Tuesday, October 20, 2009

Y Comisiwn Ffiniau


Mae'r Comisiwn Ffiniau ar fin edrych ar ffiniau wardiau Gwynedd.

Ymddengys eu bod o dan gyfarwyddiadau gan y Gweinidog i geisio peidio a chael wardiau un aelod o llai na 1,750 o etholwyr. Ychydig iawn o wardiau un sedd sydd a mwy na'r ffigwr hwn ar hyn o bryd. Yn wir mae nifer gydag o dan hanner hynny o etholwyr.

Petai'r comisiwn yn cadw yn gaeth i'w gyfarwyddiadau byddai'r nifer o seddi yng Ngwynedd yn cwympo o 75 i 50. Byddai hyn yn newid sylweddol, a byddai'n effeithio yn arbennig ar wardiau gwledig.

Mae'n debyg bod 75 cynghorydd yn ormod i sir o boblogaeth Gwynedd, ond byddwn yn meddwl bod 50 yn rhy ychydig. Gobeithio y bydd y Comisiwn yn cydnabod bod anawsterau arbennig yn wynebu cynghorwyr sy'n cynrychioli wardiau gwledig iawn.

2 comments:

Anonymous said...

Mae argymhellion drafft y comisiwn ar gyfer y dair sir maent wedi edrych arnynt mor belled (Castell Nedd Port Talbot, Casnewydd, a Dinbych) yn wirioneddol frawychus.
Mae'n ymddangos eu bod yn obsessed efo'r ffigwr o 1:1750, ar er mwyn cyflawni hyn wedi cynnig creu wardiau anferth o 9000 etholwr fydd yn ethol 5 cynghorydd, ac erchyllbethau felly.
Dwi wedi bod yn meddwl am beth sydd tu ol i'r fath wallgofrwydd, ond ar y funud fedra i ddim meddwl am unrhywbeth heblaw fod y comisiynwyr yn ddi-glem.

Anonymous said...

Mae'r hyn sydd wedi ei argymell yn Sir Ddinbych yn dangos yn glir nad yw maint daearyddol ward etholiadol yn cyfrif am ddim yn nhyb y Comisiwn.
Dwi'n rhagweld tipyn o gur pen i rai o'r pleidiau wrth i gynghorwyr orfod cystadlu yn erbyn ei gilydd am ymgeisyddiaeth rhai o'r seddi newydd!