Thursday, October 15, 2009

Cymru'n Un - buddugoliaeth ddeallusol i genedlaetholdeb?

Mae un o fy hoff blogs - Welsh Ramblings - yn tynnu sylw at yr elfennau cenedlaetholgar sydd yn apel dau o ymgeiswyr Llafur yn ras y crwbanod.

Dadl Ramblings ydi bod syniadau Huw Lewis am bartneriaeth gymdeithasol yn tynnu ar syniadau cyffelyb gan Blaid Cymru. Mae cydweithrediad glos rhwng y llywodraeth, busnes, undebau llafur, y sector wirfoddol a phartneriaid cymdeithasol eraill yn nodwedd o'r ffordd mae pethau'n cael eu gwneud mewn nifer o wledydd 'llai' Ewrop - ac yn un o'r rhesymau am lwyddiant economaidd y gwledydd hynny. Mae magu cydweithrediad felly yn ddibynol i raddau helaeth ar ymdeimlad o genedlaetholdeb ymysg y partneriaid - ymdeimlad sy'n caniatau iddynt weld ymhellach na gofynion un rhan o gymdeithas yn unig. Mae Huw'n gofyn am fwy o genedlaetholdeb - os ydi o'n sylweddoli hynny neu beidio.

Mae agenda Edwina Hart hyd yn oed yn fwy cenedlaetholgar - addasu Barnett mewn ffordd sy'n caniatau i'r fformiwla ymateb i angen (ac felly cynyddu'r adnoddau cyhoeddus yng Nghymru), cynyddu pwerau'r Cynulliad, diwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd neilltuol Gymreig, cryfhau cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

A fyddai brwydr am arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru yn cael ei ymladd ar y tirwedd yma ychydig flynyddoedd yn ol?

'Dwi ddim yn meddwl. Mae'r tirwedd gwleidyddol a deallusol yng Nghymru wedi mynd yn raddol fwy gwyrdd ers datganoli, ac mae Cymru'n Un wedi cyflymu'r broses honno.

3 comments:

Anonymous said...

ti'n llygad dy le.

Dydy'r frwydr heb ei hennill o bell ffordd, ond os nad yw Huw Lewis wedi sylweddoli eto, fe fydd yn reit sydyn, os ydy e am ddatblygu a gweithredu ei agenda gymdeithasol yna dim ond cenedlaetholdeb Gymreig, neu fersiwn ohoni, all ddelifro. Cenedlaetholdeb Gymreig yw'r cyfrwng i wella Cymru.

Byddaf yn dweud wrth y 'bobl ifanc' sy'n cwyno am ddiffygion y Cynulliad nad ydynt yn gwybod eu geni. Mae beth sydd ganddom ni heddiw gan gwaith yn well na dyddiau duon yr 1980! Dwi'n gwenu weithiau wrth feddwl cymaint mae pethau wedi symud; Cadw i bob pwrpas (dan arweiniad cadarn a dinonsens Alun Ffred) yn gweithredu'n ara bach agenda Cofiwn; baner Glyndwr (Glyndwr!) yn bla bendigedig ar hyd y wlad etc etc.

Macsen

Hogyn o Rachub said...

Y peth diddorol am yr hyn ddywedodd Edwina Hart am gynyddu pwerau'r cynulliad ydi y byddai'n ymdrechu i gael rhagor o bwerau ar ôl refferendwm.

Serch hynny, dwi yn anesmwyth braidd gyda rhai o'i sylwadau am addysg Gymraeg.

Aled G J said...

Mae Cymru'n Un yn un elfen yn y pair yn sicr. Ond elfen arall, yr un mor bwysig yn fy meddwl i ydi ymadawiad Rhodri. Ers 1999, Rhodri oedd y Blaid Lafur Gymreig i bob pwrpas, i'r ffasiwn raddau fel bod modd perthynu'r dyfyniad enwog hwnnw "L'etat, c'est moi" i'r berthynas symbiotig rhwng y dyn a'r Blaid.Gyda Rhodri'n mynd, wele gnwd o syniadau newydd a chynhyrfus yn blaguro a hynny'n dynodi bod Plaid Lafur gwirioneddol Gymreig yn dechrau gweld golau dydd am y tro cyntaf. Gobeithio y bydd yr ymgeiswyr yn eu tro yn gweld mai'r ffordd o fanteisio ar y momentwm syniadol hwn ydi pwyso am refferendwm mor fuan a phosib.