Ond am rhyw reswm wnaeth Guto ddim trafferthu i adrodd yn ol o gwbl rhwng hynny a rwan. Mae'n bosibl wrth gwrs na chafodd gyfle, cyn bod y digwyddiad mor llawn a diddorol. Digon teg - ond mi gafodd gyfle i ail adrodd stori ddibwys a phlwyfol am gynghorydd yn Aberconwy oedd eisoes wedi ei hadrodd gan ei elyn achlysurol - Oscar.
Ymddengys bod Guto'n edrych ymlaen at un neu ddau o eitemau'n arbennig - I'm looking forward to a fringe meeting discussing the Centre for Social Justice report on reducing the dependency culture in the UK and also to hear Chris Grayling MP outline his ideas on how to tackle anti social behaviour.
Rydym yn aros o hyd am adroddiad o'r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod ymylol oedd yn ymdrin a syniadau siop rwdlan Iain Duncan Smith, a 'does gennym ni ddim syniad chwaith os ydi Chris Grayling mor awyddus a'i fos i ymgoleddu hwdis.
Hwyrach mai'r broblem ydi nad oes dim oll ond darogan gwae, angau a distryw i adrodd yn ol arno, ac nad oes gan Guto stumog mor gryf ag un George Osborne. Os nad ydi'r Toriaid eu hunain eisiau riportio ar eu cynhadledd, mi wna i yn eu lle. Peidied neb a honni nad ydi blogmenai yn darparu gwasanaeth cyflawn. Dyma rai o'r addewidion a gafwyd eisoes:
- Rhewi cyflogau 5 miliwn o weithwyr sector gyhoeddus.
- 3 biliwn o doriadau i'r weinyddiaeth sifil.
- Neb yn y sector cyhoeddus i gael cyflog uwch nag un David Cameron, heb ganiatad gan ei hen fet coleg - George Osborne.
- Diddymu ymddiriedolaethau plant i'r rhan fwyaf o bobl.
- Symud oed pension dynion o 65 i 66, a chymryd camau i symud yr oedran i ferched i'r un lle.
- Dod a'r means test yn ol mewn perthynas a chredydau treth.
- Difa gallu cynghorau i liniaru ar y toriadau arfaethiedig trwy rewi treth y cyngor.
- Cyfyngu ar fudd daliadau anabledd a gorfodi 500,000 o bobl sal i weithio.
- Diddymu Future Jobs Fund sy'n rhoi chwe mis o waith i 150,000 o bobl ifanc.
- Annog pobl tros 65 i 'wirfoddoli' i dalu £8,000 o flaen llaw er mwyn yswirio eu hunain rhag colli eu tai - cam fyddai'n sicr o arwain cynghorau lleol i ddympio pobl sydd wedi cymryd yr yswiriant mewn cartrefi i'r henoed yn hytrach na gofalu amdanynt adref.
- Creu worcws ar gyfer mamau sengl (OK mi gawsom ni'r em fach yma cyn y gynhadledd).
Mae'r ystumio nad ydi'r dirwasgiad yn ddim oll i wneud efo nhw yn ddigri - y rheswm yr ydym yn y twll yr ydym ynddo ar hyn o bryd ydi oherwydd i Lafur ddechrau edrych ar fancwyr yn benodol, a'r sector breifat yn gyffredinol, yn yr un ffordd babiaidd na mae'r Toriaid yn edrych arnynt - duwiau nad oes angen eu rheoli am na fedrant wneud camgymeriadau. Mi fyddem yn yr un llanast yn union petai'r Toriaid wedi rheoli am y deuddeg mlynedd diwethaf.
Ta waeth - yn ol at Geidwadwyr Aberconwy. Mae'n amlwg o ddarllen eu blog mai rhyngddyn nhw a Phlaid Cymru mae hi - dydyn nhw prin yn trafferthu ymosod ar y Blaid Lafur. Eu prif (os nad eu hunig) strategaeth ydi ceisio cysylltu Plaid Cymru mor agos a phosibl at Blaid Lafur amhoblogaidd. Mae hynny'n ddigon teg - felly mae etholiadau yn cael eu hymladd.
Y strategaeth i'r Blaid yn Aberconwy ddylai fod i wneud yn glir mai Plaid Cymru, a Phlaid Cymru yn unig, all guro'r Ceidwadwyr yn yr etholaeth honno. Yn hyn o beth mae ymysodiadau mynych y Toriaid ar y Blaid o gymorth. Dylai'r rhestr faith o doriadau mae'r Toriaid am eu gweithredu, a'r awch amlwg i gael gwneud hynny, helpu hefyd. Byddai strategaeth felly hefyd yn ddigon teg.
