Friday, October 09, 2009

A fydd y toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn effeithio llai ar Gymru nag ar Loegr?

'Dwi'n petruso cyn gofyn y cwestiwn, rhag gwneud ffwl ohonof fi fy hun - ond mi wnaf i beth bynnag.

Mae'r pleidiau mawr Prydeinig yn dweud y byddant yn cynnig gwarchodaeth i addysg a iechyd yn ystod toriadau mawr y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae'r fformiwla Barnett yn cyllido Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy ddarparu canran (5% yn achos Cymru) o wariant cyhoeddus ar feysydd dynodedig yn Lloegr i'r gwledydd hynny. Addysg ac iechyd sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gwariant dynodedig hwnnw o lawer iawn.

Mae'n ymddangos i mi felly y bydd dyraniad Cymru yn 5% o feysydd fydd yn derbyn gwarchodiad.

Ydw i'n methu rhywbeth?

2 comments:

Penderyn said...

Wyt ychydig. Mae fformiwla Barnett yn dynodi'r newid mewn gwariant cyhoeddus yn seiliedig ar yr arian presennol +/- y newid mewn gwariant yn Lloegr. Y mwya i gyd mae gwariant cyhoeddus yn seiliedig ar yr arian presennol (sef arian 1978 fel base line) mwya' i gyd mae arian Cymru yn aros yr un fath.

FELLY - os yw'r newid yn +10% mewn gwariant cyhoeddus mae'r fformiwla yn meddwl fod cymryd yn gwneud ychydig yn waeth na Lloegr (pwynt sy'n cael ei esbonio yn llawn yn adroddiad Holtham); OND os yw'r newid yn 0% does dim symud lefelau gwariant cyhoeddus Cymru tuag at wariant cyhoeddus Lloegr.

Mewn ffordd od iawn felly y lleia' byd o gynnydd sydd mewn gwariant cyhoeddus yr arafa' i gyd mae gwariant cyhoeddus y pen yng Nghymru a Lloegr yn dod at ei gilydd.

menaiblog said...

Ia - ond os ydi gwariant cyffredinol yn syrthio yn Lloegr - ond bod yr elfennau sy'n ymwneud ag addysg a iechyd yn aros yr un peth - yna beth wedyn?