Wednesday, September 30, 2009

Ystategau Medi 2009


Hyd y gwn i, blogmenai ydi'r unig flog i fod ddigon gwirion i wirfoddoli i syllu ar ei fotwm bol ei hun yn gyhoeddus yn fisol trwy gyhoeddi faint ymweldau a gafwyd ar y blog yn ystod y mis.

Cafwyd mwy o ymwelwyr y mis hwn nag yn ystod unrhyw fis arall eleni, ag eithrio mis Mehefin. 'Roedd yna etholiad yn ystod y mis hwnnw, a bydd traffig blogmenai yn dwblu neu dreblu yn ystod yr ychydig ddyddiau y naill ochr i etholiad. Felly bu'n fis digon llwyddiannus.



3 comments:

Anonymous said...

diolch am fogel syllu. Be ydy'r niferoedd?

menaiblog said...

Sori - problemau technegol - dylai'r graff fod yn iawn rwan.

Anonymous said...

Diolch am hyn - ti'n cael dipyn go dda o ddarllenwyr - mwy nag oeddwn i'n disgwyl. Da iawn. A da iawn am flogio'n Gymraeg.

M.