Y tro diwethaf i lywodraeth Doriaidd gymryd trosodd oddi wrth un Llafur yn 1979, roedd yna lanast economaidd bryd hynny hefyd, ac roedd rhaid i'r Toriaid dorri'n ol ar wariant cyhoeddus. Mi wnaethant hynny, ac aethant yn llawer iawn pellach nag oedd rhaid - gyda Geoffrey Howe yn troi rhesymeg economaidd ar ei ben yn 1981 ac yn torri gwariant cyhoeddus yng nghanol dirwasgiad - rhywbeth roedd Cameron ac Osborne eisiau ei wneud eleni a llynedd.
Yr unig ffordd i bobl Aberconwy - a nifer o lefydd eraill yng Nghymru - bleidleisio'n effeithiol yn erbyn toriadau gormodol a chyn amserol mewn gwariant cyhoeddus - toriadau sydd wedi eu gyrru gan ddogma adain Dde, simplistaidd a phlentynaidd, ydi trwy fwrw pleidlais i Blaid Cymru. Mae natur ymgyrch y Toriaid yn Aberconwy yn fwy o brawf o hynny na dim y gallaf i ei ddweud.
8 comments:
Cai 'dau ymennydd' Larsen gyda'i farn alluog unwaith eto. Mi fydd y Ceidwadwyr yn crynu dros Gogledd Cymru
Ond hold on, beth am y toriadau ariannol gan Cyngor Gwynedd.
"Yn ystod y misoedd nesaf bydd Cynghorwyr Gwynedd yn ystyried strategaeth arbedion cynhwysfawr a rhagweithiol er mwyn gwireddu £16 miliwn o arbedion ychwanegol dros y tair blynedd nesaf. Mae’r strategaeth wedi ei datblygu mewn ymateb i’r disgwyliad y bydd lleihad sylweddol i gyllideb holl awdurdodau lleol Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Yn y lle cyntaf, bydd y strategaeth arbedion yn ceisio adnabod mwy o bosibiliadau ar gyfer arbed arian na sydd ei angen, fel y gall Cynghorwyr flaenoriaethu £16 miliwn o arbedion gwirioneddol a fydd o bosib angen eu gwireddu rhwng 2010/11 a 2012/13. Bydd y swm o £16 miliwn yn ychwanegol i’r £14.4 miliwn o arbedion y bydd y Cyngor wedi eu gwireddu rhwng 2006/06 a 2009/10." (Datganiad i'r Wasg can Cyngor Gwynedd, Mehefin 2009)."
Felly bai'r Ceidwadwyr pan fydd rhaid gwneud toriadau yn genedlaethol ond bai pawb arall pan mae rhaid i'r Blaid gwneud toriadau yng Ngwynedd.
Hypocrisy llwyr fel arfer gan rywun sydd braidd yn rhy glyfar, hyd yn oed am brifathro ysgol gynradd. Dwi'n cysgu'n dawel pob nos gan wybod fod unigolion mor anwleidyddol yn edrych ar ôl ein plant ysgol yng Ngwynedd.
p.s. Beth am bostio llun o "David" Wigley pan oedd yn Ysgol Breifat Rydal ym Mae Colwyn? Mi eith yn gret gyda'r llun o George Osborne.
O diar, o diar - a minnau dim ond yn trio helpu.
Tydi hi'n hawdd pechu dywedwch?
Ag anwybyddu'r sterics am ennyd, efallai y dyliwn egluro i'r giaman las bod llywodraeth leol - Gwynedd yn gynwysiedig, yn cael ei ariannu bron yn llwyr gan y Cynulliad - sydd yn ei dro yn cael ei ariannu gan San Steffan.
Mae'r cyllid sy'n cael ei ddatganoli o San Steffan i'r Cynulliad - ac yna o'r Cynulliad i'r awdurdodau lleol am grebachu oherwydd y dirwasgiad. Mi fydd y toriadau yn waeth nag arfer oherwydd natur y dirwasgiad yma - a'r ffaith bod cadw'r banciau yn arnofio yn ddrud.
