pwllheli:

Dau gynghorydd a geir ar hyn o bryd - o dan y drefn newydd un a hanner y gellid ei gyfiawnhau. 'Does gen i ddim syniad sut y bydd y comisiwn yn delio efo hyn. Byddai cyfuno'r ddwy ward yn creu un anferth, a byddai dechrau cyfuno efo wardiau cyfagos yn stwffio cymunedau gwahanol iawn at ei gilydd. Efallai y bydd Pwllheli'n cael llonydd, hyd yn oed os ydi pob man arall yn gweld newidiadau sylweddol,

Blaenau Ffestiniog:

Lle'r oedd Pwllheli'n anodd i'r Comisiwn, bydd cylch y Blaenau'n hawdd. Ar hyn o bryd ceir 3,529 o etholwyr a thri chynghorydd yn y cylch. Mae hynny'n teilyngu 2 gynghorydd, felly mae'n debyg y bydd rhan o Diffwys a Maenofferen yn mynd at Teigl, a bydd y rhan arall yn mynd at Bowydd a Rhiw.

Porthmadog:

Mae yna dair sedd ar hyn o bryd (gan gynnwys Tremadog). Mae'r nifer etholwyr yn teilyngu dau. Serch hynny byddai troi'r ardal yn un a dau ward yn arwain at gael Beddgelert (sydd yn ward Tremadog) bell yn yr un ward a rhannau o Ddwyrain Porthmadog. Efallai mai'r hyn fydd yn digwydd ydi y byddai rhan Tremadog ward Tremadog (os ydych chi'n gweld yr hyn sydd gen i) yn cael ei gyfuno efo Porthmadog i greu dwy sedd, ac y byddai Beddgelert yn mynd at Dolbenmaen.

Dolgellau:

Dau gynghorydd sydd yno ar hyn o bryd - lle i 1.16 sydd yno o dan y drefn arfaethiedig. Mae'r ateb yn ymddangos yn eithaf syml - troi'r dref gyfan yn un ward a chyfuno rhai o'r ardaloedd gwledig iawn sydd ynghlwm a Gogledd Dolgellau a rhai o'r wardiau gwledig cyfagos.

7 comments:

Dyfrig said...

Diddorol iawn, edrych ymlaen yn arw at weld be fydd gan y comisiwn i'w ddweud. Yn bersonol, fe hoffwn i weld cwtogi sylweddol ar nifer yr etholaethau, er mwyn cael wardiau mawr, aml-aelod. I ddweud y gwir, fe hoffwn weld Gwynedd yn cael ei rhannu yn 3 ward aml-aelod, sef Arfon, Dwyfor a Meirionnydd. Byddai hyn yn helpu i gael gwared o'r plwyfoldeb afiach sydd yn gallu bod yn gymaint o bla ar y Cyngor.

menaiblog said...

Mae'n syniad diddorol - ond mi fyddai aelodau mewn mega wardiau yn gorfod adeiladu eu cefnogaeth ar sail rhyw leoliad daerayddol mi dybiwn. Hy - byddai rhywun o Rachub yn apelio at bobl Rachub, beth bynnag y drefn bleidleisio.

Anonymous said...

Mae'n ddrwg gyda fi ond wy'n gwybod nesa peth i ddim oll am manylion y sefyllfa yng Ngwynedd ond pan es i i drafod fy ardal i (Rhondda Cynon Taf) gyda'r Comisiwn, y cyfarwyddyd ges i oedd fod y ffigwr o un cyngorydd i (o leia) 1750 etholwr yn gweithio fel cyfartaledd dros yr awdurdod cyfan a dyw hi ddim yn golygu y bydd POB ardal yn gorfod cael o leia 1750 i bob cynghorydd yng Ngwynedd. Os edrychir ar wefan y Comisiwn sertch hynny ymddengys fod Gwynedd yn 1:1100 a ddylai olygu gostyngiad sylweddol yn nifer y cynghorwyr ar Gyngor Gwynedd

menaiblog said...

Anon - ti'n hollol gywir - dydi rheolau'r comisiwn ddim yn dweud bod rhaid cadw at y gymhareb 1:1,750 ym mhob achos. Ond yn ol yr hyn a ddeallaf, maent wedi bod yn awyddus i wneud hynny yn yr ardaloedd maent wedi edrych arnynt hyd yn hyn.

Mae'r gymhareb mewn llefydd mae'r comisiwn eisoes wedi edrych arnynt gryn dipyn yn uwch na 1:1,750.

Dyfrig said...

Wrth gwrs, fe fyddai ymgeiswyr unigol yn tynnu ar gefnogaeth o fewn eu cymunedau, i raddau. Ond fe fyddai 'na lawer iawn llai o bwysau arnyn nhw i ymddwyn fel cynrychiolwyr un ward fechan, mewn cystadleuaeth gyda 74 o wardiau eraill.
Wrth gwrs, y ffordd o amgylch hyn yw ethol cynghorwyr drwy system o gynrychiolaeth gyfrannol, gyda etholwyr yn bwrw pleidlais i restr o etholwyr, yn hytrach nac unigolion.

menaiblog said...

Byddai'n rhaid i drefn mewn ward gyda efallai 25 o gynghorwyr fod yn gyfrannol - neu gallai'r 25 yn hawdd fod o'r un plaid.

Un o Eryri said...

I gael Gwynedd i weithio yn effeithiol mae'n angenrheidiol gwneud yr hyn mae Dyfrig yn ei awgrymu o gael wardiau llawer mwy, aml-aelod. Byddai yn cael gwared o blwyfoldeb, cael gwared o'r cynghorydd bach neis gyda dim cyfraniad i bolisi, ac hefyd yn cael gwared ar y mwyafrif llethol o nytars sydd gyda seddi yno ar y funud