Mae'n bosibl beio cynghorau am gam ddefnyddio pres - ond dydi hi ddim yn bosibl eu beio oherwydd bod eu cyllid yn cael ei dorri. Mi fyddwn wedi meddwl y byddai hyn oll yn hysbys i'r giaman o bawb, ond dyna fo.
Does gen i ddim llun o Mr Wigley yn Rydal, ond go brin y byddwn yn ei bostio pe byddwn efo un - blog gwleidyddol sy'n arddel safbwynt pleidiol ydi hwn - nid ymdrech BBCaidd i fod yn deg efo pawb.
Hei Cai,
Diolch am y sylw!
Fel y gwyddost dwi bob amser yn cyfrannu yma yn fy enw fy hun. Nid fi oedd Cath Las ac dwi'n sicr y byddet yn gallu defnyddio'r dechnoleg i ddatgan hynny.
O ran fy methiant i gyfrannu o'r gynhadledd - syml a dewud gwir, doedd gennyf ddom cysylltiad gyda'r we. Do fe gafwyd ambell, gyfraniad byr iawn ond hynny o stondin Microsoft.
Fe fydd 'na sylw reir fanwl ar y blog rwan fy mod adref.
Guto
Mae'r cwrcyn braidd yn sensitif ynglyn ei byttis bonheddig. Hi hi....
GB - Hei Cai,
Diolch am y sylw!
Croeso.
GB - Nid fi oedd Cath Las ac dwi'n sicr y byddet yn gallu defnyddio'r dechnoleg i ddatgan hynny.
Tw reit. Mae IP'r Gath Las yn hynod ddiddorol erbyn edrych.
Beth bynnag ein anghytundebau, ti'n dadlau ar lefel tipyn uwch na dy efaill glas.
Cai,
Y piti ydi fy mod yn trio dadlau efo chdi fan yma ar sail gweddol gall ond mae dy flogiad heno ymhell o fod yn gwahodd trafodaeth aeddfed.
Ta waeth, falle y byddaf yn ymateb i rai o dy gyfraniadau mwyaf eithafol maes o law.
O ran sylw Mr Anhysbys, dwi'n hynod falch o gyfraniadau Osborne a DC yn ystod yr wythnos. Plentynaidd 'di ymosod ar unrhyw un am ei gefndir ac fwy felly heb y 'gyts' i ddatgan dy enw.
Un rheswm - ac un rheswm yn unig - sydd o blaid bwrw pleidlais dros y Blaid yn Aberconwy, sef hyrwyddo buddiannau cenedlaetholdeb.
Pam cyfyngu ar gefnogaeth y Blaid trwy ymgysylltu (unwaith eto) a gwleidyddiaeth fethedig y Chwith? Beth yw'r obsesiwn gwirion yma yn rhengoedd y Blaid efo dibyniaeth economaidd ar y Wladwriaeth Brydeinig?
Pe bai rhywun yn bwrw pleidlais ar sail ystyriaethau economaidd yn unig, mae'n amlwg mai Guto Bebb piau hi.
SB - Un rheswm - ac un rheswm yn unig - sydd o blaid bwrw pleidlais dros y Blaid yn Aberconwy, sef hyrwyddo buddiannau cenedlaetholdeb.
Wel mae hynny'n dibynnu ar dy berspectif ynglyn a'r toriadau sydd ar y gweill. Hefyd, wrth gwrs, fedri di ddim ennill etholiadau - yn arbennig rhai FPTP yn rhywle fel Aberconwy ar ddadl sydd yn ei hanfod yn un gyfansoddiadol. 'Dydi pethau ddim yn gweithio felly - anffodus, ond fel yna mae hi. Beth ti'n ei olygu ydi mai un rheswm y byddai i ti bleidleisio i'r Blaid yn Aberconwy - ac mae hynny'n ddigon teg.
SB - Pam cyfyngu ar gefnogaeth y Blaid trwy ymgysylltu (unwaith eto) a gwleidyddiaeth fethedig y Chwith? Beth yw'r obsesiwn gwirion yma yn rhengoedd y Blaid efo dibyniaeth economaidd ar y Wladwriaeth Brydeinig?
Pe bai rhywun yn bwrw pleidlais ar sail ystyriaethau economaidd yn unig, mae'n amlwg mai Guto Bebb piau hi.
Gwleidyddiaeth methedig y Dde (ar ffurf New Labour) sydd wedi'n cael ni i mewn i'r picil economaidd rydym ynddo ar hyn o bryd.
Post a Comment